Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 4 Hydref 2022.
Diolch am y cwestiynau, ac rwyf i am geisio ymdrin â chymaint ohonyn nhw ag y gallaf i yn yr amser, Dirprwy Lywydd. O ran parthau menter, rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ar adnewyddu parthau menter eisoes, mae rhai ohonyn nhw wedi dod i ben, a rhai ohonyn nhw'n parhau. Felly, nid wyf i am fynd drwy hynny eto.
O ran seilwaith a'r pwynt a wna'r Aelod, mae gan y Llywodraeth hon allu i fuddsoddi mewn seilwaith. Wrth gwrs, fe gaiff hynny ei ddinoethi gan y gwirionedd ein bod ni wedi gweld toriadau yn yr arian yn ein cyllideb gyfalaf ni. Mae gwneud hynny'n heriol iawn. Mae gennym ni fwy o gyfle i gael budd nag y mae ein cyllideb yn caniatáu i ni wneud. Mae hyn yn golygu bod y dewisiadau yn anodd, ond mae hynny'n golygu ei bod hi'n bwysicach fyth ein bod yn gwneud dewisiadau sy'n gallu sicrhau budd sylweddol mewn gwirionedd. Ac rwy'n croesawu troedigaeth gymharol ddiweddar y Ceidwadwyr Cymreig i ddadlau'r achos y dylai fod canlyniadol uniongyrchol iawn o HS2. Fe fyddai hynny'n rhoi cryn dipyn o le i ni wneud buddsoddiadau priodol yn ein seilwaith ni. Ac ar y pwynt hwnnw, o leiaf, rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn ymuno â mi i fod yn awyddus i weld safbwynt presennol Llywodraeth y DU yn newid yn llwyr.
O ran ymchwil ac arloesi, rydym ni allan i ymgynghoriad. Fe ddaeth yr ymgynghoriad ynglŷn â'n strategaeth arloesi ni i ben, felly fe fyddaf i'n gallu adrodd yn ôl ar ddiwedd hwnnw, pan fydd y farn wedi dod i mewn, ar strategaeth newydd a'n dull ni o weithredu. O ran yr adnodd ar gyfer hynny hefyd, fe dynnais i sylw yn fy natganiad i fod ein cyllideb ni werth £4 biliwn yn llai erbyn hyn nag yr oedd pan gafwyd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Nid ydych chi'n gallu anwybyddu hynny. Mae pwysau gwirioneddol nid yn unig ar draws fy adran i, ond ar draws y Llywodraeth i gyd, o ran sut y byddwn ni'n gallu dod o hyd i arian ar gyfer pob maes. Felly, ni fydd yr adnoddau uniongyrchol gennym ni i gyd y byddem ni'n hoffi eu cael nhw ym mhob un maes yn yr economi. Mae'n ei gwneud hi'n bwysicach fyth, ac mae wir yn tynnu sylw at yr her o fod wedi colli arian yr UE a wnaethom i wneud ymchwil ac arloesedd yng Nghymru. Mae hynny'n tynnu sylw hefyd at y ffaith ein bod ni, gyda'n gilydd ledled Cymru—busnesau a phrifysgolion hefyd—ag angen bod yn well am nid dim ond cael mwy o'r ymchwil a'r arloesedd sy'n digwydd o fewn addysg uwch ac addysg bellach a sut bydd hynny'n arwain at fyd busnes, ond, mewn gwirionedd, bydd angen i ni fod yn fwy medrus o ran ennill mwy o gronfeydd arloesi ledled y DU. Un o'r pethau sydd i'w croesawu yn fy marn i yw bod Llywodraeth y DU wedi neilltuo swm eithaf sylweddol o arian i fynd at ymchwil ac arloesedd yn y dyfodol—mwy na £20 biliwn. Ein her ni yw, mewn degawdau a aeth heibio, nad ydym ni wedi gwneud cystal ag y dylem ni fod yng Nghymru o ran denu arian o gronfeydd i'r DU gyfan. Felly, mae de-ddwyrain Lloegr yn gwneud yn weddol dda, ac mae rhannau o'r Alban yn gwneud yn weddol dda; ond gwneud yn wael y mae Cymru, yn fy marn i, 2 y cant i 3 y cant o gronfeydd ledled y DU. Mewn gwirionedd, fe fydd angen i ni wneud yn llawer iawn gwell na hynny, a rhan o'r hyn y bydd angen i'r strategaeth arloesi honno ei wneud yw dod â ni at ein gilydd i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael ein harfogi i wneud hynny'n llwyddiannus.
