– Senedd Cymru am 4:46 pm ar 4 Hydref 2022.
Eitem 6 sydd nesaf, y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar fioamrywiaeth. Julie James i wneud y datganiad hwnnw.
Diolch, Llywydd. Mae colli bioamrywiaeth a chwymp ecosystemau yn brif fygythiad i'r ddynoliaeth. Mae'r amgylchedd naturiol yn sail i'n lles a'n ffyniant economaidd, ond eto mae ein perthynas ag ef yn gwbl anghynaladwy. Er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau ein treftadaeth naturiol hardd, mae angen i ni gyflymu'r camau yr ydym yn eu cymryd i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Dros yr haf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda grŵp o arbenigwyr ac ymarferwyr allweddol i ymgymryd ag archwiliad dwfn bioamrywiaeth i ddatblygu set o gamau gweithredu ar y cyd y gallwn eu cymryd yng Nghymru i gefnogi adferiad natur. Cynhaliwyd yr archwiliad dwfn cyn Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig, neu COP15, yng Nghanada ym mis Rhagfyr, lle bydd arweinwyr byd-eang yn cwrdd i gytuno ar dargedau am y 10 mlynedd nesaf i fynd i'r afael â'r argyfwng natur.
Trwy'r archwiliad dwfn, nodwyd argymhellion allweddol gennym i sicrhau bod y targed yn cael ei gyflawni'n ystyrlon, targed a elwir yn 30x30: diogelu a rheoli o leiaf 30 y cant o'n tir, dŵr croyw a môr ar gyfer byd natur erbyn 2030. Dyma un o'r targedau byd-eang i'w cytuno yn COP15. Mae'r argymhellion hyn yn ategu'r camau yr ydym eisoes yn eu cymryd fel Llywodraeth, gan gynnwys y cynllun gweithredu diweddar i fynd i'r afael â llygredd ffosfforaidd yn ein hafonydd, a gweithredu targedau natur statudol.
Blaenoriaeth fydd trawsnewid ein cyfres o safleoedd gwarchodedig fel ei bod yn well, yn fwy, ac wedi'i chysylltu yn fwy effeithiol. Y safleoedd gwarchodedig hyn yw'r elfennau mwyaf gwerthfawr ar gyfer bioamrywiaeth ac fe'u dynodwyd i warchod rhai o'n cynefinoedd a'n rhywogaethau pwysicaf yng Nghymru. Byddwn yn ehangu ac yn cyflymu ein rhaglen rhwydweithiau natur i wella cyflwr a chysylltedd ein rhwydwaith safleoedd gwarchodedig ac adfer cyflwr cynefinoedd allweddol er mwyn sicrhau bod planhigion ac anifeiliaid mewn sefyllfa well i wrthsefyll newid hinsawdd. Bydd dynodi rhagor o safleoedd yn arf pwysig hefyd o ran helpu i ddiogelu ein safleoedd mwyaf agored i niwed, ynghyd â rheoli'n briodol. Byddaf hefyd yn codi uchelgais ein rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndir, fel y bydd y rhaglen, erbyn 2030, yn cyflawni ar raddfa sy'n gallu cyrraedd targed sero-net 2050 o 45,000 hectar o fawndir wedi'u hadfer.
Er mwyn cefnogi dulliau partneriaeth cydweithredol lleol, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn darparu £3.3 miliwn yn ychwanegol i bartneriaethau natur lleol dros y tair blynedd nesaf. Rydym yn cydnabod bod y partneriaethau hyn yn allweddol o ran dod â sefydliadau, busnesau a chymunedau ynghyd i gymryd camau ar y cyd i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol.
Mae ein hamgylchedd morol yn cynnwys rhai o'r moroedd mwyaf biolegol amrywiol yn y DU, a bron i 50 y cant wedi'u diogelu o fewn y rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig. Fodd bynnag, er bod gennym gynefinoedd a rhywogaethau allweddol a warchodir fel y dolffin trwynbwl, mae ychydig dros hanner y rheiny mewn cyflwr anffafriol. Fel blaenoriaeth, byddwn yn cyflymu camau i gwblhau'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, er mwyn sicrhau bod y diffygion o ran gwarchod cynefinoedd a nodweddion yn cael sylw. Cyn bo hir, byddaf yn lansio'r broses o ddynodi parthau cadwraeth morol fel rhan o'n camau i gwblhau'r rhwydwaith. Byddwn yn cwblhau'r gwaith o asesu rhyngweithio gêr pysgota posibl â nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall pa ddifrod y mae'r rhain yn ei wneud i nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig a pha fesurau rheoli y gallai fod eu hangen i atal hyn.
Rwyf hefyd yn dymuno datgloi potensial tirweddau dynodedig parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i gyflawni mwy ar gyfer natur. Rwy'n credu bod ganddynt swyddogaeth hanfodol wrth wyrdroi dirywiad natur, yn ogystal â chyfrannu at y targed 30x30 yn rhai o'n tirweddau mwyaf annwyl ac eiconig. Byddwn ni'n cefnogi parciau cenedlaethol ac AHNE i ddatblygu cynlluniau gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer adfer natur, gan ymwreiddio'r rhain mewn cynllunio strategol.
Llywydd, rydym hefyd yn dymuno sefydlu cyfres o ardaloedd enghreifftiol sy'n adfer natur—naill ai cydweithrediadau presennol neu newydd ar raddfa dirwedd o weithredwyr cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol a all ddod at ei gilydd i reoli ac adfer natur mewn ardaloedd gwarchodedig a'r dirwedd ehangach.
Rydym hefyd yn dymuno archwilio swyddogaeth statws ddiffinedig newydd mesurau cadwraeth effeithiol eraill sy'n seiliedig ar ardal, OECMs, yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur, wrth gydnabod ardaloedd y tu allan i safleoedd gwarchodedig a all gyfrannu at 30x30. Byddaf yn sefydlu gweithgor arbenigol i nodi ardaloedd enghreifftiol adfer natur ac OECMs posibl, gan gynnwys y cyfryngau rheoli a'r dulliau cyllido sydd eu hangen i sefydlu'r rhain.
Llywydd, byddwn ni'n parhau i ddiwygio rheoli a chynllunio tir a morol, gan gynnwys cynllunio gofodol, i gyflawni mwy ar gyfer safleoedd gwarchodedig a thirluniau a morluniau ehangach. Byddwn ni'n dilyn trywydd gofodol strategol, a ategir gan dystiolaeth gadarn, i sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir yn y lle cywir. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ganllawiau cryfach, fel polisi 9 'Cymru'r Dyfodol', prif ffrydio bioamrywiaeth, cadernid ecosystemau a seilwaith gwyrdd.
Rydym yn dymuno buddsoddi mewn cynghorwyr arbenigol i weithio gyda rheolwyr tir a ffermwyr i reoli cynefinoedd allweddol a sicrhau bod y cymhellion cywir wedi'u cynllunio'n rhan o gynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol.
Bydd mynd i'r afael â cholled bioamrywiaeth erbyn 2030 yn gofyn i'r ddarpariaeth bresennol fod yn fwy effeithiol a chael ei chyflwyno ar raddfa fwy. Rydym yn cydnabod bod angen i ni ddatgloi cyllid ychwanegol i gyflawni ar gyfer natur ar raddfa a chyflymder llawer mwy. Fel deiliaid cyllideb allweddol, mae gennym ran yn hyn hefyd; mae angen i ni sicrhau bod ein holl gyllidebau yn ceisio cyfrannu neu gyflawni camau cadarnhaol sy'n gadael bioamrywiaeth mewn cyflwr gwell.
Mae angen monitro effeithiol i gofnodi cynnydd tuag at ddarparu 30x30. Byddaf yn sefydlu grŵp gorchwyl monitro a thystiolaeth i barhau â'r gwaith sydd ei angen i sefydlu fframweithiau monitro a thystiolaeth cadarn a phriodol.
Mae angen dull ar draws y gymdeithas i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Mae angen i ni adeiladu sylfaen gref ar gyfer darparu capasiti yn y dyfodol drwy feithrin capasiti, newid ymddygiad, codi ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau, cryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau lleol a natur, a helpu pobl i ddeall a gallu cymryd camau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Llywydd, mae angen ymdrech tîm Cymru i ysgogi degawd o weithredu penderfynol er mwyn i ni allu rhoi'r brêcs ar ddirywiad bioamrywiaeth. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni sydd yma heddiw i arwain drwy esiampl fel bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau'r amgylchedd naturiol, fel yr ydym ni wedi ei wneud. Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn fy archwiliad dwfn, yn enwedig y grŵp craidd, yr is-grwpiau arbenigol a'r trafodaethau bwrdd crwn, gan helpu i'n rhoi ar lwybr i gyflawni ar gyfer dyfodol sydd wedi'i gyfoethogi gan natur. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, y rhan olaf, pan ddywedoch chi, 'Mae angen dull tîm Cymru arnon ni'—wyddoch chi, allaf i ddim anghytuno â hynny.
Nawr, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ddatblygu ac addasu fframweithiau monitro a thystiolaeth i fesur y cynnydd tuag at y targed 30x30 ac arwain blaenoriaethu camau gweithredu. Ond mae yna ddiffyg, ac nid yw'r targed 30x30 wedi'i roi mewn cyfraith. Nawr, rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi rhoi'r targed 2050 mewn rheoliadau. Rydych chi, hyn yn oed, yn nodi yn eich datganiad ysgrifenedig:
'Mae'n hanfodol gweithredu nawr ac mae angen i Gymru sicrhau degawd o weithredu os ydym am fod yn bositif dros natur.'
