7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:52, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Credaf mai un o’r pethau nad oes unrhyw un wedi’i grybwyll ac sydd angen ei grybwyll a’i gofnodi yw’r cysylltiad rhwng gordewdra a chanser. Ac mae gennym gyfraddau uwch o ordewdra yng Nghymru nag yn Lloegr, ac mae'n rhaid bod hynny'n un o'r ffactorau y mae angen inni eu cadw mewn cof pan fyddwn yn ymdrechu i ostwng cyfraddau canser.