Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 28 Medi 2022.
Fel y dadleuais, mae'n gwbl briodol ein bod yn ceisio manteisio ar botensial porthladd rhydd, ond yr hyn y gelwais amdano yw gonestrwydd ynglŷn â beth y gallai'r risgiau fod a'r angen i liniaru hynny. Roedd yn siomedig fod y Ceidwadwyr, gan gynnwys yr AS lleol, yn fodlon derbyn £8 miliwn yn hytrach na £25 miliwn ar gyfer porthladd rhydd ar Ynys Môn, ac rwy’n falch bellach ein bod, drwy gydweithio, wedi gallu sicrhau y gallai'r swm llawn o gyllid, fel sy’n mynd i borthladdoedd rhydd yn Lloegr, ddod i Gaergybi. Mae hefyd yn bwysig mai'r cyngor sy'n chwarae'r brif ran bellach yn sicrhau bod cynnig cryf, diogel a chadarn yn cael ei lunio. A wnaiff y Gweinidog ddweud sut y mae’n bwriadu gweithio gyda’r cyngor yn awr i sicrhau bod Ynys Môn mewn sefyllfa ddigon cryf i wneud cynnig da, ond hefyd i ddiogelu lles gweithwyr a rheoliadau amgylcheddol?