Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 4 Hydref 2022.
Yn bendant, Joyce. Felly, ar y rhaglen Mawndir, roeddwn i'n falch iawn o allu cyhoeddi, ochr yn ochr â Lesley, gyflymiad prosiect adfer y mawndir. Mae'r prosiectau yr wyf wedi ymweld â nhw eisoes yng Nghymru wedi bod yn galonogol, mewn gwirionedd, yn anhygoel o ran ymroddiad y bobl sy'n eu gwneud ac mewn gwirionedd wrth drawsnewid y tirlun. Felly, roeddwn i wrth fy modd i wneud hynny.
Rwy'n bwriadu lobïo Gweinidog newydd Llywodraeth y DU—dydw i ddim wedi cael cyfle i gwrdd eto, ond rwy'n credu fy mod i'n iawn i ddweud fy mod yn ei gwrdd ar 24 Hydref. Hoffwn weld mawn yn cael ei wahardd ar gyfer defnyddio mewn unrhyw leoliad domestig. Nid oes gennym ni'r pŵer i wneud hynny, ac mae'n un o'r pethau yr wyf yn bryderus iawn amdano ac rwy'n mynd i fod yn cael sgwrs gyda sawl Gweinidog y DU amdano. Rwy'n credu bod yna broblem labelu mawr. Felly, rwy'n siŵr eich bod chi'n arddwr brwd, Joyce, ac rydw i hefyd, ond mae'n anodd iawn gwneud yn siŵr nad yw'r planhigyn yr ydych chi'n ei brynu o'r ganolfan arddio neu dyfwr mewn mawn. Mewn gwirionedd, hyd yn oed os gofynnwch chi, fyddan nhw ddim yn dweud wrthych chi'n aml, ac rwy'n credu y dylai fod yn rhaid iddyn nhw ddweud wrthych chi mai dyna beth yw'r cyfrwng tyfu. Felly hoffwn weld Llywodraeth y DU yn newid y gofynion labelu ar gyfer cynhyrchion fel mawn.
Fe fydd amgylchiadau lle bydd cymuned leol, am resymau treftadaeth ac yn y blaen, yn dal i dorri mawn, ond, ar y cyfan, dylid atal torri mawn masnachol. Felly, rwyf am lobïo Llywodraeth y DU yn drwm iawn ar hynny, ond yn y cyfamser, rwy'n hapus iawn ein bod ni'n adfer ein mawndiroedd ein hunain mor gyflym ag y gallwn ni, ac mae hyn yn newid sylweddol.
Wrth gwrs, y rheswm ein bod ni'n gallu ei gyfiawnhau, ar wahân i'r ffaith mai dyma'r peth iawn i'w wneud, yw oherwydd, mewn gwirionedd, os na wnawn ni hyn, ni fyddwn yn cyrraedd sero net erbyn 2050, oherwydd y secwestriad carbon a ddaw yn sgil y mawndiroedd, yn ogystal â'r holl fuddion natur y gwnaethoch chi eu crybwyll, Joyce. Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu gwneud hyn, rhyngom ni. Fel rwy'n dweud, dyma'r peth iawn i'w wneud, a dyma ddechrau ei wneud yn fwy, yn well ac yn gyflymach, mewn gwirionedd.
Yna, ar y cysylltedd, gweithiodd Carolyn gyda ni i siarad gydag awdurdodau lleol am beidio â thorri glaswellt, Mai Di-dor, a'r math yna o beth. Un peth sy'n fy nharo i, mae'n rhaid i mi ddweud—rwy'n ystyried o ddifrif am wneud hyn, rwy'n meddwl tybed a ddylwn ni ganfasio barn—yw fy mod yn dymuno i'r rhaglenni garddio hyn ar y teledu, yr wyf yn ofnadwy o gaeth iddynt, ddangos ychydig mwy o erddi blêr gyda phentyrrau o bren, ac nid glaswellt wedi'i dorri'n fyr a dec. [Torri ar draws.] Wel, ie, oherwydd mae'n debyg bod eich un chi'n llawn infertebratau. Rwy'n cael ffrae fawr yn fy mhentref i drwy'r amser. Mae fy ngardd i mor flêr ag sy'n bosib bod—pwy feddylia bod bod hynny'n mynd i fod yn ffasiynol, ond beth bynnag—ond mae fy ngardd i'n llawn pryfed. Mae'n llawn o bryfed oherwydd mae ganddyn nhw lefydd i fynd a phethau i'w bwyta ac ati. Ac o ganlyniad mae hefyd yn llawn adar, oherwydd mae ganddyn nhw bethau i'w bwyta. Mae gen i gymdogion y mae eu lawntiau'n cael eu torri gyda siswrn ewinedd bob bore Mawrth a does ganddyn nhw ddim bywyd gwyllt yn eu gardd o gwbl.
Rwy'n credu bod yr obsesiwn yma gyda taclusrwydd yn gorfod cael ei ddileu. Mae hynny'n wir am ein hawdurdodau lleol a'n gwrychoedd a'n hymylon. Fe wnes i ysgrifennu at y weinyddiaeth sydd i ddod yn Nhrefynwy yn ddiweddar i ddweud fy mod i'n siŵr nad oedden nhw wedi ei wneud yn arbennig ar gyfer Gweinidog yn ymweld ond roeddwn i ar y pryd yn dilyn torrwr gwrychoedd i lawr y ffordd, a oedd yn torri pob un pen hadau yr hyd yr holl ffordd. Nid oeddwn yn hapus iawn â hyn fel polisi, a danfonais lun i fynd gydag ef. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n eu hargyhoeddi nhw i ddweud, 'Pam ydych chi'n gwneud hyn? Peidiwch â gwneud hyn.'
Mae rhai llefydd lle, am resymau diogelwch priffyrdd, mae angen torri rhai o'r gwrychoedd yn ôl. Ond, mewn gwirionedd, fe wyddoch chi, cystal ag yr wyf i, pob un ohonoch chi, bod gyrru i lawr un o'r lonydd hynny gyda'r canopi harddaf uwchben yn ogoneddus, on'd yw e? Rydych chi'n cael pob math o fywyd gwyllt a phlanhigion a blodau i lawr yno nad ydych yn eu gweld yn unman arall. Felly, mae ceisio newid barn ein hawdurdodau cyhoeddus, ac, a dweud y gwir, barn ein garddwyr hirsefydlog, ar yr hyn sy'n edrych yn dda mewn gwirionedd, yn bwysig iawn. Rwy'n disgwyl i chi i gyd fynd allan yna a bod yn efengylaidd amdano, ac rwy'n bwriadu ymweld â chi i weld a yw eich gardd yn ddigon blêr.