Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 4 Hydref 2022.
Wel, Llywydd, bythefnos yn ôl, roeddwn yn croesawu'r ffaith bod yna gymorth i bobl gyda chostau ynni. Yr hyn nad ydw i'n ei groesawu—dywedais hynny bryd hynny, a dywedaf hynny eto nawr—yw'r ffaith y bydd pris pecyn y Blaid Geidwadol yn cael ei dalu gan y dyledion a ddaw i ran ein plant a'n wyrion, pan oedd dewis i gymryd yr elw chwyddedig enfawr a wneir gan gwmnïau a fydd nawr yn gweld yr holl elw hwnnw'n cael ei warchod, wedi'i ddiogelu gan y cyhoedd y bydd cost canlyniad penderfyniadau'r blaid honno'n disgyn ar eu hysgwyddau nhw. Rwy'n falch o'r ffaith bod help i'w gael; rwy'n credu ei fod yn cael ei wneud yn y ffordd hollol anghywir.