– Senedd Cymru am 3:20 pm ar 28 Medi 2022.
Eitem 5 sydd nesaf, felly, y cynnig i gymeradwyo'r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y chweched Senedd ac i nodi yr adroddiad blynyddol ar y cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer 2021-22. Dwi'n galw ar y Comisiynydd, Rhun ap Iorwerth, i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8078 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 21 Medi 2022; a
2. Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2021-22, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser cyflwyno dwy ddogfen gerbron y Senedd heddiw, sef yr adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol y Senedd ar gyfer 2021-22, a'r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y chweched Senedd.
Gadewch i fi droi, yn y lle cyntaf, at yr adroddiad blynyddol. Mi fydd Aelodau yn gyfarwydd efo'r drefn o gynnal dadl flynyddol ar ein gwaith dros y flwyddyn. Yn unol â gofynion Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, mae'n rhaid i Gomisiwn y Senedd adrodd yn flynyddol ar ei waith yn darparu gwasanaethau dwyieithog, ac unrhyw gwynion neu achosion fu o fethu â chydymffurfio. Yn ôl yr arfer, mi gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar y cyd ag adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Senedd, a'r adroddiadau blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant a chynaliadwyedd, fis Mehefin.
Eleni, mae gwaith y tîm ieithoedd swyddogol wedi canolbwyntio yn bennaf ar y broses o baratoi'r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y chweched Senedd—mi fyddaf i'n troi at y cynllun hwnnw yn nes ymlaen—a chau pen y mwdwl ar gynllun y bumed Senedd.
Dros y flwyddyn, mi groesawyd nifer fawr o Aelodau newydd o'r Senedd, wrth gwrs, ac mi fu'r tîm yn gweithio efo'r Aelodau hynny i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o ofynion y cynllun, a hefyd i sicrhau eu bod nhw'n gallu gweithio yn eu dewis iaith neu ieithoedd swyddogol yn ddiofyn. Dwi eisiau diolch i'r holl Aelodau a'u staff cymorth nhw hefyd am eu cefnogaeth wrth inni roi gofynion y cynllun ar waith, ac am gynnig adborth, sydd mor bwysig, ar ein gwasanaethau dwyieithog.
Wrth sôn am wasanaethau dwyieithog, mae'n bwysig hefyd nodi bod nifer y dysgwyr sy'n derbyn gwersi gan y tîm tiwtora wedi cynyddu; mae hynny'n dda iawn i'w weld bob amser wrth gwrs, p'un ai'n Aelodau gafodd eu hailethol yn dychwelyd i'w gwersi neu'n ddysgwyr cwbl newydd. Mae'n braf gweld yr Aelodau sy'n dysgu wedyn yn defnyddio eu sgiliau mewn trafodion, a'r ffordd y mae eu cyd-Aelodau nhw ar draws y Senedd yn dathlu eu llwyddiannau wrth iddyn nhw gyfrannu, am y tro cyntaf o bosib, yn gyhoeddus yn y Gymraeg. Nid peth hawdd ydi mentro ac mae'r gefnogaeth honno yn bwysig er mwyn annog Aelodau i gario ymlaen i ddysgu, ar un llaw, ond yn bwysicach, mae'n siŵr, i ddefnyddio eu Cymraeg.
Mi fydd Aelodau yn ymwybodol o'r wybodaeth ystadegol sy’n rhan o'r adroddiadau blynyddol erbyn hyn. Mae'r wybodaeth yn bwysig. Mae o'n caniatáu inni fonitro sawl maes, gan gynnwys nifer y swyddi sy'n cael eu hysbysebu ar lefel cwrteisi, neu sydd â gofyniad am sgiliau ar lefel uwch na hynny, sy'n rhan o'n prosesau cynllunio ieithyddol parhaus. Rydyn ni hefyd yn monitro canran y cyfraniadau cyfrwng Cymraeg sy'n cael eu gwneud mewn Cyfarfodydd Llawn fel hyn, neu mewn cyfarfodydd pwyllgorau. Mae casglu gwybodaeth o'r math yma yn ein helpu ni i fonitro effeithiolrwydd y gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau, i'w helpu nhw i ddefnyddio'u dewis iaith wrth baratoi ac wrth gymryd rhan mewn trafodion. Mi fyddwn ni'n parhau i fonitro ac i chwilio am ffyrdd o annog a thyfu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg, ac i ddeall a chael gwared ar y rhwystrau sydd yn bodoli o bryd i'w gilydd, er mwyn sicrhau bod y patrwm sydd ar y cyfan yn bositif yn parhau.
