1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Hydref 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Mae cyfrifoldebau Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cynnwys y cyflog byw yng Nghymru. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gysoni cyflogau staff gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG, buddsoddiad o £9 miliwn yn unig. Sut, felly, rydych yn ymateb i’r cyfarwyddwr cartrefi gofal yng ngogledd Cymru sydd wedi gofyn imi ofyn cwestiwn yn y Senedd ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod holl weithwyr gofal cymdeithasol Cymru yn cael y cyflog byw gwirioneddol, pan fo'r Living Wage Foundation yn disgwyl y dylid talu’r cynnydd a gyhoeddwyd ar 22 Medi i weithwyr cyn gynted â phosibl ar ôl y cyhoeddiad? Ychwanegodd,
'Nid yw Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid ar gael i ddarparwyr drwy eu hawdurdodau lleol i’w galluogi i dalu’r cynnydd hwn, ac yn syml iawn, mae llawer o’n gweithwyr ymroddedig heb ddigon o arian i dalu eu biliau ynni cynyddol. Rydym eisoes yn gweld llu o weithwyr gofal yn gadael y sector. Rwy'n ofni y bydd rhagor yn gadael oni bai bod darparwyr yn gallu cynyddu eu cyflogau yn unol â disgwyliadau'r Living Wage Foundation. Yn syml, ni allwn fforddio colli rhagor.'
Felly, byddwn yn ddiolchgar am eich ymateb i'w gwestiwn, sy'n ymwneud yn benodol â staff gofal cymdeithasol.
Wrth gwrs, Llywodraeth Lafur Cymru, yn ei maniffesto, ac yna drwy’r rhaglen lywodraethu, ac o fewn ei blwyddyn gyntaf, a gyflwynodd y cyflog byw gwirioneddol i’n gweithlu gofal cymdeithasol. Cyflog byw gwirioneddol. Hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, yn ychwanegol at y cyflog byw, mae cyllid wedi'i ddarparu i'n gweithlu gofal cymdeithasol, fel y gwyddoch, ac yn wir, nid yn unig yn y flwyddyn ddiwethaf, ond yn ystod cyfnod y pandemig, gan ein bod yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad y gweithlu gofal cymdeithasol ar y rheng flaen. Felly, rydym ni fel Llywodraeth wedi gwneud popeth a allwn i gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol. Ond hefyd, yn amlwg, rydym yn cefnogi'r cyflog byw gwirioneddol, a fy Nirprwy Weinidog, Hannah Blythyn sy'n bwrw ymlaen â hyn yn benodol drwy ei chyfrifoldebau am y cyflog byw gwirioneddol.
Ond mae hefyd yn amlwg yn fater i’r Llywodraeth. Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n agos gyda’r sefydliad gofal cymdeithasol, ac yn gweithio gyda’r holl gyflogwyr, ac yn wir, yr awdurdodau lleol mewn perthynas â chyflogaeth gweithwyr gofal cymdeithasol. Felly, rydym yn chwarae ein rhan. Ond mae'n rhaid imi ddweud, Mark Isherwood, beth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud? Oherwydd, mewn gwirionedd, mae ein cyllideb eleni £600 miliwn yn llai, a bydd £1.4 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf. O ble y daw’r arian hwnnw, gan mai dyma y dymunwn ei wneud ar gyfiawnder cymdeithasol, ond mae arnom angen cymorth gan eich Llywodraeth chi?
Nid ydych wedi ateb fy nghwestiwn, sef pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gael—
Mae’n ddrwg gennyf, rwy'n mynd i orfod ymyrryd, Mark Isherwood. Nid eich problem chi yw hyn; y broblem yw ei bod hi'n ymddangos ein bod yn cael rhyw fath o ddadl barhaus rhwng meinciau cefn Llafur a meinciau’r Torïaid ar hyn o bryd. Gallwn fod yn fwy penodol ac enwi unigolion, ond rwyf am gadw pethau'n gyffredinol am y tro. Ond os ydych chi'n dal ati, rwy'n mynd i ddechrau eich enwi; rydych yn gwybod pwy ydych chi. Mark Isherwood.
