7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:07, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Yn y cynnig hwn heddiw, rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun gweithredu ar gyfer canser yn cael ei gyhoeddi ar frys, ochr yn ochr â chanolbwyntio ei chynllun gweithlu canser ar iechyd gynaecolegol, gyda nodau clir a mesuradwy y gellir eu cyflawni o fewn y pump i 10 mlynedd nesaf.

Yn awr yn fwy nag erioed, mae'n rhaid rhoi'r flaenoriaeth y maent yn ei haeddu i wasanaethau canser gynaecolegol. Nid oes fawr o amheuaeth fod y pandemig, wrth gwrs, wedi cyflymu anghydraddoldebau mewn gofal iechyd, yn enwedig ym maes canserau benywaidd. Mae'r cyfraddau goroesi canser diweddaraf rhwng 2015 a 2019 yn dangos bod y cyfraddau goroesi pum mlynedd wedi lleihau 4 y cant ar gyfer canser y groth dros y degawd diwethaf, yr unig ganser i weld ei gyfraddau goroesi'n lleihau dros gyfnod o 10 mlynedd.

Mae oedi gwasanaethau sgrinio hanfodol am bedwar mis yn 2020, ochr yn ochr â chyfyngiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi peri i'r nifer sy'n mynychu sgriniadau serfigol ostwng i'w lefel isaf ers dros ddegawd. Ar ben hynny, mae llawer o fenywod a gafodd wahoddiad i apwyntiadau yn ei chael hi'n anodd trefnu amser addas gyda'u cyflogwyr, a rhai'n aml yn defnyddio gwyliau blynyddol ar gyfer mynychu triniaethau meddygol.

Yn anffodus, nid yw amseroedd aros hir am driniaethau canser yn newydd. Ni chyrhaeddwyd targedau amseroedd aros canser ers 2008. Roedd y nifer a gafodd driniaeth o fewn 62 diwrnod ym mis Chwefror 2020 yn 56%; roedd hynny cyn y pandemig wrth gwrs. Er bod gan ganserau gynaecolegol gyfradd oroesi un flwyddyn a phum mlynedd sydd fel arfer yn uchel, mae perfformiad triniaeth i safleoedd tiwmor gynaecolegol yn erbyn y llwybr canser unigol wedi gostwng yn sylweddol, gan arwain at bryderon ynglŷn ag a fydd cyfraddau goroesi yn lleihau ymhellach oherwydd y pandemig. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bryd, ac mae'n hanfodol, fod cleifion yn cael eu gweld yn gyflym, i dderbyn y driniaeth sydd ei hangen arnynt, a drwy gael cynllun cadarn yn ei le, rwy'n credu y gallwn ddechrau gwneud cynnydd ar hyn.

Fel rhan o hyn, rwy'n credu o ddifrif y dylai gweithlu canser arbenigol sy'n gallu ymdopi â'r galw ac ôl-groniadau cynyddol fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, er mwyn atal cyfraddau goroesi canser gynaecolegol rhag llithro ymhellach. Eisoes, yng Nghymru y ceir y prinder mwyaf o arbenigwyr canser yn y DU. Dywedodd 90% o gyfarwyddwyr clinigol yng Nghymru wrth Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn 2021 eu bod yn poeni am ddiogelwch cleifion. Ac nid oes dim o'r hyn a nodais, wrth gwrs, yn fater pleidiol wleidyddol. Nid yw'r pwyntiau a wneir yn rhai pleidiol wleidyddol. Mae llawer o sefydliadau wedi mynegi pryder mawr ynghylch y gweithlu. Er enghraifft, canfu Cymorth Canser Macmillan hefyd fod un o bob pump o'r rhai a gafodd ddiagnosis o ganser yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf yn dweud nad oeddent wedi cael darpariaeth nyrsio canser arbenigol wrth gael diagnosis neu driniaeth, ac mae Ymchwil Canser y DU hefyd wedi nodi bod bylchau yng ngweithlu'r GIG yn rhwystr sylfaenol rhag gallu trawsnewid gwasanaethau canser a gwella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. Ac yn syfrdanol, er gwaethaf y pryderon difrifol hyn, nid yw cynllun gweithlu 10 mlynedd diwethaf y GIG yn cynnwys cynllun gweithlu penodol ar gyfer arbenigwyr canser. A dweud y gwir, nid yw strategaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Hydref 2020 yn sôn am ganser o gwbl. Ac er bod yna nodau canmoladwy, wrth gwrs—rwy'n derbyn hynny—yn natganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar ganser, mae'r diffyg manylion yng nghynllun gweithlu 10 mlynedd y GIG ar gyfer arbenigwyr canser wedi ei adlewyrchu yn y ddogfen hon, gwaetha'r modd.

Mewn ymateb i ddadl Mabon ap Gwynfor ar driniaeth a diagnosis canser ym mis Rhagfyr, er bod y Gweinidog wedi sôn am y datganiad ansawdd canser, unwaith eto, ni roddwyd llawer o fanylion i sicrhau sut y gellid cyflawni'r gwaith o ehangu'r gweithlu canser. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn bryderus dros y ddwy flynedd ddiwethaf ynglŷn â'r diffyg cynnydd a wnaeth Llywodraeth Cymru ar gefnogi gwasanaethau canser i adfer o'r pandemig a'r diffyg blaengynllunio i sicrhau bod gwasanaethau canser yn addas ar gyfer y dyfodol.

Diolch, Weinidog, am wrando'n astud ar fy nghyfraniad i heddiw. I mi, un peth yw i mi ailadrodd yr un dadleuon ag y buom yn eu cael ers blynyddoedd, ond mae hwn yn faes penodol y credaf o ddifrif y dylem fod yn arwain drwy esiampl arno. Mae Jo's Cervical Cancer Trust wedi amlinellu'n ffurfiol yr hyn sy'n rhwystro menywod rhag cael prawf syml a fyddai'n eu hatal rhag mynd drwy driniaethau sy'n aml yn gymhleth neu wynebu risg o farw hyd yn oed, felly nid wyf yn credu y gallwn oedi ymhellach. Mae'n rhaid inni sicrhau bod menywod yn cael profion, yn cael diagnosis yn gynharach, ac yn cael eu profi o fewn amseroedd targed, ar gyfer canser gynaecolegol yn enwedig.

Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y cynnig hwn heddiw'n ennyn cefnogaeth drawsbleidiol. Nid mater pleidiol wleidyddol ydyw; mae'n rhywbeth y credaf y gall pawb ohonom ei gefnogi. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl heddiw.