Felly, nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam, fel Llywodraeth, nad ydych chi'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon.
Wrth sôn am amgylcheddau morol, fi yw hyrwyddwr balch ein llamhidyddion yng Nghymru, felly rydw i wir yn awyddus i weld yr holl famaliaid morol yn cael eu gwarchod yn well. Efallai na fyddwch yn synnu ychwaith o glywed hefyd fy mod i'n croesawu'r penderfyniad i godi'r uchelgais a nodwyd yn eich rhaglen weithredu mawndir genedlaethol fel y bydd y rhaglen yn cyflawni ar raddfa sy'n gallu cyrraedd targed sero-net 2050 o 45,000 hectar o adfer mawndir erbyn 2030.
Fel y gwyddoch chi, rwy'n credu'n gryf y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy gyda pholisi morol. Mae'n dda eich bod chi'n mynd i gyflymu camau i gwblhau'r rhwydwaith MPA, ond nid yw'n ddigon. Dylem weithredu ar gynigion deddfwriaethol a chreu dyletswydd gyfreithiol i ffurfio cynllun datblygu morol cenedlaethol a'i adolygu'n rheolaidd.
Roeddwn yn croesawu'r sylwadau a wnaethoch am gynllunio gofodol a'r morlun, a gwn, trwy ein pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth Llyr Gruffydd, bod llawer o her a chraffu wedi bod ynglŷn â pham nad yw hynny ar waith nawr. Mae'r ddau ohonom yn gwybod mai polisi statudol yw'r hyn sydd wir yn gwneud gwahaniaeth, a deddfwriaeth allweddol.
Ond gyda diddordeb y darllenais am eich ymrwymiad i ddatgloi potensial tirweddau dynodedig i gyflawni mwy ar gyfer natur. Er fy mod yn cytuno bod prosiectau fel adfer cors mawn ac adfer cyrsiau afonydd naturiol, fel yr un a welir yn nyffryn Machno, yn cynnig cyfle gwych i natur a bioamrywiaeth, rwyf eisiau i ni fod yn glir o'r cychwyn cyntaf bod hefyd, ynghyd â hyn, yn gorfod mynd law yn llaw—. Sef cynhyrchu bwyd. Mae cynhyrchu bwyd mewn tirweddau dynodedig hefyd yn allweddol i'n dyfodol.
Fel y dywedodd Dr Kate Williams o Brifysgol Aberystwyth, mae gan ddiadellau ar yr ucheldir sy'n cael eu rheoli'n ofalus ac sy'n pori'n ddwys y potensial i gefnogi ein hecosystemau, ein bioamrywiaeth a byddant yn helpu i reoli'r dirwedd eiconig. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe gallech gadarnhau a oes gennych unrhyw fwriad i gyflawni dros fyd natur drwy leihau nifer y da byw mewn tirweddau dynodedig. Oherwydd, gyda'r targedau coed rydych chi wedi'u pennu, er fy mod i'n gwybod eich bod chi'n dweud bod yn rhaid i ffermwyr wneud cais am y rhain, mae ffermwyr yn pryderu—roedd hyd yn oed ar y teledu neithiwr, pan oeddwn i'n gwylio'r rhaglen hon—mae ffermwyr yn poeni'n fawr iawn am y ffaith, wrth geisio gwneud eu rhan dros yr amgylchedd drwy blannu'r coed ychwanegol, bod hyn mewn gwirionedd yn mynd i roi pwysau arnyn nhw o ran cynhyrchu bwyd. O ystyried y sefyllfa yn Wcráin, o ystyried y sefyllfa yn ystod COVID, pan mai ein ffermwyr ni, mewn gwirionedd—maddeuwch y chwarae ar eiriau—wnaeth gamu i fyny i'r plât a'n bwydo ni, mewn gwirionedd, yn ystod y problemau a gawsom gyda COVID, mae'n amlwg nawr yn fwy nag erioed. Ac rwy'n gwybod fod fy niweddar gyfaill a chydweithiwr Brynle Williams yn arfer, lawer iawn o flynyddoedd yn ôl, codi yn y Siambr hon pa mor bryderus yr oedd am brinder bwyd yn y dyfodol.
Rwy'n pryderu braidd y gallech fod yn mynd ar drywydd peryglus gan y sylwadau yn y datganiad ysgrifenedig eich bod yn cefnogi'r syniad o
'ffermwyr yn mynd ati i reoli o leiaf 10% o'u tir i gynnal a gwella cynefinoedd lled-naturiol...a chreu nodweddion cynefinoedd newydd'.
Felly, da o beth fyddai cael gwell esboniad ar hynny. Ffermwyr i fod â'r gallu i ddynodi 10 y cant o'u tir fferm o ansawdd uchel sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cig eidion a llaeth i fod yn nodweddion cynefin newydd—sut ydych chi'n mynd i weithredu hynny ac yn dal i fod yn dweud ein bod ni'n cefnogi ein ffermwyr i'r nfed radd wrth eu helpu i gynhyrchu cymaint o gynnyrch Cymreig o ansawdd da â phosib?
Yn 2021, rhyddhaodd NFU Cymru ei strategaeth 'Tyfu Gyda'n Gilydd', ac mae honno'n amlinellu cynllun ar gyfer cynyddu coed mewn ffordd gynaliadwy yng Nghymru, gan integreiddio coed mewn systemau ffermio presennol, yn hytrach na disodli'r systemau hynny. Mae NFU Cymru wedi mynnu mai plannu coed mewn modd sensitif fydd yr allwedd i alluogi amaethyddiaeth yng Nghymru i gyrraedd targedau carbon Llywodraeth Cymru gan amddiffyn y manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ehangach sy'n cael eu darparu gan ffermio yng Nghymru.
Gaf i eich atgoffa bod eich amser ar ben nawr? Rwyf wedi bod yn eithaf hael yn barod. Os oes gennych chi un pwynt olaf i'w wneud, gwnewch hwnnw nawr.
Iawn. A fyddwch chi'n ymrwymo i gefnogi strategaeth 'Tyfu Gyda'n Gilydd' NFU Cymru, ac a fyddwch chi'n creu dyletswydd gyfreithiol i ffurfio cynllun datblygu morol cenedlaethol a'i adolygu'n gyson? Diolch. Diolch, Llywydd.
Diolch, Janet. Felly, ar y 30x30 a'r targedau a roddwyd yn y gyfraith, rwyf wedi dweud yn ddiddiwedd yn y Siambr hon, a byddaf yn ei ailadrodd eto: rydym yn disgwyl i COP15, sydd bellach yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr yng Nghanada, ac rwyf yn gobeithio'n fawr y byddaf yn mynd iddi, i bennu targedau byd-eang. Mae'n hynod o bwysig fod ein targedau yn cyrraedd y targedau hynny ac yn rhagori arnyn nhw. Felly, rwyf wedi dweud yr holl ffordd drwodd, rydyn ni yn sicr yn bwriadu rhoi'r targedau yn y gyfraith. Rhan o waith y grŵp wrth symud ymlaen—. Felly, mae gennym ni'r gyfres gyntaf o argymhellion gan grŵp yr archwiliad dwfn. Fe fyddan nhw nawr yn ffurfio tîm gweithredu a fydd yn bwrw ymlaen â hynny. Maen nhw'n awyddus iawn i weithio gyda ni ac yn parhau i wneud hynny. Ni allaf fynegi fy niolch ddigon am yr oriau hir, hir y mae pobl wedi'u treulio am ddim gwobr heblaw am fod wedi gwneud y peth iawn. Wedi gweithio gyda ni, maen nhw'n mynd i barhau. Maen nhw i gyd wedi cytuno i barhau i weithio gyda ni—mae hynny'n cynnwys cymdeithasau ffermwyr gweithredol ac ati—i sicrhau bod gennym gynllun gweithredu ar waith nawr i fod â'r targedau penodol iawn.
Felly, rwy'n cytuno â chi, Janet, ond allwch chi ddim ysgrifennu'r targedau i lawr mwy nag y gallaf i. Y broblem yw, mae'n ddigon hawdd dweud eich bod chi eisiau'r targedau yn y gyfraith, ond dydw i ddim yn gwybod beth ydyn nhw. Felly, 30x30, iawn, gallwn ni wneud hynny. Ond, petawn i eisiau, gallwn i ddweud wrthych fod 30 y cant o'r tir yng Nghymru yn cael ei warchod yn barod—mae hynny wedi ei gyflawni. Ond rydych chi'n gwybod ac rydw i'n gwybod nad dyna sydd ei angen. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom yw camau gweithredu penodol iawn, a bydd y grŵp arbenigol yn ein helpu i weithio arnynt. Mae gennym y grwpiau bord gron a rhanddeiliaid ehangach yn cyfrannu at hynny, ac fe gawn dargedau sy'n ystyrlon, sy'n rhoi pwysau arnom, ac sydd, yn wir, yn y gyfraith. Ond, mae angen i mi wybod beth ddylai'r targedau hynny fod. Nid oes diben i mi fod eu heisiau nawr pan nad ydym wedi eu datblygu, ac mae angen i mi hefyd wybod beth fydd COP15 yn ei wneud. Rwyf wedi bod yn gyson o ran dweud hynny yr holl ffordd drwodd, felly byddwn ni'n cyflawni hynny. Byddwn ni'n rhoi Bil drwodd yn nhymor y Senedd hwn sy'n rhoi'r rheiny yn y gyfraith, ond mae angen i mi allu gwneud hynny gan wybod beth yw'r trefniadau byd-eang ar gyfer hyn. Ac, fel y dywedais i, rydym yn bwriadu cymryd rhan weithredol iawn yn COP15 hefyd, fel yr ydym wedi bod yn ei wneud, gan gyfrannu at bob un o'r cynghreiriau Under2 a'r gweddill.
