1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 5 Hydref 2022.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU sydd newydd eu penodi ynghylch gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei blaenoriaethau cyfiawnder cymdeithasol? OQ58494
Diolch am eich cwestiwn. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref a’r Ysgrifennydd Gwladol dros ffyniant bro, gyda Gweinidog yr Alban, Neil Gray MSP, ynghylch Wcráin, ac at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynglŷn â chynyddu budd-daliadau lles, ac roeddwn yn falch o gael llythyr gan Chloe Smith AS ddoe.
Wel, rwy'n falch o glywed hynny—eich bod wedi cael ymateb, yn enwedig yn ysgrifenedig, ar gynyddu'r taliad cymorth o £350 i deuluoedd yn y DU sy'n cynnig llety i ffoaduriaid o Wcráin. Gwn o’m gwaith â grwpiau lleol yn Ogwr ac ar draws ardal Pen-y-bont ar Ogwr pa mor bwysig yw hyn wedi bod a'u bod yn edrych ymlaen at barhau i gynnig llety i deuluoedd, ond hefyd eu bod yn gwthio’n eithaf caled i sicrhau bod y cymorth hwnnw’n parhau ac y gellir ei ymestyn. Ond a wnewch chi gysylltu â’r Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â chael gwared ar y cap ar fudd-daliadau a’r taliad budd-dal dau blentyn, gan gofio’r argyfwng costau byw yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd, a hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant ac yn unol â'r addewid a wnaed gan Brif Weinidog Ceidwadol diwethaf y DU?
Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies, am y ddau bwynt gwirioneddol bwysig hynny yn fy mhortffolio i wahanol Weinidogion yn Llywodraeth y DU. Cyfarfûm â Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Neil Gray, yn gynharach heddiw, ac rydym yn deall bellach fod Gweinidog newydd dros ffoaduriaid yn yr adran ffyniant bro, felly rydym yn ysgrifennu ato heddiw i alw eto am gynnydd yn y taliad o £350, sy'n rhywbeth y galwodd y Gweinidog Ceidwadol blaenorol dros ffoaduriaid, Richard Harrington, amdano hefyd. Dywedodd y dylid ei ddyblu; fe ddywedom ni o leiaf £500, gan fod cymaint o'r teuluoedd sy'n cynnig llety'n awyddus i barhau, ac mae gennym deuluoedd newydd hefyd yn dweud eu bod yn awyddus i gynnig llety. Ond rydym hefyd yn ysgrifennu atynt ynglŷn â llawer o faterion eraill sy’n ymwneud â’r ffaith nad oes sicrwydd o ran arian ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Rydym yn dal i fod heb gael arian gan y Llywodraeth ar gyfer darpariaeth Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, nac ar gyfer gwasanaethau iechyd.
Nawr, mae’r pwynt a wnewch yn bwysig iawn, ac nid yn unig o ran cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Gadewch inni weld a yw’r Llywodraeth hon yn cadw at yr ymrwymiad hwnnw a wnaed gan Boris Johnson a Rishi Sunak y byddent yn cynyddu budd-daliadau lles yn unol â chwyddiant. Rwy'n gobeithio y byddwn yn anfon neges gref gan y Siambr hon heddiw, neges yr ydym yn disgwyl ac yn gobeithio y bydd ein cyd-Aelodau Ceidwadol yn ei chefnogi. Roedd clywed Iain Duncan Smith yn dweud ddoe, ‘Wel, yn amlwg, mae’n gwneud synnwyr, onid yw, oherwydd maent yn gwario arian yn eu cymunedau’, yn eithaf diddorol.
Ond mae'n rhaid imi ddweud, rydym hefyd wedi ysgrifennu—rwyf fi wedi ysgrifennu, gyda Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol yr Alban a Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon—ynglŷn â'r mater pwysig o gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau, sy'n amharu ar gymaint o bobl o ran eu costau byw, a hefyd y terfyn dau blentyn, gan ddweud y dylem godi lefel credyd cynhwysol y DU £25 yr wythnos, nid yr £20 a gollwyd o'r blaen. Felly, mae llawer i ni ei wneud ar fwrw ymlaen â hyn gyda Llywodraeth y DU.
Fel y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, chi sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod sefydliadau sy’n gweithio yn ein cymunedau gyda’r heddlu fel rhan o’n partneriaethau diogelwch cymunedol yn gwbl hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r pryderon sydd bwysicaf i bobl. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu ynglŷn ag effeithiolrwydd y partneriaethau hynny a phwysigrwydd canolbwyntio ar y pryderon hynny lle gallant gael yr effaith fwyaf? Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Altaf Hussain. Rwy’n amlwg yn gweithio’n agos iawn gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid ar Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru. Wrth gwrs, mae plismona'n fater a gedwir yn ôl; nid yw wedi’i ddatganoli eto—dyna yr hoffem ei weld. Ac rydym yn gweithio’n agos iawn ar faterion sy'n ymwneud â chydlyniant cymunedol. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i edrych ar y materion a fydd yn codi yfory, wrth inni glywed am ystadegau troseddau casineb, ac mae angen inni fwrw ymlaen â’n hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru. Mae hyn ym ymwneud ag ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid imi ddweud, rwyf fi wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn â llythyr agored yr Ysgrifennydd Cartref at arweinwyr heddlu Cymru a Lloegr, sy'n dweud,
'mae canfyddiad fod yr heddlu wedi gorfod treulio gormod o amser ar weithredoedd symbolaidd, yn hytrach nag ymladd troseddwyr. Mae'n rhaid i hyn newid. Ni ddylid blaenoriaethu cynlluniau amrywiaeth a chynhwysiant dros blismona synnwyr cyffredin.'
Rwy’n casáu’r ensyniad hwnnw, oherwydd mewn gwirionedd, mae ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol a’n gwaith gyda phobl anabl a mynd i’r afael â throseddau casineb yn ymwneud yn llwyr â chydlyniant cymunedol.