Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch i'r Llywydd am gyflwyno hyn, ac am yr holl waith pwysig y mae hi'n ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith ar lawr y Senedd hon ac ar draws ystad Senedd Cymru. Diolch hefyd i'r Aelod o Ynys Môn am agor y ddadl. Mae'n bwysig ein bod yn arwain drwy esiampl yma yn y Senedd, nid yn unig i gyflawni targedau uchelgeisiol 'Cymraeg 2050', y byddwn yn cael diweddariad arnynt yr wythnos nesaf, ond hefyd i chwarae ein rhan i ddiogelu'r Gymraeg am genedlaethau i ddod.
Mae'r chweched Senedd hon wedi tystio i ddau ddiwrnod pwysig yn hanes modern yr iaith Gymraeg. Fis Hydref diwethaf, cafwyd yr agoriad brenhinol, sef ymweliad olaf y Frenhines Elizabeth. Fel y noda'r adroddiad, bu dwyieithrwydd yn rhan annatod o'r digwyddiad hwn, gyda chyfraniadau a pherfformiadau yn gwneud defnydd o'r ddwy iaith swyddogol fel rhan o'r dathliadau. Roedd yr ail un hefyd yn digwydd bod yn ymweliad brenhinol, pan ymwelodd y Brenin newydd â'r Senedd yn gynharach y mis hwn i dderbyn ein cynnig o gydymdeimlad. Gwelsom ein Brenin yn siarad â'r Siambr hon yn Gymraeg—araith wirioneddol ddwyieithog. Roedd hwn yn achlysur hanesyddol, sy'n dangos pa mor bell y mae'r Gymraeg wedi dod. Bydd hyn hefyd yn rhoi ysbrydoliaeth i lawer o'n hetholwyr.
Rwy'n falch o fod yn rhan o Senedd sy'n enghraifft gref o weithle dwyieithog, agored a chefnogol, sy'n meithrin datblygiad a defnydd o'r Gymraeg ar yr un lefel â'r Saesneg. Mae'r ffigurau ar gael i ddangos sut y mae'r defnydd o'r Gymraeg wedi cynyddu mewn busnes swyddogol gan Aelodau'r Senedd. Gofynnwyd 14 y cant o gwestiynau llafar yn Gymraeg neu'n ddwyieithog yn 2021-22, i fyny o 11 y cant yn y flwyddyn cyn COVID, 2018-19. Yn ystod yr un cyfnod, gwnaed 30 y cant o gyfraniadau ar lawr y Senedd yn ddwyieithog neu yn y Gymraeg, o'i gymharu ag 18 y cant yn 2018-19. Mae'r rhain yn ddatblygiadau gwych, ond mae llawer mwy i'w wneud.
Mae'n werth nodi, dros yr un cyfnod o amser, bod nifer y cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn y Gymraeg wedi gostwng o 10 y cant i 4 y cant, sy'n arwydd, efallai, bod mwy o gysur wrth ddefnyddio Cymraeg llafar na Chymraeg ysgrifenedig—rhywbeth rydw i'n bersonol yn ei deimlo. Nodaf o'r adroddiad bod nifer o gynlluniau ar waith i ddatblygu'r cynllun ieithoedd swyddogol ymhellach yn ystod y tymor seneddol hwn. Byddwn yn annog rhywfaint o ffocws ar yr agwedd ysgrifenedig ar yr iaith, yn ogystal â'r gair llafar, a byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oes unrhyw dargedau yn eu lle i fesur llwyddiant y cynllun dros y blynyddoedd i ddod.
Dirprwy Lywydd, mae llwyddiant y cynllun hwn yn bwysig. Fel y Blaid Geidwadol, mae gan y cynllun ein cefnogaeth; fe wnaf i wneud popeth y gallaf i'w weld e'n llwyddiannus, a gweld datblygiad a defnydd pellach o'r famiaith hanesyddol ar draws yr ystad seneddol ac ym mhob agwedd ar ein gwaith. Diolch.