Ar rai o'r pethau eraill, ar y cynllun datblygu morol, dydw i ddim eisiau dargyfeirio adnoddau prin iawn. Mae'n ddrwg gen i, Janet, ond rydych chi'n Geidwadwr yn y pen draw—felly, gyda'r ymosodiad parhaus ar wasanaethau cyhoeddus a faint o adnoddau sydd gennym, nid yw dargyfeirio adnoddau i wneud cynllun arall eto, pan mai'r hyn yr wyf i ei eisiau mewn gwirionedd yw bod â'r cynllun wedi'i weithredu, yn rhywbeth yr wyf yn barod i'w wneud. Felly, rwy'n cytuno â chi y dylai fod elfen strategol i hyn—byddwn ni'n cynnwys hynny. Rydym wedi sefydlu grŵp llywio rheoli rhwydwaith MPA. Byddwn ni'n gweithio gyda nhw i lunio'r cynllun gweithredu. Ond rwyf eisiau bwrw ati a'i wneud. Dydw i ddim eisiau dargyfeirio fy adnoddau prin i wneud cynllun arall eto—rydyn ni yn sicr iawn yn ffatri strategol fel y mae, a dydw i ddim eisiau gwneud hynny. Ond rwy'n cytuno â chi bod angen ei ddyrannu'n ofodol, felly byddwn yn gweithio gyda hwnnw ar y cynllun gweithredu.
Ac yna, dim ond i ddweud ei bod yr un mor bwysig gweithio gyda'r pysgotwyr ar y cynlluniau morol ag y mae i weithio gyda'r ffermwyr ar y rhai tirol. Felly, byddwn yn dymuno ymgynghori â phobl ein diwydiant pysgota, byddwn yn dymuno ymgynghori, yn amlwg, gyda'r holl sefydliadau anllywodraethol, a byddwn yn dymuno trafod hyn gyda'n harbenigwyr. Roedd gennym arbenigwyr morol ar yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth yn eithaf bwriadol oherwydd mae hyn yn ymwneud â phob ardal—tir, dŵr croyw a'r môr. Felly, fe fyddwn ni'n gwneud hynny.
Ac yna, ar y ffermwyr, mae gen i ofn bod yna lawer o chwalu chwedlau y mae angen ei wneud o ran yr hyn yr ydym ni wedi gofyn i ffermwyr ei wneud. Yn amlwg, rydyn ni eisiau i ffermwyr gynhyrchu'r bwyd gorau posib, yn y ffordd fwyaf effeithlon posibl, a'r math o fwyd yr ydym ei eisiau, wrth symud ymlaen, ond rydyn ni hefyd eisiau iddyn nhw gefnogi'r bioamrywiaeth gwbl hanfodol, y mae ein bwyd yn amhosib hebddo. Os nad oes peillwyr, does dim bwyd. Os nad oes cynefinoedd i'r peillwyr hynny, does dim bwyd. Felly, mae'n rhaid i ni fod â chymysgedd cynaliadwy rhwng y math iawn o goedwigaeth, y math iawn o laswelltir agored—heb ei aredig, heb ei ffermio—adfer mawndir ac ati, a chynhyrchu bwyd. Mae'n rhaid i ni gael y cymysgedd yna'n iawn, a'r gwir yw nad yw'n iawn ar hyn o bryd, a dyna pam mae gennym ni ein bioamrywiaeth yn cael ei dinistrio, oherwydd mae ein harferion ffermio blaenorol yn yr ugeinfed ganrif wedi cyfrannu ato. Nid nhw yn unig sy'n gyfrifol amdano ond maen nhw wedi cyfrannu'n fawr at golli'r fioamrywiaeth honno. Felly, bydd y cynllun ffermio cynaliadwy, sy'n cael ei gyflwyno, yn gwobrwyo ffermwyr am greu'r cymysgedd iawn. Ac wrth gwrs, byddwn ni'n eu helpu i wneud hynny, ac wrth gwrs rydyn ni'n gwerthfawrogi'r bwyd y maen nhw'n ei gynhyrchu, ond maen nhw hefyd yn cynhyrchu'r aer yr ydym yn ei anadlu a'r planhigion yr ydym yn dibynnu'n llwyr arnyn nhw i aros yn fyw, a'r rhywogaethau sydd mewn gwirionedd yn ein helpu i reoli'r hinsawdd. Rydyn ni wedi gweld beth sy'n digwydd i'r hinsawdd. Mae'n rhaid i ni gael mwy o allu i wrthsefyll hynny.
Diolch, Gweinidog. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru nawr, rwy'n gobeithio, yn symud tuag at agenda mwy uchelgeisiol o ran mynd i'r afael â'r argyfwng natur. Mae'r dadleuon am y maes hwn yr ydyn ni wedi eu cael yn y Siambr, rwy'n credu, wedi dangos bod pob un ohonom ni wedi cydnabod pwysigrwydd hanfodol gwarchod ac adfer bioamrywiaeth i Gymru, ond y byd ehangach hefyd. Ac rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru wedi arwain y ffordd wrth alw ar y Senedd i ddatgan argyfwng natur ac i Lywodraeth Cymru ymrwymo i dargedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol a chau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol hwnnw. Ni oedd y wlad gyntaf i ddatgan argyfwng natur yn ffurfiol, sy'n beth cyffrous a phwysig iawn, ond heddiw rydym yn dal i aros am nodau'r polisi ynghylch hynny er mwyn iddo ddwyn ffrwyth. Mae'r ymrwymiadau yn ein cytundeb cydweithredu, wrth gwrs, yn sicr yn gamau tuag at Gymru fwy positif o ran natur. Edrychwn ymlaen at barhau â gwaith cydweithredol ar hynny. Nawr, ar yr heriau yn y maes hwn, yn cael eu cydnabod—er gwaethaf unrhyw un o'r rheiny—rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â'r ffaith bod cynnydd, yn anffodus, wedi bod yn araf o ran gwarchod byd natur, oherwydd mae natur yn parhau i ddirywio a bydd yn dal i wynebu sawl bygythiad.
Gweinidog, byddwch chi'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi nodi manylion Bil newydd sy'n bygwth diwygio neu ddileu cyfreithiau amgylcheddol hanfodol. Mae rhai o'r deddfau hyn a allai gael eu dileu yn amddiffyn rhai o'n bywyd gwyllt a'n mannau gwyrdd mwyaf agored i niwed—maen nhw'n amddiffyn dŵr glân, aer glân, traethau glân ac afonydd. Byddai unrhyw un o'r gweithredoedd hyn yn digwydd yn drychineb; gyda'i gilydd, yn gyflym un ar ôl y llall, fyddai hyn yn ddim llai nag yn ymosodiad ar fyd natur. Nawr, rydw i wir yn cydnabod bod yr archwiliad dwfn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau sydd i'w croesawu tuag at roi ei nodau ar gyfer adfer byd natur ar waith a chryfhau'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yng Nghymru. Rwy'n nodi i'r Prif Weinidog ddweud ym mis Gorffennaf bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal safonau amgylcheddol yr UE. Felly, a gaf ofyn i chi, Gweinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau posibl Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a chynllun twf ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru, a pha sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw ei chynlluniau yn effeithio ar allu Cymru i benderfynu a chyflawni ein huchelgeisiau amgylcheddol ein hunain, os gwelwch yn dda?
Mae'r archwiliad dwfn yn cynnwys argymhelliad i ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol—mae hyn wedi codi'n barod—i sefydlu targedau adfer natur cyffredinol, ac y byddai hynny'n cael ei osod mor gynnar â phosibl yn nhymor y Senedd hwn. Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr oherwydd mae angen y targedau cyfreithiol hynny sy'n gyfreithiol rwymol ar frys. Rwy'n credu, yng Nghymru, fod gennym y cyfle hwn yma i fod yn well wrth osod, ie, nodau uchelgeisiol ac olrhain cynnydd tuag at y nodau hynny. Allwn ni ddim fforddio degawd arall o fusnes-fel-arfer ar gyfer natur. Rwy'n credu y byddai pawb—wel, gobeithio y byddai pawb—yn cytuno ar y pwynt hwnnw. Felly, a allwch chi gadarnhau y bydd hyn yn cynnwys targedau ar gyfer lluosogrwydd a dosbarthiad rhywogaethau, ynghyd â maint ac ansawdd cynefinoedd, fel rhan o'r gyfres hon o dargedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol, hirdymor a dros dro?
Yn olaf, Gweinidog, ydych chi'n cytuno, yn sgil cynlluniau Llywodraeth y DU, ei bod hi'n bwysicach nag erioed i sicrhau'r ddeddfwriaeth hanfodol hon i Gymru a fydd yn cau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol presennol? Ac a wnewch chi gadarnhau bod gwaith i ddatblygu'r targedau a'r trefniadau llywodraethu—yr holl bethau hynny sydd eu hangen mor hanfodol—yn mynd i ddechrau cyn gynted â phosibl wrth ragweld y ddeddfwriaeth hon sydd i ddod os gwelwch yn dda? Diolch.
