Datganiad Cyllidol Llywodraeth y DU

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 4 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:42, 4 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae pobl Blaenau Gwent ac ar draws y Cymoedd wedi dioddef yn anghymesur o gamlywodraethu'r Torïaid. Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i fethiant neu, yn hytrach, i bolisïau bwriadol Llywodraethau olynol y DU sy'n parhau i sianelu cyfoeth a buddsoddiad i Lundain tra bod cymunedau yn ne Cymru yn cael y nesaf peth i ddim. Mae'n debyg mai Llywodraeth Truss yw'r gwaethaf eto. Enillodd y Torïaid fandad yn seiliedig ar gelwydd ffyniant bro, ac erbyn hyn maen nhw'n gwneud y gwrthwyneb yn ddigydwybod. Mae pobl ym Mlaenau Gwent a Chymoedd Gwent nawr yn wynebu biliau ynni anferth, prisiau uwch, gyda morgeisi a rhent yn saethu i fyny, fel yr ydym ni wedi'i glywed. Mae bod dan reolaeth San Steffan yn golygu distryw i Gymru. Felly, gofynnaf i chi, Prif Weinidog, a wnewch chi bopeth o fewn eich gallu i sicrhau pob pŵer y mae ei angen ar Gymru, y Cymoedd a Blaenau Gwent nid yn unig i amddiffyn ein hunain nawr, ond rhag Llywodraethau Torïaidd y dyfodol hefyd? A fyddwch chi'n galw ar Keir Starmer am hynny os daw yn Brif Weinidog, ac a ydych chi'n cytuno bod y pwerau sydd eu hangen ar Gymru yn cynnwys rhai dros dreth, lles, cyfiawnder a phlismona?