Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 5 Hydref 2022.
Fel y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, chi sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod sefydliadau sy’n gweithio yn ein cymunedau gyda’r heddlu fel rhan o’n partneriaethau diogelwch cymunedol yn gwbl hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r pryderon sydd bwysicaf i bobl. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu ynglŷn ag effeithiolrwydd y partneriaethau hynny a phwysigrwydd canolbwyntio ar y pryderon hynny lle gallant gael yr effaith fwyaf? Diolch.