Tlodi

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 1:38, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

A fyddai'r Gweinidog yn cytuno mai canlyniadau yw’r hyn sy’n bwysig, a Chymru, yn anffodus, sydd â’r cyfraddau tlodi plant gwaethaf o holl wledydd y DU? I ychwanegu at y darlun hwn, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o adroddiad diweddar gan Brifysgol Loughborough, a ddangosodd fod tlodi plant yng Nghymru wedi codi 5 y cant rhwng 2019-20 a 2020-21. Ar y llaw arall, mae’r lefel ar gyfer y DU gyfan wedi gostwng 4 y cant. Felly, pam fod y Llywodraeth Lafur Cymru hon yn parhau i fethu mor druenus mewn perthynas â threchu tlodi plant?