5. Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:35, 28 Medi 2022

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y ddau gyfraniad a gawson ni gan Sam Kurtz a Peredur Owen Griffiths. Dim ond ychydig o sylwadau oedd gen i, felly, i ymateb. Diolch yn fawr iawn i Sam Kurtz. Ydy, mae hi'n bwysig ein bod ni fel sefydliad yn dangos arweiniad yn bendant. Rydyn ni eisiau dangos yn fan hyn, onid ydyn, pa mor naturiol mae dwyieithrwydd yn gallu gweithredu mewn sefyllfa gyda'r mwyaf ffurfiol allwch chi gael, mewn ffordd. Ond hefyd, mae'r elfen yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ati hi o Gymraeg llafar yn rhywbeth dwi'n eiddgar iawn i'w ddathlu. O ran bod yn rhugl, mae lefel a defnydd pobl o iaith yn amrywio o un person i'r llall, ac mae eisiau cefnogi a dathlu pob ffordd mae pobl yn defnyddio'r iaith. 

O ran mesur llwyddiant, fel rôn i'n sôn, mae yna ffyrdd rydyn ni'n gallu casglu data—casglu data mor foel â faint o Gymraeg sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod gweithgareddau'r Senedd. Ond mae yna fwy na hynny iddi hi dwi'n meddwl. Nid dim ond cyfri geiriau ydy mesur pa mor naturiol mae dwyieithrwydd yn digwydd. Mae hynny'n digwydd, gobeithio, mewn adborth drwy'r amser. Dwi eisiau i Aelodau fan hyn deimlo eu bod nhw'n gallu siarad efo fi fel comisiynydd—a dwi'n siŵr fy mod i'n gallu siarad ar ran y Llywydd a'r Dirprwy—fel bod yna ymdeimlad yma o allu rhannu ein syniadau a'n pryderon ynglŷn â sut i ehangu dwyieithrwydd yma. 

I Peredur Owen Griffiths, diolch yn fawr iawn am rannu'r profiad o ganu efo'r côr, ac am gyfeirio at yr egwyddorion yna o gynhwysiant a thegwch sydd mor bwysig i ni. Mae'r cynhwysiant a'r tegwch yna yn rhywbeth sydd yn gallu cael ei roi yng nghyd-destun defnydd rhywun o iaith hefyd. Mae'n anodd i fi roi'r ymrwymiad, fel yr oedd yn awgrymu, ynglŷn â chreu statws iaith swyddogol arall, ond yr hyn ddywedaf efo BSL yw bod y Senedd, wrth gwrs, yn eiddgar iawn i weithio efo'n partneriaid i wneud yn siŵr bod yna gymaint â phosib o ddefnydd yn gallu cael ei wneud o BSL, ac yn sicr, pan fo pobl yn ymwneud â'r Senedd mewn sefyllfaoedd swyddogol, er enghraifft ceisio am swyddi a'r math yna o beth, bod y cynhwysiant yna yn cael ei ddangos tuag at bobl sydd yn defnyddio BSL. Mae'n darpariaeth ni ymhell o fod yn berffaith yma fel sefydliad, ond, wrth gwrs, rydyn ni'n eiddgar iawn i ddysgu a gwella o hyd. 

Felly, diolch i chi am yr amser i gael trafod y ddau adroddiad yma heddiw. Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu trafod adroddiadau yn y ffordd yma yn dangos mor normal a naturiol a chyfforddus mae dwyieithrwydd yn gorwedd yma yn y Senedd. Mae yna le i wella yn fan hyn. Mae yna le i ni basio'n arbenigedd i eraill, ond peidiwch ag aros tan ymgynghoriadau swyddogol chwaith i drafod efo'r Comisiwn eich syniadau eich hun ynglŷn â defnydd yr iaith. Mae'n drws ni fel Comisiwn ar agor bob amser.