2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 28 Medi 2022.
8. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at gyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio? OQ58455
Diolch. Rydym wedi ymrwymo i gyfyngu ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid fferm. Rydym yn gweithio ar y cyd â gweinyddiaethau eraill i archwilio’r defnydd o gewyll wedi’u cyfoethogi ar gyfer ieir dodwy, llociau porchella ar gyfer moch, a chewyll bridio ar gyfer adar hela.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch y defnydd o gewyll ar gyfer bridio adar hela. Mae petris fel arfer yn paru â phartner am oes yn y gwyllt, ond mewn cewyll bridio masnachol, cânt eu gorfodi at ei gilydd, ac weithiau, eu gwneud i wisgo cyfrwyau a gorchuddion ar eu pigau i'w hamddiffyn rhag cael eu hanafu. Mae'r arfer hwn yn greulon a diangen, a'r cyfan yn enw chwaraeon. Yn 2021, canfu arolwg barn a gomisiynwyd gan y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon fod 72 y cant o bobl yng Nghymru yn gwrthwynebu’r defnydd o gewyll ar gyfer bridio adar hela. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraethau’r DU a’r Alban i archwilio’r dystiolaeth ynghylch y defnydd o gewyll ar gyfer bridio adar hela, a pha gynnydd a wnaed mewn perthynas â hyn ers cyhoeddi cynllun lles anifeiliaid Cymru eleni? Diolch.
Diolch. Rydym yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill—fe sonioch chi am Lywodraethau'r DU a'r Alban—i edrych ar sut a ble y defnyddir cewyll, ochr yn ochr ag effeithiau lles systemau presennol a lle ceir systemau amgen hefyd. Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 yn nodi amodau manwl ar gyfer cadw anifeiliaid fferm, ac mae gennym god ymarfer hefyd ar gyfer lles adar hela sy'n cael eu magu at ddibenion chwaraeon. Mae hwnnw’n darparu canllawiau ymarferol, sy’n esbonio beth sydd angen i unigolyn ei wneud i fodloni’r safonau gofal y mae’r gyfraith yn eu mynnu. Ni ddylid ystyried defnyddio, fel mater o drefn, arferion neu ddyfeisiau rheoli nad ydynt yn caniatáu i adar fynegi eu hystod o ymddygiadau arferol yn llawn, a dylai ceidwaid weithio tuag at ddefnyddio systemau rheoli lle nad oes angen dyfeisiau o'r fath.
Rydym wedi cael adolygiad o’n cod ymarfer ar gyfer lles adar hela, ond ar hyn o bryd, mae hwnnw wedi cael ei ohirio am fod gennym gymaint o waith gan y Llywodraethau eraill y mae angen i ni ei archwilio. Felly, ar ôl inni edrych ar y dystiolaeth mewn perthynas â hynny, gallwn edrych i weld a oes angen newid y cod ymarfer hwnnw. Ni fyddem yn ei newid heb ymgynghori gyda'n rhanddeiliaid, gan y credaf fod hynny'n bwysig iawn.
Weinidog, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar saethu a chadwraeth, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi anfon llythyrau atoch o'r blaen ynghylch ffliw adar a’r anawsterau a achosodd hynny mewn perthynas â mewnforio wyau i ddeorfeydd yma yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae digwyddiadau saethu adar hela yng Nghymru yn bwriadu datblygu eu rhaglenni bridio eu hunain fel nad ydynt bellach yn dibynnu ar fewnforio wyau. Felly, pa waith a wnewch i sicrhau bod y busnesau hyn yn ymwybodol o’r newidiadau y byddwch yn eu gwneud, fel y gallant fuddsoddi eu harian yn ddoeth?
Diolch. Wel, yn sicr, gyda ffliw adar, rydym wedi cael blwyddyn anodd iawn. Mae fel arfer yn dechrau oddeutu mis Hydref ac rydym yn gweld rhywfaint o welliant erbyn mis Mawrth, ond yn anffodus, credaf ein bod wedi cael tri achos newydd yn y DU yr wythnos ddiwethaf yn unig. Felly, nid ydym wedi cael unrhyw egwyl o gwbl. Felly, rydych yn llygad eich lle i godi mater ffliw adar. Fel y dywedais, ni fyddem yn gwneud unrhyw beth heb ymgynghori â’n rhanddeiliaid, ac yn amlwg, byddent hwy'n rhai o’r rhanddeiliaid, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y dystiolaeth helaeth sy'n dod gan y gweinyddiaethau datganoledig eraill a Llywodraeth y DU.