Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch, Buffy, am agor y ddadl hon. Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi ymestyn Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys lleoliadau nyrsio cymunedol ac iechyd meddwl i gleifion mewnol. Rydym yn cefnogi ymestyn oherwydd mae'n amlwg i ni fod y sefyllfa y mae nyrsys yn cael eu rhoi ynddi'n annerbyniol ac yn y tymor hir, yn gwbl anghynaladwy i'r proffesiwn.
Bob wythnos, mae nyrsys yn gweithio 67,780 o oriau ychwanegol i GIG Cymru, sy'n gyfystyr â 1,807 o nyrsys ychwanegol. Yn y bôn golyga fod nyrsys yn cael eu gorweithio'n systematig gan fyrddau iechyd sy'n torri corneli yn y pen draw drwy beidio â chyflogi digon o nyrsys ar gyfer gofal cleifion. Yn y tymor hir, mae hyn yn niweidiol i iechyd meddwl ac iechyd corfforol nyrsys, sydd wedyn yn creu risg uwch y bydd gofal cleifion yn cael ei beryglu, ac yn cael sgil-effaith enfawr ar fywyd teuluol nyrsys wrth iddynt dreulio mwy a mwy o amser oddi wrth eu teuluoedd, yn gweithio shifftiau hwy o hyd. Mae'n creu argraff negyddol fod nyrsio'n ddewis gwael fel gyrfa.
Cefais fy synnu'n wirioneddol gan y nifer o achosion ym myrddau iechyd Cymru lle mae prinder staff wedi arwain at bryderon dwfn ynglŷn â diogelwch cleifion, a hyd yn oed wedi arwain at anafiadau a marwolaethau—o brinder bydwragedd yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, lle canfu adolygiad annibynnol y gallai traean o farw-enedigaethau fod wedi cael eu hatal gyda gofal a thriniaeth briodol, i brinder yng ngwasanaethau fasgwlaidd a gwasanaethau brys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle canfu Coleg Brenhinol y Llawfeddygon bwysau gweithredol uniongyrchol yn sgil argaeledd meddygon ymgynghorol a staff nyrsio o fewn y bwrdd iechyd. Mae'n amlwg fod pwysau staffio difrifol yn parhau ac yn arwain at ddiffygion difrifol mewn gofal.
Gan droi at iechyd meddwl, canfu adroddiad Ockenden ar Tawel Fan fod rhai cleifion wedi profi colli urddas, wedi cael eu gadael mewn cynfasau gwlyb gan wrin neu wedi'u canfod yn crwydro'r ward heb oruchwyliaeth. Yn yr un modd, canfu adroddiad Holden ar uned Hergest yng ngogledd Cymru fod lefelau staffio annigonol yn golygu na chafodd anghenion cleifion yn yr uned eu diwallu, ac arweiniodd hyn at beryglu urddas a diogelwch cleifion. Mae ymchwil grŵp y Ceidwadwyr Cymreig eu hunain wedi tynnu sylw at lefelau staffio anniogel yn unedau damweiniau ac achosion brys Cymru, ac mae'n amlwg fod gweithlu GIG Cymru yn parhau i wynebu gorflinder ar ôl sawl blwyddyn o'r pandemig, ochr yn ochr â rhestrau aros cynyddol a phwysau mewn gofal brys. Rwyf fi, fel llawer o bobl eraill, yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o gefnogaeth yn y maes hwn, a chanolbwyntio ymdrechion ar gynyddu lleoedd i fyfyrwyr, a chefnogi gweithlu mwy y GIG yn y pen draw.
Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, Cymru yw'r unig wlad yn y DU nad yw'n cyhoeddi ystadegau cenedlaethol ar gyfer swyddi nyrsio gwag yng Nghymru, sy'n gwneud i lawer gredu bod rhywbeth i'w guddio. Ond bydd o ddiddordeb i'r Aelodau glywed bod ffigurau a roddwyd i mi gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn dangos bod 2,900 o swyddi nyrsio gwag yn 2021-22, gan gostio £133.4 miliwn i GIG Cymru mewn nyrsio brys—cynnydd o 41 y cant o'r flwyddyn ariannol flaenorol. Ac fel y soniodd fy nghyd-Aelod Buffy Williams hefyd, canfu'r Coleg Nyrsio Brenhinol fod 144 o nyrsys cyfwerth ag amser llawn ychwanegol a 597 o weithwyr cymorth gofal iechyd amser llawn ar wardiau adran 25B ym mis Tachwedd 2020, o'i gymharu â mis Mawrth 2018, a oedd cyn i adran 25B ddod i rym. Mae hyn yn dangos y bydd ymestyn adran 25B ar lefelau staff nyrsio'n cael effaith gadarnhaol bwysig. Rwy'n credu y bydd pob Aelod yma yn cytuno â mi y byddai'n annerbyniol iawn inni beidio ag ymestyn adran 25B. Ac rwy'n annog pob Aelod yma felly i gefnogi'r cynnig. Diolch.