Ie, diolch, Delyth. Gallwn ni i ddim yn cytuno mwy; mae angen i ni gyd, yn amlwg, chwarae ein rhan. Mae datgan yr argyfwng yn un peth; mewn gwirionedd, mae cymryd y camau anodd iawn, iawn sydd eu hangen i wneud iddo ddigwydd yn beth arall. Rwy'n ofni bod yn rhaid i mi ddweud drwy'r amser wrth y Ceidwadwyr gyferbyn â'i bod hi'n ddigon hawdd dweud eich bod yn cytuno â'r pethau hyn, ond yna mae gwrthwynebu pob un mesur sy'n ein symud ar hyd y llwybr hwnnw yn beth anodd iawn. Dydy'r rhain ddim yn bethau hawdd i'w gwneud neu fe fydden ni wedi eu gwneud nhw. Byddai pobl wedi eu gwneud yn awtomatig pe baen nhw'n hawdd. Maen nhw'n anodd. Maen nhw'n newid y ffordd rydyn ni i gyd yn byw ein bywydau—dyna'r gwir amdani. Ac mae'n rhaid i ni wneud hynny neu fydd gennym ni ddim planed ar ôl. Ac nid pethau hawdd i'w gwneud yw'r rhain. Mae pob un sector o'n cymdeithas yn mynd i orfod edrych yn ofalus ar yr hyn y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, a meddwl yn ofalus iawn am beth fydd ei angen o'r sector hwnnw o gymdeithas neu'r unigolyn hwnnw neu'r busnes hwnnw i gyfrannu at hyn, neu fyddwn ni ddim yn cyrraedd yno. Alla i ddim pwysleisio hynny digon. Mae angen hynny o bob maes o'n cymuned. Mae angen inni weithio gyda'n cymunedau ar newidiadau ymddygiad, ar wneud y peth iawn—rydych chi'n fy nghlywed i'n dweud hyn drwy'r amser—yn haws i'w wneud, gan wneud y peth anghywir yn anoddach ac yn anoddach ac yn anoddach i'w wneud. Ac, yn amlwg, mae angen i ni symud pobl ar hyd y continwwm hwnnw. Dydyn nhw ddim yn mynd i fynd o ofnadwy iawn i fod yn gwbl ardderchog mewn un naid. Mae'n rhaid i chi gael pobl yno, ond mae'n rhaid i ni eu cael nhw i symud ar hyd y continwwm hwnnw. A'r math o ystyfnigrwydd a,'Nid fi; pawb arall ond nid fi', mae'n rhaid i ni beidio â gwneud hynny. Ac roedd bobl yr archwiliad dwfn yn chwyrn am hynny ym mhob rhan o'r gwaith, felly mae'n rhaid i ni wneud hynny.
Yn sicr, mae'n rhaid i ni gael y targedau hyn i mewn i ddeddfwriaeth. Alla i ddim cytuno gyda chi beth fyddan nhw oherwydd dyna rwyf wedi ei ofyn i'r arbenigwyr ei wneud. Felly, rwyf eisiau gweld beth sy'n digwydd yn COP ac rwyf eisiau gweld sut olwg sydd ar y rhai byd-eang. Rwyf wedi dweud hyn wrthoch chi'n ddiddiwedd, on'd ydw i? Rydw i eisiau bod â'r targedau ar waith hefyd; mae'n rhwystredig i mi. Ond dydw i ddim eisiau gosod targedau sy'n rhy hawdd neu sydd heb gysylltiad â'r gwaith byd-eang sydd wedi bod yn digwydd. Rydw i wedi bod a'r arbenigwyr archwiliad dwfn hyn—maen nhw wedi bod yn anhygoel i eistedd wrth eu hochr; mae'n brofiad arbennig iawn—ond dydyn nhw ddim yn cytuno ymysg ei gilydd bob amser ynglŷn â sut olwg y dylai fod arnynt. Felly, mae angen i ni gael barn gonsensws ynglŷn â sut olwg sydd ar y targedau hyn, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gyraeddadwy, oherwydd mae targedau sy'n cael eu gosod ac yna maen nhw wedi mynd dim ond yn cynyddu sinigiaeth ac, 'O, beth yw'r pwynt?' Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gyraeddadwy, ond mae'n rhaid iddyn nhw ein hymestyn ni, on'd ydyn nhw? Mae'n rhaid iddyn nhw fod ond y dim i fod yn gyraeddadwy. Felly, mae'n bwysig cael hynny'n iawn, ac rwy'n benderfynol o'i wneud. Ac rwyf eisiau bod pwysau arnaf o ran hynny. Rydyn ni eisiau adrodd—mae'n rhaid i mi ddod yma ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi beth rydw i wedi'i wneud amdano, ac ati. Rydw i eisiau'r pethau yna. Ond mae'n hanfodol cael y targedau'n iawn. Felly, byddwn yn gwneud llawer o waith nawr yn y cyfnod cyn COP, ac yna yn syth ar ôl COP, i sicrhau bod y targedau hynny wedi'u cytuno ar draws y sectorau cyfan, ac yna i'w gweithredu. Ond, gallwch fod yn sîwr iawn, mae hynny i gyd yn iawn, ond bydd y targedau hynny'n golygu bod yn rhaid i ni i gyd wneud pethau'n wahanol ac mewn amgylchiadau lle gallai hynny fod yn anodd iawn. Efallai y bydd penderfyniadau anodd. Felly, nid llwybr hawdd i'w gymryd yw hwn, ond mae'n rhaid i ni wneud hyn neu ni fydd gennym blaned ar ôl. Doeddwn i ddim yn gallu cytuno mwy.
Wedyn, o ran cynllun Llywodraeth y DU, rwy'n anobeithio a dweud y gwir. Felly, mae gennym y system gynllunio yn cael ei chwalu. Fe welsoch chi ymateb yr RSPB i hynny—eu bod wedi mapio'r ardaloedd gwarchodedig yn erbyn y parthau buddsoddi honedig. Mae'n drychineb—yn drychineb llwyr. Wrth gwrs fe fyddwn ni'n brwydro yn eu herbyn nhw. Wrth gwrs fe fyddwn ni'n ceisio cadw ein safonau UE cymaint ag y gallwn. Nid mater i mi yw hyn; byddai angen i chi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol am hynny. Ond fy ofn mawr i yw, wrth ddargyfeirio adnoddau i ymladd y frwydr honno, ein bod ni'n colli hyd yn oed mwy o dir o ran gwneud y pethau rydyn ni eisiau eu gwneud. Rwy'n credu bod y Torïaid yn gwadu'n llwyr yr effaith ar ein hadnoddau cyfyngedig o orfod brwydro yn erbyn ymosodiad hurt a chwbl diangen ar rywbeth y maen nhw'n dweud eu hunain eu bod nhw eisiau ei wneud. Felly, dydw i ddim yn gwybod ble i roi fy hun dros ba mor grac ydw i am hynny i gyd, ond gallaf eich sicrhau chi y byddwn yn ei ymladd, byddwn yn cadw gafael ar ein system a arweinir gan gynllun yr ydym wedi gweithio mor galed arni ac sy'n bwysig iawn i bobl, ac fe glywsoch chi yng nghwestiynau'r Prif Weinidog dim ond prynhawn yma bod pobl eisiau coelcerth o ddeddfau cynllunio ond nid yn eu hardal eu hunain, sy'n ymateb eithaf clasurol.
Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog yn fawr. Ni allwn barhau i golli rhywogaethau. Byddwn i'n cymryd mwy na fy munud i restru'r rhywogaethau yng Nghymru sydd dan fygythiad, ond mewn bioamrywiaeth, wrth gwrs, mae angen ecwilibriwm arnon ni. Ni allwn fforddio colli ysglyfaethwyr y pen uchaf. Os ydyn ni'n colli ysglyfaethwyr y pen uchaf, yna mae anifeiliaid yn is i lawr y gadwyn fwyd yn lluosi'n aruthrol, gan roi pwysau ar anifeiliaid ymhellach i lawr y gadwyn fwyd. Rydym wedi gweld hynny, er enghraifft, gyda llygod mawr; mae'r anifeiliaid a oedd yn arfer eu bwyta wedi cael eu lleihau ac felly o ganlyniad yr hyn yr ydyn ni'n ei weld yw llawer iawn mwy o lygod mawr nag a oedd yn arfer bod gennym. Beth mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'w wneud i gefnogi ysglyfaethwyr y pen uchaf sy'n bwysig iawn i fioamrywiaeth?
Ar afonydd a'r môr, ni allwn barhau i'w orlifo â charthion heb eu trin a llygredd amaethyddol. Rydym wedi gweld tyfiant algâu yn Afon Gwy a achosir gan lygredd amaethyddol. Gwnaeth CNC waith ymchwil a ysgogwyd gan dyfiant gormodol o algâu, a achosir yn aml gan lefelau ffosffad uchel yn y dŵr. Trodd rhannau o'r afon yn wyrdd yn ystod tywydd heulog a phan oedd llif y dŵr yn isel, gan achosi niwed posibl i ecosystemau a bioamrywiaeth. Ond nid yn yr afon yn unig y ceir y llygredd; mae'n rhedeg i'r môr. Felly, pa gamau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio i atal llygredd afonydd a'r môr? Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cred y gallech bwmpio unrhyw beth i'r môr a byddai'n diflannu. Rydym ni nawr yn gwybod nad yw hynny'n wir, felly gobeithio y gallwn ni gymryd rhywfaint o gamau.