O ran Busnes Cymru a'r cyngor ar ddatgarboneiddio y maen nhw'n ei roi eisoes, mae honno'n rhan o'r daith yn barod. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn cofio fy natganiadau ysgrifenedig a llafar ni yn hyn o beth. Un o'r tri nod yn y dyfodol mewn gwirionedd fydd cefnogi cynhyrchiant, cadernid, twf a datgarboneiddio. O ran datgarboneiddio a chynaliadwyedd busnesau micro, busnesau bach a chanolig, mae'r cyngor ar gael yn barod, ac rydym ni'n gobeithio gwneud mwy o hynny wrth adnewyddu Busnes Cymru.
O ran sefydliadau busnes mewn bargeinion twf a chydweithio, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod, mewn gwirionedd, ein bod ni'n dymuno cysylltiadau gwirioneddol effeithiol rhwng y busnesau yn y rhanbarthau hynny gyda'r gwaith sy'n mynd rhagddo. O ran sefydliadau busnes, mae perthynas ganddyn nhw â'r rhanbarthau hynny. Yn bendant, mae ganddyn nhw berthynas â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol sy'n bodoli hefyd, ac mae hi'n ddefnyddiol—yn un o'r ychydig bethau a oedd yn gwneud synnwyr a gwahaniaeth gyda'r gronfa ffyniant a rennir—ein bod ni wedi perswadio Llywodraeth y DU i gael yr un rhanbarthau ar gyfer y gronfa ffyniant a rennir yr oeddem ni wedi ei chreu hi eisoes. Ein her ni fydd o ran parhau â'r cydweithio hwnnw o ystyried rhai o'r rhwystrau eraill sydd. Er hynny, rwy'n cael fy nghalonogi gan y cyfranogi sydd gan arweinyddiaeth ein hawdurdodau lleol ni, cyn yr etholiadau diweddar ac wedi hynny. Rydych chi'n gweld arweinyddiaeth drawsbleidiol ym mhob rhanbarth yng Nghymru sy'n awyddus i wneud i hyn weithio.
Er hynny, mae yna her o ran y gyllideb sgiliau, oherwydd, eto, fe gaiff honno heffeithio yn uniongyrchol gan golli arian o'r UE a'r gair na chafodd ei gadw o ran cyfateb hwnnw i'r geiniog olaf. Mae hynny'n rhoi pen tost mawr i ni, ond o ran y ffordd y mae'r sefydliadau hynny'n gweithio, rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa weddol dda, ond bob amser, wrth gwrs—rwy'n credu y byddai pob rhanbarth yn cydnabod hyn—mae yna fwy y gallen nhw ei wneud.
Yn olaf, ynghylch eich pwynt ehangach chi ynglŷn â gweithio gyda Llywodraeth y DU, fe roddais i enghreifftiau i chi yn y datganiad o sut yr ydym ni wedi llwyddo i wneud hynny. Ond mae hynny wedi gofyn bod Llywodraeth y DU yn barod i weithio gyda ni, oherwydd o ran y meysydd lle nad ydym ni wedi gallu gweithio gyda'n gilydd ni ddigwyddodd hynny oherwydd ein bod ni wedi dweud, 'Nid ydym ni'n dymuno siarad â chi.' Ni chafwyd cytundeb ar y gronfa ffyniant gyffredin oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi dwyn ein pwerau ni a chymryd dros £1 biliwn o'r arian a addawyd i Gymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Rwy'n dal i siarad â Gweinidogion y DU mewn meysydd lle gallwn ni gydweithio ynddyn nhw, ac fe fyddaf i'n parhau i geisio ymddwyn mewn ffordd adeiladol yn y sgyrsiau hynny. Nid oes unrhyw ddiffyg parodrwydd o'n hochr ni i gael sgwrs, ond yr hyn a ddywedwn ni yw, 'Gweithiwch gyda ni,' ac nid, 'Penderfynwch drosom ni,' nid, 'Cymerwch ein pwerau ni a'n cyllideb ni oddi wrthym ni.' 'Gweithiwch gyda ni ac fe gawn ni ffordd ymlaen sy'n llesol,' ond nid wyf i am ymddiheuro am restru'r achlysuron hynny a fu yn y gorffennol pe bydden nhw'n digwydd eto yn y dyfodol, lle mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod bod yn bartner sy'n awyddus i feithrin economïau rhanbarthol a chenedlaethol yma yng Nghymru a ledled y DU.