Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 5 Hydref 2022.
Mae’n ddrwg gennyf, rwy'n mynd i orfod ymyrryd, Mark Isherwood. Nid eich problem chi yw hyn; y broblem yw ei bod hi'n ymddangos ein bod yn cael rhyw fath o ddadl barhaus rhwng meinciau cefn Llafur a meinciau’r Torïaid ar hyn o bryd. Gallwn fod yn fwy penodol ac enwi unigolion, ond rwyf am gadw pethau'n gyffredinol am y tro. Ond os ydych chi'n dal ati, rwy'n mynd i ddechrau eich enwi; rydych yn gwybod pwy ydych chi. Mark Isherwood.