Ie, diolch, Mike. Ar y pwynt ysglyfaethwr pen uchaf, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Wn i ddim a yw'r Aelodau wedi gweld y ffilm am barc Yellowstone yn ailgyflwyno'r bleiddiaid. Os nad ydych chi wedi ei gwylio, gwyliwch hi—dim ond chwilio am, 'Yellowstone park reintroduction of wolves' ar Google. A dyna'r cyfan wnaethon nhw. Roedd ganddyn nhw bioddiraddiad go iawn, roedd ganddyn nhw gorbori gan bob math—roedd ganddyn nhw bob math o bethau, i fod yn onest, mae'n gwneud i chi grio i wylio. Fe wnaethon nhw roi'r ysglyfaethwr pen uchaf yn ôl i mewn, rheoli niferoedd y pethau eraill ac fe adfywiodd y parc. Roedd yn syfrdanol i'w wylio, a dyna sy'n digwydd pan fyddwch chi'n ymyrryd ag ecosystemau heb ddeall beth fydd y canlyniad. Mae'n werth gwylio os nad ydych chi wedi ei gwylio. Mae'n gwneud i chi fynd yn oer a chrynu—mae hynny wedi digwydd i mi dim ond wrth feddwl am hynny nawr.
Felly, mae deall mewn gwirionedd—dyma'r pwynt, Mike, on'd yw e—o'r arbenigwyr sut olwg ddylai fod ar yr ecosystem honno, beth mae'r ysglyfaethwr pen uchaf hwnnw mewn gwirionedd yn ei wneud a'i rôl wrth gynnal yr ecosffer yr ydym yn siarad amdano yn beth pwysig iawn yr ydym yn bendant yn gweithio arno. Rydym wedi bod yn ystyried, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwybod, a fyddai ailgyflwyno afancod yn syniad da yn rhai o'n hafonydd. Does gen i ddim syniad eto—neb i fynd i banig. Dydyn ni ddim wedi penderfynu eto. [Chwerthin.] Ond, rydyn ni'n ystyried hynny—
Rwyf i'n mynd i fwy o banig am fleiddiaid, a dweud y gwir. [Chwerthin.]
A'r bleiddiaid. Mae'n bwysig iawn deall sut olwg sydd ar yr ecosystem yr ydych chi'n edrych arni nawr a beth sy'n rheoli honno ar hyn o bryd. Beth yw'r amnewidyn ar gyfer yr ysglyfaethwr pen uchaf? Mae'n fwy cymhleth, on'd yw e, na hynny, oherwydd bydd methodolegau eraill. Mae pethau'n symud i'r gofod sydd wedi ei wacáu gan ysglyfaethwr pen uchaf, er enghraifft. Ond mae'n ddiddorol iawn—gwyliwch y rhaglen Yellowstone—oherwydd, rydym wedi tynnu'r holl ysglyfaethwyr pen uchaf o ran helaeth o'n bywyd gwyllt, felly beth sy'n mynd i reoli ffrwydrad poblogaeth y pethau a fyddai fel arall wedi cael eu hysglyfaethu? Mae honno'n broblem go iawn.
Y mater arall, lle rydyn ni'n ceisio amddiffyn rhywogaeth sydd wedi cael ei gor-ysglyfaethu, yw bod yna sgwrs anodd iawn am sut i wneud hynny. Mae rheolaeth farwol, fel y'i gelwir yn llednais—lladd yr ysglyfaethwr pen uchaf am ei fod yn bwyta cywion adar sy'n nythu ar y ddaear, ac yn y blaen—yn ddadleuol iawn. Rydyn ni'n gwneud hynny mewn rhai rhannau o Gymru. Felly, mae edrych i weld a oes gennym yr ateb cywir i broblem yn rhywbeth yr wyf i'n awyddus iawn i'w wneud, ac nid wyf i'n arbenigwr ar hynny. Mae angen i mi ofyn i bobl am gyngor ar hynny. Mae amrywiaeth o safbwyntiau am hynny. Rydym wedi cael trafodaethau tanbaid yn y grwpiau hyn, gallaf ddweud wrthych chi. Ond mae ceisio taro ar ateb mae'r rhan fwyaf o bobl ar draws y byd, nid dim ond yng Nghymru, yn cytuno yw'r ateb yn bwysig mewn gwirionedd, Mike. Felly, rydyn ni'n gweithio'n galed i wneud hynny. Ac mae'n rhaid i ni wneud hynny gyda'n rheolwyr tir a'n tirfeddianwyr, on'd oes? Mae'n rhaid i ni ddeall sut byddai hynny iddyn nhw. Felly, mae yna lawer o bobl yn gweithio ar hynny.
Fe wnes i lansio'r adroddiad hwn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddoe. Mae ganddyn nhw—alla i ddim cofio beth maen nhw'n ei alw nawr—raglen Hebogiaid yno, er nad dyna maen nhw'n ei galw, ond rhaglen adar ysglyfaethus yno. Mae'n anhygoel, ac os ydych chi'n siarad â nhw am sut maen nhw'n ailgyflwyno'r rheiny i'r tirlun, mae hynny hefyd yn anhygoel. Felly, maen nhw'n gwybod faint o erwau o dirwedd fydd yn cefnogi un dylluan frech, er enghraifft. Felly, maen nhw'n gwybod lle maen nhw'n gallu ac yn methu cyflwyno mwy, oherwydd bydden nhw yn ymladd neu'n llwgu neu beth bynnag. Felly, mae'n ddiddorol iawn, ac mae llawer o waith ledled Cymru a ledled y byd yn cael ei wneud ar hynny.
Ar y pwynt arall a wnaethoch, am lygryddion afon, yn sicr. Dydw i ddim eisiau bod yn rhagweld dinistr drwy'r amser, er hynny. Gallen ni fynd yn gyflymach, peidiwch â fy nghamddeall, a gallen ni wneud yn well, ond yn araf bach maen nhw'n dal i wella. Dydw i ddim eisiau i bobl gael y syniad bod afonydd mewn gwirionedd yn dad-wella yng Nghymru. Mae rhai o'n hafonydd mewn argyfwng, argyfwng go iawn, ond mewn gwirionedd, o ran y darlun cyfan yng Nghymru, mae yna welliant araf. Yr hyn y gofynnwyd i mi ei wneud fel rhan o'r archwiliad dwfn yw cyflymu hynny, deall pam mae hynny wedi gweithio mewn rhai ardaloedd a'i gyflymu, a'i gael allan i'r ardaloedd lle mae gennym argyfwng go iawn fel afon Gwy ac afon Wysg, er enghraifft, neu'r hyn a elwir yn uwchddalgylch Brycheiniog. Felly, y pwynt rwy'n ei wneud, Mike, yw ein bod ni'n gwybod beth sy'n gweithio mewn rhai ardaloedd; mae angen i ni ei gyflymu ar draws y maes. Ac rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais mewn ymateb i Delyth, Llywydd: ni all hynny ddigwydd oni bai bod pob un rhan o'n cymuned yn chwarae ei rhan. Does dim pwynt pwyntio bys at bobl a dweud, 'Eich bai chi yw hyn', neu 'Eich bai chi yw hyn'; mae'n rhaid i bawb chwarae ei ran wrth leihau ei gyfraniad i'r llygredd hwnnw.
Rwy'n croesawu eich pwyslais ar fioamrywiaeth a'ch angerdd. Mae'n hyfryd bod yn Aelod o'r Senedd a chlywed bioamrywiaeth yn cael ei thrafod gymaint. Roeddwn i'n taro fy mhen ar wal frics, yn y bôn, fel cynghorydd am 12 mlynedd fel hyrwyddwr bioamrywiaeth, ond mae clywed eich angerdd yn wych. Mae'r ddealltwriaeth o'r argyfyngau natur a hinsawdd yn gwbl groes i Lywodraeth y DU, sy'n mynnu dadreoleiddio a gwaredu rheoliadau cynllunio o dan y parthau buddsoddi, fel y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn gynharach. Rwy'n poeni'n fawr eu bod nhw'n mynd i gyrraedd y targedau maen nhw wedi'u gosod. Felly, dull tîm Cymru amdani, ac mae gwaith partneriaethau natur lleol yn wych iawn a'r hyn maen nhw'n ei wneud. Rwy'n gwybod eich bod wedi darparu cyllid cyfalaf iddyn nhw. A fyddwch chi'n gallu ymrwymo i gyllid cyfalaf wrth symud ymlaen hefyd, dros y blynyddoedd nesaf, i'w helpu i barhau â'u gwaith da? Diolch.
