Darpariaeth Gofal Plant

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 4 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:19, 4 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynna. Gan roi hwb i'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, fe gyhoeddom ni bron i £100 miliwn yr wythnos diwethaf i gefnogi'r gwaith o ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i gefnogi buddsoddiadau mewn gwelliannau a chynnal a chadw adeiladau a chyllid gofal plant i gefnogi darpariaeth Gymraeg gwell. Bydd trigolion Cwm Cynon yn cael budd o bob agwedd ar y pecyn hwn.