Ac wrth gwrs, mae hyn yr un mor bwysig wrth hwyluso pobl sy'n dod i gyswllt efo'r Senedd, i'w cael nhw i deimlo’n gyfforddus yn defnyddio'r Gymraeg—tystion i bwyllgorau ac yn y blaen. Dwi wedi sôn o'r blaen fy mod i'n credu bod gweithio ar-lein o ganlyniad i'r pandemig wedi tynnu rhai o'r rhwystrau mewn rhai ffyrdd, bod cyfieithu'n digwydd yn gwbl naturiol ac yn llifo'n haws, mewn llawer o ffyrdd, heb yr angen am roi a thynnu clustffonau ac ati. Mae eisiau dysgu o hynny, dwi'n meddwl, ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu hybrid hefyd.
Cyn imi droi at y cynllun newydd, mae'n werth imi dynnu sylw at y ffaith na chafodd unrhyw gwynion eu derbyn eleni am ein gwasanaethau dwyieithog, a phrin iawn hefyd fu'r nifer o achosion o fethu â chydymffurfio efo'r cynllun—adlewyrchiad, efallai, o'r ffaith bod egwyddorion y cynllun wedi eu gwreiddio go iawn i brosesau a gwaith bob dydd y sefydliad. Wrth gwrs, pan fydd achosion o’r fath yn codi, mi fyddwn ni yn sicrhau ein bod ni’n cymryd camau i unioni’r sefyllfa ac yn cofnodi ac yn rhannu unrhyw wersi sydd angen eu dysgu er mwyn osgoi achosion tebyg rhag codi yn y dyfodol. Dysgu ydym ni o hyd.
Mi symudaf i ymlaen rŵan at y cynllun ieithoedd swyddogol newydd ar gyfer y chweched Senedd. Mi fydd y rheini sy’n gyfarwydd â’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y bumed Senedd yn gweld yn syth ein bod ni wedi gwneud newid eithaf sylweddol i ddiwyg y cynllun ar gyfer y chweched Senedd. Mae hyn mewn ymateb i sylwadau gan Aelodau a staff ynglŷn â hyd y ddogfen, o bosib, ac ambell dro beth oedd yn cael ei weld efallai fel natur ychydig yn amwys i rai elfennau o’r safonau gwasanaeth. Wrth ddrafftio’r cynllun ar gyfer y chweched Senedd felly, mi oedd yna ymdrech fwriadol i gwtogi rhywfaint ar y naratif ac i lunio safonau gwasanaeth mwy penodol, a'u gwneud nhw mor glir ag sy'n bosib. Ein gobaith ni ydy y bydd hyn yn creu dogfen sy’n fwy perthnasol ac yn haws i’w defnyddio i’n holl randdeiliaid ni.
Rydyn ni hefyd wedi cyfuno’r strategaeth sgiliau iaith, oedd yn arfer bod yn ddogfen ar wahân, efo’r cynllun ei hun. Wrth drafod efo rhanddeiliaid a defnyddwyr dros gyfnod y bumed Senedd, y teimlad oedd bod y strategaeth yn rhan annatod mewn difrif o’r cynllun ieithoedd swyddogol ac felly y byddai’n fwy synhwyrol cyfuno’r ddwy ddogfen yn un. Cawn ni weld os ydych chi'n cytuno â hynny. Mi fydd hyn, dwi’n meddwl, nid yn unig yn sicrhau ein bod ni’n cadw gofynion y strategaeth mewn cof wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau dwyieithog yn y dyfodol, ond mi fydd o hefyd yn ei gwneud hi’n haws i Aelodau ein dal ni i gyfrif ar y cynnwys yn ystod y dadleuon blynyddol fel hyn, ac mae hynny'n bwysig iawn, wrth gwrs.