Ie, diolch, Carolyn. Felly, roedd gennym y cwmnïau dŵr yn cymryd rhan fawr yn ein hymchwiliad dwfn ac yn ein bord gron ehangach, a'n rhanddeiliaid. Rwyf i, yn bersonol, wedi cwrdd ag Ofwat—rydw i bob amser yn cymysgu'r Ofs; Ofwat yn yr achos hwn—i siarad am y strwythur prisio newydd, oherwydd i Dŵr Cymru yn benodol, nid yn gymaint i Hafren Dyfrdwy, mae'n gwmni nid-er-elw, felly mae angen i ni gael y strwythur yn iawn fel y gall y buddsoddiad fynd i mewn yn y ffordd gywir. Ac mewn gwirionedd rydyn ni dan anfantais oherwydd hynny. Felly, rydyn ni wedi cael sgwrs eithaf cadarn gyda Ofwat am wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei ystyried, ac rydym yn parhau i wneud hynny. Ac roedd Dŵr Cymru yn y grŵp craidd hefyd, o ran peth o hyn. Ond, yn bendant, mae'n rhaid i ni gael y pethau hynny'n iawn. Rydym ni'n dal i ddefnyddio system garthffosiaeth o Oes Fictoria ar draws y rhan fwyaf o'r DU, ac nid yw'n addas i'r diben o gwbl. Felly, mae'n rhaid i ni wneud llawer o bethau. Felly, mae gen i rai pethau cyfochrog yn mynd ymlaen i'r archwiliad dwfn. Felly, rydym wedi gwneud ymchwiliad ac adolygiad i'r systemau draenio cynaliadwy, a ddylen ni fod yn cyflymu hynny. Rwyf wedi ysgrifennu at bawb ac wedi atgoffa pob cyngor bod deddfau eisoes ar waith yn eich atal rhag rhoi gorchudd anathraidd ar eich gardd flaen ac ar eich dreif. Rwyf wir yn teimlo y dylai pobl wybod hynny a pheidio â gwneud hynny; mae'r dŵr ffo i mewn i'r gwteri yn ofnadwy o hynny. Joyce, rydych chi wedi sôn am hynny ers i mi eich adnabod, rwy'n credu. Mewn gwirionedd rydym wedi rhoi'r ddeddfwriaeth yn ei lle ac mae angen i'n partneriaid awdurdod lleol gamu i'r adwy, ac rwy'n credu bod ond angen i unigolion wybod amdano.
O ran y cyllid, Carolyn, ydw, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod ni wedi rhoi'r cyllid mewn cylch tair blynedd fel bod pobl yn gallu cynllunio ar gyfer rhaglen llawer hirach, er mwyn iddyn nhw ddeall sut i ledaenu'r camau sydd ganddyn nhw ac y gallan nhw gynllunio ar gyfer dyfodol tymor canolig. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ni, o flwyddyn i flwyddyn, ymestyn y rhaglen tair blynedd wrth fynd ymlaen. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae'r tynnu ynghyd o'r holl wahanol ysgogwyr, cymuned, y mudiadau anllywodraethol, y Llywodraeth, cynghorau ac ati wedi bod yn llwyddiannus iawn.
Rwy'n edrych ymlaen at y bleiddiaid ym mharc Singleton, Mike. [Chwerthin.]
Mae'n rhaid i mi ddweud wrthoch chi ar yr adeg hon, Huw, bod yna rai pobl a fyddai'n dweud bod yna fleiddiaid eisoes ym mharc Singleton. [Chwerthin.]
Gwrandewch, rwy'n mynd i fynd yn gyflym trwy rai pethau. Yn gyntaf oll, da iawn ar hyn a da iawn i'r bobl a roddodd hyn at ei gilydd a'r archwiliad dwfn bioamrywiaeth. Mae hyn yn arwyddocaol—mae pob gair yn y datganiad hwn yn ein cario ar ffordd arwyddocaol. Nawr mae'r manylion yn mynd i fod yn bwysig iawn, ond a gaf i groesawu hyn yn fawr iawn, croesawu'r ffaith eich bod wedi ailddatgan heddiw, mewn ymateb i'r datganiad hefyd, eich ymrwymiad i gyflwyno targedau a rhai statudol sy'n ymestynnol ac yn uchelgeisiol? Ac mae'n rhaid iddyn nhw fod y rhai iawn. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi glynu at hyn ers tro; mae hynny'n wych, ond rydyn ni'n edrych ymlaen atyn nhw ac fe fyddwn ni'n eich dal chi atyn nhw o ran bod yn ymestyn ac yn uchelgeisiol. Mae'r arwyddion ar gyfer hyn yn bwysig o o ran tîm Cymru; mewn cyferbyniad llwyr â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, yr hyn yr ydyn ni'n ei weld; mae'n rhaid i ni i gyd dynnu hyn at ei gilydd. Ac a fyddech chi'n cadarnhau i mi, mewn gwirionedd, fod llawer o ffermwyr wedi bod yn rhan o'r archwiliad dwfn, llawer wedi cyfrannu? Nid yn unig yr oedden nhw eisiau hyn, roedden nhw eisiau i ni fynd ymhellach. Ac a fyddech chi hefyd yn dweud wrthym ni sut rydyn ni'n mynd i wneud y cyllid? Oherwydd fe wnaethoch chi sôn tua diwedd y datganiad yn y fan yna—mae'n dweud:
'Rydym yn cydnabod bod angen i ni ryddhau cyllid ychwanegol er mwyn cyflawni ar gyfer natur yn gyflymach ac ar raddfa fwy.'
Rwy'n cytuno. Pryd a sut?
Oedd, felly roedd gennym amryw o grwpiau ffermwyr yn rhan o'r archwiliad dwfn ac yn y grŵp rhan—. Felly, mae yna ryw fath o brif grŵp ac is-grwpiau; dyna sut y gwnaethon ni e. Fe benderfynon ni na allen ni gael trafodaeth adeiladol gyda mwy na tua 12 o bobl yn y grŵp craidd, felly cawsom fath o fodel prif grŵp ac is-grwpiau, felly roedd aelodau o'r grŵp craidd hefyd yn eistedd ar y bordiau crwn a'r grwpiau rhanddeiliaid ac yn cyfrannu atynt. Roedd gennym ryw fath o is-strwythur mawr yn cyfrannu at argymhellion y grŵp craidd. Mae hynny i gyd yn y parth cyhoeddus, felly gallwch weld sut olwg sydd ar hynny.
Felly, ie, yn sicr iawn. Y consensws absoliwt ar draws y maes oedd, 'Mae'r hyn yr ydych chi'n ei wneud yn iawn, ond mae angen i chi ei wneud yn fwy, yn well, yn fwy cysylltiedig ac yn gyflymach', yn y bôn. Felly, doedd neb eisiau ei weld yn mynd yn arafach. A bu rhywfaint o drafod ynghylch a oedd y '30 y cant o'r tir' erbyn 2030 yn ddigon uchelgeisiol, ond y farn gonsensws oedd, pe byddem yn llwyddo i wneud hynny, byddem wedi gwneud newid sylweddol yn y ffordd y mae pethau'n digwydd yng Nghymru, oherwydd mewn gwirionedd, nid oes gennym unman yn agos i 30 y cant o'n tir mewn statws cadwraeth da, felly, mewn gwirionedd, mae'n ofyniad eithaf mawr, mewn gwirionedd; er hynny ei bod yn drist i ddweud hynny. Hefyd, y farn gonsensws oedd, pe bai chi'n cyrraedd 30 y cant o'r tir mewn statws cadwraeth da, byddech chi—. Oherwydd yr unig ffordd o wneud hynny yw gwneud hyn. Rwyf wedi gwneud yr holl berfeddwlad hefyd, oherwydd rhan o'r broblem gyda'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a'r gwahanol dirweddau dynodedig eraill yw bod yr hyn sy'n digwydd o amgylch ymyl y rhain yn cael effaith fawr iawn ar yr hyn sy'n digwydd y tu mewn iddyn nhw, felly byddai'r 30 y cant yn ei ledaenu allan beth bynnag, sy'n dda i'w wybod.
Ond mae'n ymwneud â gwneud y pethau anodd hyn y bydd pobl—. Rydyn ni i gyd yn cytuno nawr, oherwydd rwy'n siarad mewn pethau strategol uchel, ond pan fo'n dod i'r pethau unigol, nid yw'n mynd i fod yn hawdd deall sut mae'r pethau hyn yn edrych. Bydd yn rhaid i bob sector newid. Bydd yn rhaid i bob un sector newid, Huw.
Ac yna ar ysgogi cyllid, mae gennym ni waith arloesol yn digwydd ar hynny. Mae gennym ni ddewisiadau anodd i'w gwneud a rhai sgyrsiau anodd i'w cael. Felly, er enghraifft, a ddylen ni fod yn annog y cynlluniau gwrthbwyso carbon i ddod i Gymru gyda'u llawer iawn o arian mawr? A'r ateb i hynny yw, 'Dim ond os allwn ni sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud wedyn yng Nghymru yn llesol ac yn unol â'n polisïau.'
Felly, nid wyf yn cael cynllun, dim ond ryw blanhigion, beth bynnag, dros y lle; a hefyd, nid wyf yn cael cynllun sy'n golygu nad yw'r bobl sy'n ei wrthbwyso yn gwneud unrhyw beth am leihau eu carbon, mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid i hyn fod yn gynllun o'r dewis olaf, lle mae'r gweithredwyr eisoes wedi gwneud popeth y gallant ei wneud, a lle rydyn ni'n rheoli—ochr yn ochr â'n rheolwyr tir a'n ffermwyr ac yn y blaen—sut mae'r arian hwnnw'n cael ei ddenu i mewn a'r hyn y mae'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Mae honno'n llinell goch, yn sicr iawn, i ni. Felly, mae honno'n drafodaeth yr ydyn ni'n ei chael ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU a gyda nifer o weithredwyr.
