Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 4 Hydref 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, dwi'n cyflwyno adroddiad blynyddol ar ein strategaeth iaith, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr', a hynny ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22. Ar ddechrau'r chweched Senedd, fe wnaethom ni gyhoeddi ein rhaglen waith pum mlynedd ar gyfer gweithredu 'Cymraeg 2050' yn ystod 2021-26. Mae'r adroddiad blynyddol hwn, felly, yn adrodd ar flwyddyn gyntaf y rhaglen honno ac ar ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.
Roedd y pandemig yn parhau i gael effaith ar ein ffordd o weithio yn ystod y cyfnod hwn. Er y bu llai o sôn am adael yr Undeb Ewropeaidd, mae mwy o drafod effaith costau byw cynyddol arnom ni. Er gwaethaf pob newid, ein gwaith ni, doed a ddelo, yw ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n siarad Cymraeg ac, yn bwysicach fyth, cynyddu'r defnydd dyddiol o'n hiaith ni.
Roedd hon yn flwyddyn brysur arall ym maes polisi iaith wrth i ni weithio ar draws y Llywodraeth a chydag amrywiol bartneriaid ar hyd a lled y wlad a thu hwnt. Ac mae heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn gyfle i mi ddiolch i bawb a fu'n cydweithio â ni gydol y flwyddyn. Rhaid sôn am y partneriaid grant a fu wrthi'n ddiflino, ac yn llawn egni a chreadigrwydd, er mwyn ein cefnogi ni i wireddu 'Cymraeg 2050'. Yn dilyn cyfnod prysur o gynnig cyfleoedd i ni ddefnyddio'n Cymraeg o bell, mae pob un wedi bod yn gweithio i adfer ac ailadeiladu, ac wedi parhau i arloesi a chadw rhai o arferion gorau'r cyfnodau clo. Cewch fanylion lawer o'r gwaith yn yr adroddiad.
Nawr, dyma droi at rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn dan sylw. Fe wnaethom ni ymgynghori ar y cynllun tai cymunedau Cymraeg—cynllun uchelgeisiol sy'n ymestyn ar draws y Llywodraeth gyfan, ac sy’n gweithio ochr yn ochr â pholisïau newydd eraill ym maes cynllunio a threthi.