Awdurdodau Iechyd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 4 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:17, 4 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod fy mod i wedi bod yn codi pryderon yn ddiweddar ynglŷn â staffio yn Ysbyty Gwynedd, ac mae'n amlwg fod y rotas yno yn parhau i fod yn broblem. Mae un e-bost diweddar gan staff yn cyfeirio at uned iechyd meddwl Hergest, gyda morâl staff yn is nag erioed, recriwtio a chadw gwael, nifer mawr o achosion o salwch ac amodau gwaith gwael. Canlyniad hyn: mwy a mwy o ddefnydd o staff asiantaeth. Pryd fydd Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r orddibyniaeth anghynaladwy a drudfawr yma ar weithwyr asiantaeth a thrafferthion rota a ddaw yn sgil hynny? Dyma adnodd y dylid ei wario ar gefnogi a gwella amodau gwaith i staff yn Ysbyty Gwynedd ac ysbytai ar hyd a lled Cymru.