Ond buaswn i'n hoffi cael fy nwylo ar yr arian yna, dyna'r gwir amdani, felly, mae'n bwysig i ni; allwn ni ddim gwneud hyn gyda dim ond arian cyhoeddus yn unig. Felly, mae yna bot o arian yna, felly rydym ni'n gweithio'n galed iawn i drio gwneud hynny. Ond hefyd, mae gennym grŵp cyfan o bobl yn gweithio ar gyllid arloesol, gan ddefnyddio cyllid cyhoeddus i'w ysgogi, gan helpu ffermwyr i ysgogi arian iddyn nhw eu hunain, ac ati. Felly, mae honno'n sgwrs hollol newydd. Mae'r Llywydd yn mynd i wneud i mi ddod yn ôl rhyw dro arall i wneud hynny, felly does gen i ddim amser ar hyn o bryd.
Ni fyddai'n ddatganiad bioamrywiaeth pe na bawn i'n sôn am y wiwerod coch bach fflwffog, hyfryd yr wyf yn hyrwyddwr rhywogaethau ar eu cyfer. Fel mae'n digwydd, 10 i 16 Hydref yw Wythnos Ymwybyddiaeth Gwiwerod Coch, a hoffwn ddweud 'diolch' i Lywodraeth Cymru am y ffaith eich bod wedi gwrando ar bryderon y Red Squirrel Survival Trust, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, ac eraill a gododd y pryderon hynny ynghylch prosesau'r drwydded torri coed. Rwy'n gallu gweld bod gwelliannau yn mynd i gael eu gwneud nawr i'r gyfraith drwy Fil Amaethyddiaeth (Cymru), ac mae hynny'n beth gwych. Felly, rwyf eisiau cofnodi fy niolch i Lywodraeth Cymru am wneud y newidiadau deddfwriaethol hynny pan fydd gennym Ddeddf o'n blaenau yn y pen draw.
Ond un achos o bryder sydd gen i yn eich datganiad heddiw oedd y sôn am gysylltedd gwahanol ardaloedd bioamrywiaeth, ac nid oherwydd nad ydw i'n deall risgiau ynyseiddio, os mynnwch chi, ar gyfer rhywogaethau, ond o ganlyniad i'r ffaith bod gennym ni ynyseiddio y mae gennym ni boblogaeth o wiwerod coch yng Nghymru o hyd. Felly, weithiau mae rhai manteision o ynyseiddio y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt. A allwch chi fy sicrhau, Gweinidog, pan ddaw hi at y wiwer goch fel rhywogaeth, sydd mewn perygl yma yng Nghymru, y byddwch yn ystyried risgiau cysylltedd sy'n eu cysylltu â'u gelyn gwaethaf, y wiwer lwyd?
Diolch, Darren. Roeddwn i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu gwrando ar hynny ac edrych ar y ffordd mae'r trwyddedau coedwigaeth yn cael eu caniatáu, felly rwy'n gobeithio'n fawr y caiff ei gyflwyno cyn gynted a phosibl, fy hun, hefyd.
O ran cysylltedd, dyma oedd testun trafodaeth hir yn yr archwiliad dwfn, oherwydd, rydych chi'n hollol iawn, i rai rhywogaethau gwarchodedig, ar gyfer rhywogaethau sydd mewn perygl neu ba bynnag rywogaethau eiconig, mae cael eu cysylltu â'u gelyn gwaethaf yn broblem wirioneddol. Ond i'r rhan fwyaf o rywogaethau, mae bod â chysylltedd yn bwysig, oherwydd fel arall ni allwch chi gymysgu cronfeydd genynnau ac yn y blaen. Fodd bynnag, mae'n broblem fawr i rywogaethau ymledol hefyd. Mae'r wiwer lwyd, mewn gwirionedd, yn rhywogaeth ymledol, fel y gwyddoch chi, ac mewn gwirionedd mae'n broblem wirioneddol o ran planhigion sy'n rywogaethau ymledol. Felly, mae casbeth fi a Mike, canclwm Japan, yn hapus i deithio i lawr ein hafonydd ac ati. Felly, bu trafodaeth hir am sut y byddem yn llunio cysylltedd mewn ffordd a oedd yn ystyried y mathau hyn o rywogaethau ymledol a sut y gallem ni gyfyngu arnynt, felly rwy'n gwbl hapus i roi sicrwydd i chi ar y pwynt hwnnw.
Rwy'n croesawu eich datganiad, Gweinidog, ac yn enwedig y prif ymrwymiad i adfer mawndir triphlyg. Mae'n wych. Ar gyfer y cofnod, rwy'n aelod o'r RSPB ers talwm, felly rwy'n arbennig o falch am beth mae hynny'n mynd i'w olygu i rywogaethau sy'n nythu ar y ddaear fel y grugiar a'r grugiar ddu a'r bod tinwen, pe baen nhw'n goroesi. Ond yn ogystal â bod yn gynefin unigryw, mae mawndiroedd yn hanfodol i'n cyflenwad dŵr yfed, ac mae 70 y cant o ddŵr yfed y DU yn dod o ucheldiroedd mawnog, sy'n atal llifogydd ac yn atal tanau gwyllt hefyd. Fel plannu coed, mae adfer mawndir yn allweddol i ddal a storio carbon, felly mae llawer o ganlyniadau da yma o ran ein hinsawdd ehangach.
Un o argymhellion hyn, ac mae newydd gael ei drafod, yw'r cysylltedd hwnnw, felly rwyf eisiau gofyn i chi, Gweinidog, a ydym yn edrych ar holl gyfleoedd y cysylltedd hwnnw, gan gynnwys yr ymylon ar hyd ein traffyrdd ac ardaloedd eraill, fel y gallwn greu'r coridorau hynny. Rwy'n gwybod bod llawer o hynny'n cael ei gyflawni yn lleol iawn, ond ni ellir tanbwysleisio pwysigrwydd y cysylltedd hwnnw i'n peillwyr.
Yn bendant, Joyce. Felly, ar y rhaglen Mawndir, roeddwn i'n falch iawn o allu cyhoeddi, ochr yn ochr â Lesley, gyflymiad prosiect adfer y mawndir. Mae'r prosiectau yr wyf wedi ymweld â nhw eisoes yng Nghymru wedi bod yn galonogol, mewn gwirionedd, yn anhygoel o ran ymroddiad y bobl sy'n eu gwneud ac mewn gwirionedd wrth drawsnewid y tirlun. Felly, roeddwn i wrth fy modd i wneud hynny.
Rwy'n bwriadu lobïo Gweinidog newydd Llywodraeth y DU—dydw i ddim wedi cael cyfle i gwrdd eto, ond rwy'n credu fy mod i'n iawn i ddweud fy mod yn ei gwrdd ar 24 Hydref. Hoffwn weld mawn yn cael ei wahardd ar gyfer defnyddio mewn unrhyw leoliad domestig. Nid oes gennym ni'r pŵer i wneud hynny, ac mae'n un o'r pethau yr wyf yn bryderus iawn amdano ac rwy'n mynd i fod yn cael sgwrs gyda sawl Gweinidog y DU amdano. Rwy'n credu bod yna broblem labelu mawr. Felly, rwy'n siŵr eich bod chi'n arddwr brwd, Joyce, ac rydw i hefyd, ond mae'n anodd iawn gwneud yn siŵr nad yw'r planhigyn yr ydych chi'n ei brynu o'r ganolfan arddio neu dyfwr mewn mawn. Mewn gwirionedd, hyd yn oed os gofynnwch chi, fyddan nhw ddim yn dweud wrthych chi'n aml, ac rwy'n credu y dylai fod yn rhaid iddyn nhw ddweud wrthych chi mai dyna beth yw'r cyfrwng tyfu. Felly hoffwn weld Llywodraeth y DU yn newid y gofynion labelu ar gyfer cynhyrchion fel mawn.
Fe fydd amgylchiadau lle bydd cymuned leol, am resymau treftadaeth ac yn y blaen, yn dal i dorri mawn, ond, ar y cyfan, dylid atal torri mawn masnachol. Felly, rwyf am lobïo Llywodraeth y DU yn drwm iawn ar hynny, ond yn y cyfamser, rwy'n hapus iawn ein bod ni'n adfer ein mawndiroedd ein hunain mor gyflym ag y gallwn ni, ac mae hyn yn newid sylweddol.
Wrth gwrs, y rheswm ein bod ni'n gallu ei gyfiawnhau, ar wahân i'r ffaith mai dyma'r peth iawn i'w wneud, yw oherwydd, mewn gwirionedd, os na wnawn ni hyn, ni fyddwn yn cyrraedd sero net erbyn 2050, oherwydd y secwestriad carbon a ddaw yn sgil y mawndiroedd, yn ogystal â'r holl fuddion natur y gwnaethoch chi eu crybwyll, Joyce. Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu gwneud hyn, rhyngom ni. Fel rwy'n dweud, dyma'r peth iawn i'w wneud, a dyma ddechrau ei wneud yn fwy, yn well ac yn gyflymach, mewn gwirionedd.
Yna, ar y cysylltedd, gweithiodd Carolyn gyda ni i siarad gydag awdurdodau lleol am beidio â thorri glaswellt, Mai Di-dor, a'r math yna o beth. Un peth sy'n fy nharo i, mae'n rhaid i mi ddweud—rwy'n ystyried o ddifrif am wneud hyn, rwy'n meddwl tybed a ddylwn ni ganfasio barn—yw fy mod yn dymuno i'r rhaglenni garddio hyn ar y teledu, yr wyf yn ofnadwy o gaeth iddynt, ddangos ychydig mwy o erddi blêr gyda phentyrrau o bren, ac nid glaswellt wedi'i dorri'n fyr a dec. [Torri ar draws.] Wel, ie, oherwydd mae'n debyg bod eich un chi'n llawn infertebratau. Rwy'n cael ffrae fawr yn fy mhentref i drwy'r amser. Mae fy ngardd i mor flêr ag sy'n bosib bod—pwy feddylia bod bod hynny'n mynd i fod yn ffasiynol, ond beth bynnag—ond mae fy ngardd i'n llawn pryfed. Mae'n llawn o bryfed oherwydd mae ganddyn nhw lefydd i fynd a phethau i'w bwyta ac ati. Ac o ganlyniad mae hefyd yn llawn adar, oherwydd mae ganddyn nhw bethau i'w bwyta. Mae gen i gymdogion y mae eu lawntiau'n cael eu torri gyda siswrn ewinedd bob bore Mawrth a does ganddyn nhw ddim bywyd gwyllt yn eu gardd o gwbl.
