Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 4 Hydref 2022.
Diolch i Sam Kurtz am ei gwestiynau. Gaf i ategu ac uniaethu fy hun gyda'r sylwad olaf yn ei gyfraniad ef yn fanna? Mae gan bawb gyfle ond hefyd cyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni'n gwneud ein gorau glas dros yr iaith ac mae gennym ni gynllun yn fan hyn sydd yn gosod y seiliau ar gyfer hynny.
Fe wnaeth e agor ei gyfraniad drwy ofyn am atebolrwydd. Doeddwn i ddim cweit yn gwybod os oedd e'n datgan ei gobaith y byddwn i'n Weinidog y Gymraeg yn 2050—doeddwn i ddim cweit yn gwybod os dyna beth yr oedd yn ei ofyn. Ond ar y thema honno, mae lot o gyfleoedd o ran—. Mae'r profiad hwn yn un o'r ffyrdd rŷn ni'n atebol am gynnydd yn y maes polisi hwn. Mae ffigurau yn cael eu cyhoeddi yn gyson am ble ŷm ni o ran defnydd yr iaith. Wrth gwrs, gan ein bod ni wedi dewis y cyfrifiad fel y ffordd o fesur cynnydd yn siaradwyr yr iaith, mae hynny wrth gwrs yn digwydd bob 10 mlynedd, ond byddwn ni'n gweld yn hwyrach eleni beth yw'r ffigurau.
Ac o fewn cynllun ehangach 2050, roedd e'n sôn yn ei gyfraniad pa mor bwysig mae gweld y rhaglen hon fel rhan o'r ystod ehangach o raglenni sy'n ymwneud â ffyniant yr iaith. Ym mhob un o'r rheini, mae meini prawf er mwyn ein bod ni fel Gweinidogion, fel Senedd ac fel cenedl ehangach yn gweld lle rŷn ni ar y llwybr. Er enghraifft, fe wnaeth e ofyn cwestiwn ynglŷn â lle rŷn ni o ran recriwtio. Mae gennym ni gynllun 10 mlynedd. Rydyn ni wedi cyhoeddi beth rŷn ni'n darogan sydd ei angen o ran nifer athrawon ac rŷn ni'n cyhoeddi hefyd faint o athrawon sy'n cymhwyso, felly mae'r ffigurau hynny'n gyhoeddus ac ar gael i bobl fel ein bod ni'n atebol am hynny. Ond byddaf hefyd yn datgan bob dwy flynedd, o fewn y cynllun 10 mlynedd, ddiweddariad ar le rŷn ni o ran beth yw impact y cynllun penodol hwnnw, a gobeithiaf wneud hynny ar lefel llywodraeth leol fel ein bod ni'n gweld dosbarthiad y cynnydd, gobeithio, yn yr hyn rŷn ni'n gallu recriwtio trwy'r cynllun hwnnw. Felly, rwy'n cytuno gyda fe; mae wir yn bwysig sicrhau bod cyfleoedd i fod yn atebol, ac rwy'n sicr bod y cyfleoedd hynny'n bodoli.
O ran y buddsoddiad mewn blynyddoedd cynnar, rwy'n cytuno gyda fe ei bod hi'n bwysig inni sicrhau bod mwy a mwy o blant yn cymryd y cyfle i gael addysg blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg. Rŷn ni wedi cyrraedd y targed o sefydlu 40 o grwpiau newydd yn ystod tair blynedd gyntaf rhaglen Sefydlu a Symud, a hynny er gwaethaf impact COVID. Cafodd 12 darpariaeth newydd eu sefydlu yn ystod 2021-22 fel rhan o'r targed ehangach o 60 darpariaeth yn ystod y tymor Seneddol hwn. Felly, rŷn ni ar drac i sicrhau ein bod ni'n ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar hefyd.