Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 4 Hydref 2022.
Diolch. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig iawn i lawer o'n hetholwyr, ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn cael llawer iawn o waith achos o ran trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau bysiau, oherwydd dyna'r math o deithio sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf gan etholwyr. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cwrdd yn rheolaidd â phartneriaid, yn amlwg, gan gynnwys awdurdodau lleol, o ran darparu gwasanaethau bysiau cyhoeddus. Hoffwn i eich annog chi i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y lle cyntaf.