Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Hydref 2022.
Wel, rwy'n falch o glywed hynny—eich bod wedi cael ymateb, yn enwedig yn ysgrifenedig, ar gynyddu'r taliad cymorth o £350 i deuluoedd yn y DU sy'n cynnig llety i ffoaduriaid o Wcráin. Gwn o’m gwaith â grwpiau lleol yn Ogwr ac ar draws ardal Pen-y-bont ar Ogwr pa mor bwysig yw hyn wedi bod a'u bod yn edrych ymlaen at barhau i gynnig llety i deuluoedd, ond hefyd eu bod yn gwthio’n eithaf caled i sicrhau bod y cymorth hwnnw’n parhau ac y gellir ei ymestyn. Ond a wnewch chi gysylltu â’r Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â chael gwared ar y cap ar fudd-daliadau a’r taliad budd-dal dau blentyn, gan gofio’r argyfwng costau byw yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd, a hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant ac yn unol â'r addewid a wnaed gan Brif Weinidog Ceidwadol diwethaf y DU?