Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 4 Hydref 2022.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Hoffwn ategu hefyd eich diolch chi i bawb sydd ynghlwm efo'r ystadegau o fewn yr adroddiad yma. Mae'n dangos ôl partneriaeth ledled Cymru, ac mae hynny i'w ymfalchïo ynddo. Dwi’n siŵr ein bod ni i gyd yn gallu cytuno hefyd bod gan Gymru hanes hir a balch a bod ein hiaith yn ffynnu heddiw, a'i bod yn rhan ganolog o’n hunaniaeth ac wedi goroesi er gwaethaf y rhwystrau sydd wedi ei hwynebu dros y canrifoedd. Mae’r iaith, ac mi ydyn ni, 'yma o hyd', chwedl Dafydd Iwan, ac, fel rydych chi wedi dweud eisoes, mae’r iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, p’un ai a ydyn nhw yn ei siarad neu beidio.
Mae yna gymaint o bethau, wrth gwrs, i'w dathlu yn yr adroddiad. Mae nifer yr unigolion sy’n parhau i ddysgu Cymraeg tu hwnt i lefel mynediad yn codi; mae’r rhaglen Cymraeg i Blant a’r Mudiad Meithrin yn ehangu. Mae'n wych gweld bod mwy o bobl yn dysgu Cymraeg ac yn chwilio am gyfleoedd i'w defnyddio. Mae dyfodol yr iaith yn obeithiol, er, wrth gwrs, fel rydych chi wedi ei grybwyll, mae yna heriau mawr yn parhau os ydym am wireddu’r targed o filiwn o siaradwyr a chynyddu defnydd bob dydd.
Fel y gwnaethoch hefyd sôn yn y datganiad, mae’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o ymrwymiadau o ran y Gymraeg er mwyn cryfhau ein hiaith a’n diwylliant, ac yn benodol mynediad at a defnydd o'r iaith. A dyma’r adroddiad cyntaf, wrth gwrs, i gynnwys cyfeiriad at y cytundeb a nodi cynnydd cychwynnol. Drwy’r ffaith ein bod ni'n cydweithio, dwi'n gobeithio ein bod ni'n medru gwneud cynnydd mewn nifer o feysydd pwysig am fywyd y cytundeb a thu hwnt, gan greu amodau ffafriol i'r iaith. Yn bellach, mae gwaith ar y gweill i gryfhau safonau’r Gymraeg, sydd mor bwysig, a bwysicach fyth, wrth gwrs, yw Bil addysg y Gymraeg—Bil fydd yn penderfynu dyfodol yr iaith am genedlaethau i ddod.
Fel sy’n amlwg yn yr adroddiad hefyd, os ydym am wireddu’r weledigaeth o ran y Gymraeg, mae gan bob adran o’r Llywodraeth gyfraniad pwysig i'w wneud, ynghyd ag unigolion a sefydliadau ledled Cymru. Ac rydych yn nodi yn eich datganiad eich bod am weld mwy o sefydliadau ac arweinwyr cyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith. Rhanddeiliad pwysig, wrth gwrs, fel rydych chi wedi ei grybwyll, ydy arweinwyr llywodraeth leol ledled Cymru, a rhaid cyfaddef, er gwaethaf y ffaith bod peth cynnydd i'w weld yn y cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, mae rhai cynghorau yn parhau i fod, yn fy marn i, â diffyg uchelgais neu gamau gweithredu pendant o ran sut maen nhw’n mynd i chwarae eu rhan. Mae hyn yn arbennig o wir mewn rhai ardaloedd lle rydym yn parhau i weld cynlluniau ar waith ar gyfer buddsoddi mewn ysgolion Saesneg, gan ddiystyru ceisiadau lleol i gyflwyno ffrwd Gymraeg yn yr ysgolion newydd hyn. Byddwch yn ymwybodol o enghraifft arfaethedig o hyn yn fy rhanbarth, lle mae dal pwyslais ar ateb y galw yn hytrach na chreu neu gefnogi’r galw. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr am ddiweddariad gennych chi a’r aelodau dynodedig o Blaid Cymru wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar y Bil addysg y Gymraeg. Rhan greiddiol o hyn, wrth gwrs, bydd defnydd y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg a symud yr ysgolion hyn ar y continwwm iaith. Ac mi fydd y degawd nesaf yn hanfodol os ydym am wireddu hyn.
Hoffwn eich holi am ddwy elfen benodol, os gwelwch yn dda: yn gyntaf, trochi hwyr. Mae’r cynnydd heb os i'w groesawu a da gweld y bydd buddsoddiad pellach. Mae’r pwyslais yn yr adroddiad o ran trochi hwyr neu drochi i hwyrddyfodiaid, ond un peth sydd wedi ei godi gyda mi yw’r angen am lefydd ar gyfer trochi ar gyfer plant sydd efallai ar ei hôl hi o ran y Gymraeg yn sgil COVID, ac sydd ym mlynyddoedd 4, 5 a 6 erbyn hyn gyda’u rhieni unai wedi—neu yn ddwys ystyried—eu symud i ysgolion cyfrwng Saesneg, gan ofni nad yw eu plant yn cyflawni fel y dylent. Oes trochi ar gael iddyn nhw, ac yw hyn yn cael ei gynnig ledled Cymru os yw rhieni neu ofalwyr yn gwneud cais i symud eu plant o addysg Gymraeg i addysg Saesneg? Ac oes gwaith yn cael ei wneud i ddeall pam bod newid yn digwydd ac os yw diffyg darpariaeth o ran trochi neu wrth gwrs anghenion dysgu ychwanegol yn ffactor?
Croesawaf hefyd yn yr adroddiad y pwyslais ar bwysigrwydd addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Heb os, mae ehangu defnydd y Gymraeg yn y sector hwn yn hanfodol. Rydych yn cyfeirio at gyllideb o ran prentisiaethau Cymraeg yn yr adroddiad, neu rai dwyieithog. Gaf i ofyn pa ganran o’r gyllideb ar gyfer prentisiaethau yw hyn, os gwelwch yn dda, Weinidog, ac oes bwriad cynyddu’r buddsoddiad hwnnw?
Fel chithau, dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar at ganlyniadau’r cyfrifiad, er hefyd fy mod yn betrusgar. Beth sy’n glir o’r adroddiad hwn yw ein bod ni'n dal heb ddeall llawn effaith COVID chwaith ar y Gymraeg, boed yn gadarnhaol neu ddim, na chwaith beth fydd effaith yr argyfwng costau byw o ran mynediad cydradd i'r Gymraeg. Yr hyn y gallaf warantu ichi, Weinidog, yw ein bod ni fel Plaid yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif o ran yr iaith, a’r targed o filiwn o siaradwyr, ac yn barod iawn i barhau i gydweithio â chi ar hyn.