Rwy'n credu bod yr obsesiwn yma gyda taclusrwydd yn gorfod cael ei ddileu. Mae hynny'n wir am ein hawdurdodau lleol a'n gwrychoedd a'n hymylon. Fe wnes i ysgrifennu at y weinyddiaeth sydd i ddod yn Nhrefynwy yn ddiweddar i ddweud fy mod i'n siŵr nad oedden nhw wedi ei wneud yn arbennig ar gyfer Gweinidog yn ymweld ond roeddwn i ar y pryd yn dilyn torrwr gwrychoedd i lawr y ffordd, a oedd yn torri pob un pen hadau yr hyd yr holl ffordd. Nid oeddwn yn hapus iawn â hyn fel polisi, a danfonais lun i fynd gydag ef. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n eu hargyhoeddi nhw i ddweud, 'Pam ydych chi'n gwneud hyn? Peidiwch â gwneud hyn.'
Mae rhai llefydd lle, am resymau diogelwch priffyrdd, mae angen torri rhai o'r gwrychoedd yn ôl. Ond, mewn gwirionedd, fe wyddoch chi, cystal ag yr wyf i, pob un ohonoch chi, bod gyrru i lawr un o'r lonydd hynny gyda'r canopi harddaf uwchben yn ogoneddus, on'd yw e? Rydych chi'n cael pob math o fywyd gwyllt a phlanhigion a blodau i lawr yno nad ydych yn eu gweld yn unman arall. Felly, mae ceisio newid barn ein hawdurdodau cyhoeddus, ac, a dweud y gwir, barn ein garddwyr hirsefydlog, ar yr hyn sy'n edrych yn dda mewn gwirionedd, yn bwysig iawn. Rwy'n disgwyl i chi i gyd fynd allan yna a bod yn efengylaidd amdano, ac rwy'n bwriadu ymweld â chi i weld a yw eich gardd yn ddigon blêr.
Jenny Rathbone. Pa mor flêr yw eich gardd chi?
Rwy'n gefnogol iawn o flerwch. Fel hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer y wennol ddu, roeddwn i wrth fy modd eich bod wedi ysgrifennu at yr holl awdurdodau cynllunio i'w cyfarwyddo i sicrhau bod yna flychau ar gyfer y wennol ddu mewn adeiladau tal newydd ac nad ydym yn cau'r blychau ar gyfer y wennol ddu na'r craciau yn yr adeiladau sy'n cael eu hadfer mewn rhyw ffordd. Oes gennych chi unrhyw syniad a yw wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar ddirywiad 50 y cant o'r wennol ddu yn ystod y 15 mlynedd diwethaf? Mae'n gwbl ofnadwy, ac rydyn ni'n wynebu difodiant oni bai ein bod ni'n gwneud rhywbeth am y peth.
Yn ail, roedd gen i ddiddordeb mawr eich bod chi'n mynd i gael golwg ar ryngweithiadau gêr pysgota a llusgrwydo am gregyn bylchog, rhywbeth y mae Joyce Watson a finnau'n teimlo'n gryf iawn amdano. Pam ar y ddaear ydyn ni'n caniatáu hynny yn nyfroedd Cymru? Pan fyddwch chi'n mynd i COP 15, a fyddwch chi'n cefnogi galwad Greenpeace a wnaed y llynedd i gychod a llongau treillio mawr sy'n llusgo offer trwm ar hyd gwaelod y môr i gael eu gwahardd o bob ardal forol warchodedig sydd dros 12 milltir o'r lan? Y cwestiwn mawr i ni yw sut ddiawl y byddem yn ei orfodi.
Diolch, Jenny. Dydw i ddim yn gwybod yr ateb i flychau'r wennol ddu, ond fe wnaf ofyn nawr eich bod chi wedi gofyn cwestiwn. Fe wnaethon ni hynny, fedra i ddim cofio'n iawn, o leiaf un tymor yn ôl, felly dylen ni fod â rhywfaint o wybodaeth am yr effaith. Byddaf yn sicr yn gofyn.
Ar y gêr pysgota diwedd oes—aethoch chi i ymweld hefyd, oni wnaethoch chi, yn Abertawe, Mike—rydyn ni wedi gwneud rhai treialon, ac roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr un yn Abertawe. Mae Mike a minnau'n rhannu afon rhwng ein hetholaethau; ni allaf gofio a oedd ar eich ochr chi neu fy un i, ond beth bynnag. [Torri ar draws.] Ydy, mae'n un o'r dadleuon hynny, on'd ydy? Roedd yn brosiect diddorol iawn, ac roedd yn ymwneud, nid yn unig a allem adennill y deunydd yma o'r môr, ond sut y gallem ni ei ailgylchu a sut y gallem ni wneud ychydig o arian i'r pysgotwyr ohono yn y bôn fel ei fod o fudd iddyn nhw i beidio â gadael iddo fynd gyda'r llif i'r môr. Rydyn ni i gyd wedi gweld y lluniau ofnadwy hynny o grwbanod gyda phethau o'u cwmpas ac ati. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cyflwyno hynny. Mae gennym ni ychydig o ddata o hynny ynglŷn â'r ffordd orau i'w wneud. Dyna beth yr ydyn ni'n ei ystyried, ac roedd hynny'n cael ei gefnogi'n fawr gan yr archwiliad dwfn.
Fi yw hyrwyddwr rhywogaeth yr wystrys brodorol, fel mae'n digwydd, felly rwy'n frwd iawn dros organebau sy'n tyfu o'r gwaelod. Yr wystrys yw'r caneri yn y pwll glo mewn gwirionedd; fyddan nhw ddim yn tyfu os nad yw'r ecosystem yn dda. Rwy'n falch iawn o ddweud bod bae Abertawe wedi cael ei ailhadu, ar ôl bod yn ardal warchodedig ers peth amser. Pan oeddwn i'n blentyn, os oeddech chi'n disgyn ym mae Abertawe, roedd yn rhaid i chi gael eich stumog wedi'i bwmpio—rydw i newydd ddangos fy oedran—ac erbyn hyn mae'n draeth baner las. Rheoliadau'r UE wnaeth ysgogi hynny—rwy'n credu ein bod ni'n colli golwg ar hynny. Ni oedd dyn budr Ewrop, ac mae wedi digwydd yn ystod fy oes i. A dydw i ddim mor hen â hynny. Mae'n hyfryd gweld y gwelyau hynny wedi'u hailhadu ac yn tyfu, ac rydyn ni'n gobeithio mewn pum mlynedd y bydd modd cymryd cynnyrch oddi yno. Roedd yr wystrys yn rhan allweddol o ddeiet y dosbarth gweithiol o amgylch arfordir Cymru am flynyddoedd lawer iawn. Dim ond yn ddiweddar y daeth yn hyfrydbeth y bobl cyfoethog. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.
Ar y môr, mae Lesley a minnau'n rhannu'r cyfrifoldeb hwn. Dim ond i fod yn glir, hi yw'r gwneuthurwr penderfyniadau ar gyfer peth o hyn, ac rydyn ni'n ei rannu. Rydyn ni'n cael golwg ar yr holl sefyllfa ynghylch llusgrwydo, pysgota, sut mae hynny'n cael ei wneud. Rwy'n awyddus iawn, yn union fel rydyn ni'n dweud am y ffermwyr, i ddod â'n pysgotwyr gyda ni. Dydw i ddim eisiau iddyn nhw golli eu modd o gynnal busnes a dydw i ddim eisiau iddyn nhw beidio â gallu gwneud bywoliaeth, ond dydw i ddim ychwaith eisiau iddyn nhw ddinistrio bioamrywiaeth y môr. A dydyn nhw ddim eisiau hynny ychwaith, oherwydd maen nhw'n deall yn llwyr bod angen iddyn nhw fod â methodoleg gynaliadwy ar gyfer gwneud hyn. Felly, mae gennym weithgor, rydym newydd ei adnewyddu, rydym ni newydd ailbenodi pobl a phenodi pobl newydd iddo, Jenny. Ac un o'r pethau y byddan nhw'n gweithio arno yw'r holl fusnes yma am bysgota cynaliadwy, diwydiant pysgota cynaliadwy, sut olwg sydd ar hynny i Gymru, a sut ar y ddaear y byddem yn ei orfodi pe byddem ni'n ei wneud. Dydi Rhun ddim yn y Siambr, ond glywsoch chi ef yn mynd ymlaen, rwy'n credu mai wythnos diwethaf rhyw dro oedd hi, am y llong allan o Fangor. Mae gennym ni rai llongau o'r math hwnnw o amgylch arfordir Cymru, felly rydym yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud i ddefnyddio'r llongau hynny yn y ffordd gywir.
Diolch i'r Gweinidog. Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw. Diolch yn fawr, bawb.