Yn unol â gofynion y Ddeddf, mae’r cynllun ar gyfer y chweched Senedd hefyd yn nodi’r meysydd gwaith hynny y bydd Comisiwn y Senedd yn canolbwyntio arnyn nhw dros gyfnod y chweched Senedd, a hynny ar ffurf themâu. Mae’r themâu yn cynnwys amcanion fydd yn llywio ein gwaith ni ac yn sicrhau ein bod ni, gobeithio, yn parhau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog o’r radd flaenaf. Rydyn ni’n trio gwella a chryfhau’r gwasanaethau o hyd. Mi fyddwn ni, er enghraifft, yn adolygu’r systemau recriwtio o ran gofynion sgiliau iaith a gafodd eu rhoi ar waith yn ystod y bumed Senedd. A dweud y gwir, ein teimlad ni ydy mai mireinio a chynnal safonau ydy prif ddiben y themâu, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cynnal ein henw da fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog sy’n arwain y ffordd yn y maes yma. A thra ein bod ni'n chwilio wastad, fel dwi'n ei ddweud, am gyfleoedd i ddysgu oddi wrth eraill, rydyn ni hefyd yn eiddgar iawn i rannu’n profiadau ni a’n harbenigedd efo eraill.
A ninnau bellach wedi dod i arfer efo’r normal newydd yn dilyn y pandemig, mi fyddwn ni, fel y gwnes i gyfeirio ato fo’n gynharach, hefyd yn cyflwyno thema fydd yn nodi sut y byddwn ni'n dysgu o’n profiadau yn ystod y pandemig, yn benodol o ran y defnydd o’n hieithoedd swyddogol mewn trafodion, ond hefyd yn gyffredinol o ran yr heriau a’r cyfleoedd sydd wedi codi o ran darparu gwasanaethau dwyieithog.
Fel y gwyddoch chi, cyn y gall cynllun ieithoedd swyddogol newydd gael ei gyflwyno, mae’n rhaid i Gomisiwn y Senedd ymgynghori ar y cynnwys ac ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law drwy'r broses honno. Mi ddigwyddodd yr ymgynghoriad hwnnw ar sawl ffurf, gan gynnwys trafodaethau wyneb yn wyneb ac ar-lein, cyflwyno sylwadau ar ffurf electronig, ac ymgynghoriad ffurfiol ar ein gwefan ni hefyd, a buaswn i'n licio defnyddio'r cyfle yma i ddiolch i bawb a wnaeth ein helpu ni drwy'r broses honno i lunio'r cynllun fel ag y mae o erbyn hyn. Mi oedd pob un sylw yn werthfawr ac yn ddefnyddiol. Diolch yn arbennig i’r Aelodau a’u staff cymorth am eu hamser a’u sylwadau, a hefyd i’r pwyllgor diwylliant am gymryd amser i ystyried drafft. Mi gawson ni sylwadau hefyd gan sefydliadau allanol, a mewnbwn gan yr undebau llafur a staff Comisiwn y Senedd. Ac wrth gwrs dwi’n ddiolchgar tu hwnt i’r tîm wnaeth roi y cyfan at ei gilydd.
Wrth orffen am y tro, mi liciwn i ategu’r hyn ddywedais i yn y rhagair i’r cynllun newydd, sef ein bod ni fel Senedd yn gwasanaethu cenedl amrywiol, cenedl sy’n cynnwys yr ystod lawn o allu ieithyddol, cenedl aml-ddiwylliannol. Mae pobl Cymru yn disgwyl ein gweld ni yn gosod y safonau uchaf posibl ar draws ein holl wasanaethau, a gadewch i fi ddweud hyn: mae Senedd Cymru yn sefydliad i bawb, mae'r iaith Gymraeg yn iaith i bawb, ac mae’r cynllun yma, dwi'n ffyddiog, yn gosod fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog sy’n cefnogi pawb, sy’n eu hannog nhw i fynegi eu hunaniaeth, ac i wneud defnydd o'u sgiliau iaith waeth bynnag yw lefel y sgiliau hynny. Dwi'n edrych ymlaen at y cyfraniadau. Diolch yn fawr iawn ichi.
Diolch i'r Llywydd am gyflwyno hyn, ac am yr holl waith pwysig y mae hi'n ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith ar lawr y Senedd hon ac ar draws ystad Senedd Cymru. Diolch hefyd i'r Aelod o Ynys Môn am agor y ddadl. Mae'n bwysig ein bod yn arwain drwy esiampl yma yn y Senedd, nid yn unig i gyflawni targedau uchelgeisiol 'Cymraeg 2050', y byddwn yn cael diweddariad arnynt yr wythnos nesaf, ond hefyd i chwarae ein rhan i ddiogelu'r Gymraeg am genedlaethau i ddod.
