Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 4 Hydref 2022.
Yr wythnos nesaf, byddaf i'n lansio'r cynllun terfynol, a byddaf i'n rhannu'r manylion gyda chi bryd hynny. Ond teg dweud ei fod e'n gynllun arloesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, i gymunedau, ac, yn wir, i'n hiaith ni, ym mhob cwr o'r wlad. Bydd y comisiwn cymunedau Cymraeg newydd yn ein herio ni wrth i ni weithredu'r cynllun ac yn ein cefnogi er budd yr ardaloedd hynny sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg.
Daeth y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd newydd i rym yn ddiweddar. Dirprwy Lywydd, nid ar chwarae bach y digwyddodd hyn. Bu cryn baratoi yn ystod y flwyddyn adrodd wrth i ni gynnal sesiynau i gefnogi awdurdodau lleol, i gydweithio â nhw i fireinio eu cynlluniau drafft, a chyhoeddi canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Dim ond y cam cyntaf yw cyhoeddi'r cynlluniau; byddwn ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac ysgolion er mwyn eu cefnogi nhw i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
Yn ystod y flwyddyn adrodd hefyd, fe wnaethom ni gyhoeddi ein bwriad i gynnig arian o'r newydd er mwyn gallu, yn gyntaf, cynnig gwersi Cymraeg am ddim i bawb rhwng 16 a 25 oed ac i'r gweithlu addysg, er mwyn rhoi ail gyfle i bobl. Bydd rhai yn dysgu o'r newydd ac eraill yn magu hyder yn eu Cymraeg. Gwnaed hyn fel rhan o'r cytundeb cydweithio, a bydd pob un yn cyfrannu at y miliwn ac at ddyblu defnydd iaith. Yn ail, cafodd cyllid ei neilltuo i ehangu darpariaeth trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn adrodd ac wedi hynny. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gymaint mwy o blant ddod yn rhan o'n system addysg Gymraeg ni.
Fe wnes i gyhoeddi cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg fis Mai eleni, a bu gwaith paratoi manwl gydol y flwyddyn adrodd. Mae hwn yn faes anodd, heriol. Mae'r cynllun, felly, yn galw am weithredu radical ac arloesol gan nifer ohonom ni. Tua diwedd y cyfnod adrodd, fe wnes i gyhoeddi ein bwriad i sefydlu cwmni cyfyngedig drwy warant, o'r enw Adnodd. Bydd y cwmni'n gweithio i sicrhau bod digon o adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi'r cwricwlwm newydd.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaed gwaith manwl i baratoi safonau ar gyfer rheoleiddwyr y sector iechyd. Canlyniad hyn oedd cyflwyno'r rheoliadau gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf eleni er mwyn iddyn nhw ddod i rym ar ddiwedd mis Hydref. Fe fues i hefyd yn trafod y Gymraeg ar lefel y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, gyda chyd-Weinidogion, a hefyd gydag arweinwyr yr aelod-wladwriaethau mewn uwch-gynhadledd yn Sain Ffagan. Roedd clywed penaethiaid gwlad yn trafod y Gymraeg, ac yn wir yn defnyddio'r Gymraeg a'u hieithoedd nhw ar y lefel uchaf bosib, yn bwysig ac yn bleser.
Ym mis Chwefror, ar Ynys Môn, fe wnes i draddodi 'Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd', lle bues i'n gosod fy ngweledigaeth ar gyfer y Gymraeg i nodi 60 mlynedd ers darlith 'Tynged yr Iaith', Saunders Lewis, yn 1962. Dyma flas ar y prif negeseuon. Dwi am i ni gofio bod y Gymraeg, a'r cyfrifoldeb dros weithredu er mwyn ei gwarchod, yn perthyn i ni i gyd. Mae gan bawb ei rôl, waeth ble maen nhw'n byw na faint o Gymraeg sydd ganddyn nhw. Dwi am weld mwy o sefydliadau ac arweinwyr cyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith hefyd. Mae ein rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog yn un ffordd o wneud hyn. A byddwn ni fel Llywodraeth gyfan yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yng ngwaith pob tîm ac adran ar draws y sefydliad, bob tro. Dwi wedi sefydlu cyfres o gyfarfodydd Cabinet tymhorol ar hyd oes y Senedd hon i drafod gyda fy nghyd-Weinidogion beth mwy y gallan nhw ei wneud i gyfrannu at 'Cymraeg 2050' yn eu meysydd polisi nhw.
Ddirprwy Lywydd, gan edrych tua'r dyfodol, rŷn ni'n aros i glywed canlyniadau cyfrifiad 2021 ym maes y Gymraeg—cyn y Nadolig, gobeithio. Byddwn ni'n craffu ar y canlyniadau cyn bwrw ati i adolygu'n cynlluniau a'r taflwybr tuag at y miliwn, yn ôl y galw. Dwi wedi sôn am yr heriau byd-eang sy'n effeithio ar Gymru yn gynharach, felly nawr, yn fwy nag erioed, dwi'n galw ar bobl i dynnu ynghyd. Rhaid i ni gydweithio, cynnig help llaw pan ddaw heriau a chyfleoedd, a dysgu oddi wrth ein gilydd. Rhaid inni estyn croeso, Ddirprwy Lywydd, i bawb o bob cefndir ddod gyda ni ar y daith tua'r miliwn. Yn bwysicach na dim, rhaid inni gofio bod gan bob un ohonom ni'r cyfrifoldeb a'r gallu—yn unigolion ac yn sefydliadau—i weithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.