Tlodi

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:39, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, fe wyddoch yn iawn mai’r ysgogiadau allweddol ar gyfer trechu tlodi yw pwerau dros y system dreth a lles, a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. [Torri ar draws.] A gaf fi atgoffa’r Aelod fod tlodi plant wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur—flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur—diolch i ymyrraeth Gordon Brown? Yn ddiddorol, fe soniodd am gredydau treth—. Fe gyflwynodd gredydau treth. Nawr, mae Joe Biden—[Torri ar draws.] A gaf fi siarad, os gwelwch yn dda?