Mae'r chweched Senedd hon wedi tystio i ddau ddiwrnod pwysig yn hanes modern yr iaith Gymraeg. Fis Hydref diwethaf, cafwyd yr agoriad brenhinol, sef ymweliad olaf y Frenhines Elizabeth. Fel y noda'r adroddiad, bu dwyieithrwydd yn rhan annatod o'r digwyddiad hwn, gyda chyfraniadau a pherfformiadau yn gwneud defnydd o'r ddwy iaith swyddogol fel rhan o'r dathliadau. Roedd yr ail un hefyd yn digwydd bod yn ymweliad brenhinol, pan ymwelodd y Brenin newydd â'r Senedd yn gynharach y mis hwn i dderbyn ein cynnig o gydymdeimlad. Gwelsom ein Brenin yn siarad â'r Siambr hon yn Gymraeg—araith wirioneddol ddwyieithog. Roedd hwn yn achlysur hanesyddol, sy'n dangos pa mor bell y mae'r Gymraeg wedi dod. Bydd hyn hefyd yn rhoi ysbrydoliaeth i lawer o'n hetholwyr.
Rwy'n falch o fod yn rhan o Senedd sy'n enghraifft gref o weithle dwyieithog, agored a chefnogol, sy'n meithrin datblygiad a defnydd o'r Gymraeg ar yr un lefel â'r Saesneg. Mae'r ffigurau ar gael i ddangos sut y mae'r defnydd o'r Gymraeg wedi cynyddu mewn busnes swyddogol gan Aelodau'r Senedd. Gofynnwyd 14 y cant o gwestiynau llafar yn Gymraeg neu'n ddwyieithog yn 2021-22, i fyny o 11 y cant yn y flwyddyn cyn COVID, 2018-19. Yn ystod yr un cyfnod, gwnaed 30 y cant o gyfraniadau ar lawr y Senedd yn ddwyieithog neu yn y Gymraeg, o'i gymharu ag 18 y cant yn 2018-19. Mae'r rhain yn ddatblygiadau gwych, ond mae llawer mwy i'w wneud.
Mae'n werth nodi, dros yr un cyfnod o amser, bod nifer y cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn y Gymraeg wedi gostwng o 10 y cant i 4 y cant, sy'n arwydd, efallai, bod mwy o gysur wrth ddefnyddio Cymraeg llafar na Chymraeg ysgrifenedig—rhywbeth rydw i'n bersonol yn ei deimlo. Nodaf o'r adroddiad bod nifer o gynlluniau ar waith i ddatblygu'r cynllun ieithoedd swyddogol ymhellach yn ystod y tymor seneddol hwn. Byddwn yn annog rhywfaint o ffocws ar yr agwedd ysgrifenedig ar yr iaith, yn ogystal â'r gair llafar, a byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oes unrhyw dargedau yn eu lle i fesur llwyddiant y cynllun dros y blynyddoedd i ddod.
Dirprwy Lywydd, mae llwyddiant y cynllun hwn yn bwysig. Fel y Blaid Geidwadol, mae gan y cynllun ein cefnogaeth; fe wnaf i wneud popeth y gallaf i'w weld e'n llwyddiannus, a gweld datblygiad a defnydd pellach o'r famiaith hanesyddol ar draws yr ystad seneddol ac ym mhob agwedd ar ein gwaith. Diolch.
Diolch yn fawr am y cynlluniau a'r adroddiadau yma. Dros y penwythnos, fe ges i'r pleser o ganu efo fy nghôr, CF1, gyda chôr arall ar gyfer y sioe deledu efo Rhys Meirion, Canu Gyda fy Arwr, i'w darlledu'n gynnar y flwyddyn nesaf. Dydy hi ddim yn anarferol i ni ymuno â chôr arall, ond yr hyn oedd yn anarferol ar yr achlysur yma oedd bod y corau nid yn unig yn canu ond hefyd yn defnyddio Makaton, ffurf o British Sign Language. Mae Lleisiau Llawen, sy'n cael eu hyfforddi gan Ceri a Sian, ac wedi eu lleoli yng Nghaernarfon, yn gôr adnabyddus sy'n rhoi cyfleon arbennig iawn i bobl anabl. Roedd yn bleser gweld aelodau'r côr hwnnw'n mynegi eu hunain drwy'r canu, ac roedd yr hapusrwydd ar eu hwynebau wrth berfformio yn hynod o emosiynol. Roedd y profiad yn fy atgoffa ac yn tanlinellu pwysigrwydd gweledigaeth Plaid Cymru i wneud Cymru'n lle mwy cynhwysol a thecach, gwlad lle nad yw neb yn cael ei adael ar ôl—dyna'r Gymru rydw i eisiau bod yn rhan ohoni. Gyda hynny mewn golwg, a oes unrhyw ystyriaeth wedi ei roi i wneud BSL yn iaith swyddogol o fewn y Senedd? Os nad ydych chi'n gallu rhoi'r ymrwymiad hwnnw i mi heddiw, pa fesurau pellach sydd yna y gellir eu cymryd i hyrwyddo BSL ac annog pobl i'w ddefnyddio'n ddyddiol i wella eu gallu i ymgysylltu â'r Senedd? Diolch yn fawr.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y ddau gyfraniad a gawson ni gan Sam Kurtz a Peredur Owen Griffiths. Dim ond ychydig o sylwadau oedd gen i, felly, i ymateb. Diolch yn fawr iawn i Sam Kurtz. Ydy, mae hi'n bwysig ein bod ni fel sefydliad yn dangos arweiniad yn bendant. Rydyn ni eisiau dangos yn fan hyn, onid ydyn, pa mor naturiol mae dwyieithrwydd yn gallu gweithredu mewn sefyllfa gyda'r mwyaf ffurfiol allwch chi gael, mewn ffordd. Ond hefyd, mae'r elfen yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ati hi o Gymraeg llafar yn rhywbeth dwi'n eiddgar iawn i'w ddathlu. O ran bod yn rhugl, mae lefel a defnydd pobl o iaith yn amrywio o un person i'r llall, ac mae eisiau cefnogi a dathlu pob ffordd mae pobl yn defnyddio'r iaith.
O ran mesur llwyddiant, fel rôn i'n sôn, mae yna ffyrdd rydyn ni'n gallu casglu data—casglu data mor foel â faint o Gymraeg sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod gweithgareddau'r Senedd. Ond mae yna fwy na hynny iddi hi dwi'n meddwl. Nid dim ond cyfri geiriau ydy mesur pa mor naturiol mae dwyieithrwydd yn digwydd. Mae hynny'n digwydd, gobeithio, mewn adborth drwy'r amser. Dwi eisiau i Aelodau fan hyn deimlo eu bod nhw'n gallu siarad efo fi fel comisiynydd—a dwi'n siŵr fy mod i'n gallu siarad ar ran y Llywydd a'r Dirprwy—fel bod yna ymdeimlad yma o allu rhannu ein syniadau a'n pryderon ynglŷn â sut i ehangu dwyieithrwydd yma.
I Peredur Owen Griffiths, diolch yn fawr iawn am rannu'r profiad o ganu efo'r côr, ac am gyfeirio at yr egwyddorion yna o gynhwysiant a thegwch sydd mor bwysig i ni. Mae'r cynhwysiant a'r tegwch yna yn rhywbeth sydd yn gallu cael ei roi yng nghyd-destun defnydd rhywun o iaith hefyd. Mae'n anodd i fi roi'r ymrwymiad, fel yr oedd yn awgrymu, ynglŷn â chreu statws iaith swyddogol arall, ond yr hyn ddywedaf efo BSL yw bod y Senedd, wrth gwrs, yn eiddgar iawn i weithio efo'n partneriaid i wneud yn siŵr bod yna gymaint â phosib o ddefnydd yn gallu cael ei wneud o BSL, ac yn sicr, pan fo pobl yn ymwneud â'r Senedd mewn sefyllfaoedd swyddogol, er enghraifft ceisio am swyddi a'r math yna o beth, bod y cynhwysiant yna yn cael ei ddangos tuag at bobl sydd yn defnyddio BSL. Mae'n darpariaeth ni ymhell o fod yn berffaith yma fel sefydliad, ond, wrth gwrs, rydyn ni'n eiddgar iawn i ddysgu a gwella o hyd.
Felly, diolch i chi am yr amser i gael trafod y ddau adroddiad yma heddiw. Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu trafod adroddiadau yn y ffordd yma yn dangos mor normal a naturiol a chyfforddus mae dwyieithrwydd yn gorwedd yma yn y Senedd. Mae yna le i wella yn fan hyn. Mae yna le i ni basio'n arbenigedd i eraill, ond peidiwch ag aros tan ymgynghoriadau swyddogol chwaith i drafod efo'r Comisiwn eich syniadau eich hun ynglŷn â defnydd yr iaith. Mae'n drws ni fel Comisiwn ar agor bob amser.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.