Diolch. Yn fy absenoldeb, ni allaf glywed hynny, ond diolch am yr ymyriad. Y cwestiwn yw: pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i’r awdurdodau lleol i’w galluogi i dalu’r cynnydd hwn? Roedd y cwestiwn ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Ond i symud ymlaen, fe wnaethoch ddefnyddio'r gair 'cywilyddus' yn gynharach. Felly, yn gywilyddus, mae tlodi plant yng Nghymru wedi bod yn codi ers 2004, pan godais hyn gyntaf gyda Llywodraeth Cymru. Roedd eisoes wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU cyn y wasgfa gredyd yn 2008, y flwyddyn y cododd i 32 y cant yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf bellach yn dangos bod 34 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi, tra bo ffigur y DU wedi gostwng i 27 y cant. Y prif reswm am hyn o hyd yw mai yng Nghymru y bu'r twf lleiaf yn lefelau ffyniant y pen gwledydd y DU ers 1999; gyda 5 y cant o boblogaeth y DU, 3 y cant yn unig o gyfoeth y DU y mae Cymru'n ei gynhyrchu; yng Nghymru y mae’r cyfraddau cyflogaeth isaf ym Mhrydain; a phecynnau cyflog Cymru yw'r rhai lleiaf yn y DU, a hyn oll er gwaethaf derbyn biliynau mewn cyllid, a oedd i fod yn gyllid dros dro, ac a gynlluniwyd i gefnogi datblygiad economaidd a lleihau anghydraddoldeb rhwng gwledydd a rhanbarthau.
Fel y dywedais yma yn 2009, mae’n drasiedi genedlaethol fod mwy o blant yn disgyn i dlodi yng Nghymru ac yr ymddengys bod polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hynny wedi methu. Ar ôl 13 mlynedd arall, pa gamau, os o gwbl, y byddwch yn eu cymryd gyda’ch cyd-Aelodau o'r Cabinet i ddysgu o’r profiad hwn, newid eich dull gweithredu, a chyflwyno cynllun twf gyda’r sector busnes a’r trydydd sector a’n cymunedau i adeiladu economi fwy llewyrchus yng Nghymru o’r diwedd?
Nid wyf yn gwybod a glywsoch chi fy ymatebion i gwestiynau cynharach, Mark Isherwood. Fe ddywedais, ac rwyf am ailadrodd, fod lefelau tlodi plant wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur, a'u bod wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y 12 mlynedd diwethaf o dan y Llywodraeth glymblaid a Llywodraethau Torïaidd, o ganlyniad i bolisïau uniongyrchol a bwriadol. A glywsoch chi Gordon Brown y bore yma pan ddywedodd ei fod wedi cael ei brofi’n economaidd na allwch gael cynllun twf—sef yr hyn yr ydych chi'n ceisio’i ddweud—sy'n seiliedig ar doriadau treth a gwneud i'r tlawd dalu er lles y cyfoethog? Oherwydd dyma sy’n digwydd o ganlyniad i’r gyllideb fach hon. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi ddylanwadu ar eich Llywodraeth i sicrhau bod yr ysgogiadau allweddol sydd ganddynt ar gyfer trechu tlodi plant yn cael eu defnyddio?
Ni chredaf eich bod yn gwrando ar fy ffigurau yn gynharach, a oedd yn gywir, ac a roddais i chi 18 mlynedd yn ôl mewn gwirionedd. Gostyngodd tlodi plant yng Nghymru am rai blynyddoedd o dan Lywodraeth Blair-Brown, ond wedyn dechreuodd godi eto, ac roedd wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU, nid y llynedd ond yn 2008. Ac mae wedi codi eto, gan fynd am yn ôl o gymharu â gweddill y DU. Dyna’r realiti, ac roedd y canlyniad y cyfeiriais ato yn ganlyniad i bolisïau Llywodraeth Cymru. Felly, beth y bwriadwch chi wneud am y peth? Rydych wedi cael 23 mlynedd, mae'r llyfr cadw sgôr yn ofnadwy, ac mae'r effaith ar fywydau pobl yn erchyll.
Ond i symud ymlaen, mae adroddiad 'Left behind?' yr Ymddiriedolaeth Leol yn Lloegr yn dangos bod gan yr ardaloedd tlotach sydd â mwy o gapasiti cymunedol a seilwaith cymdeithasol ganlyniadau iechyd a llesiant gwell, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd tlotach heb y capasiti hwnnw. Ym mis Ionawr, fe wnaeth papur trafod Canolfan Cydweithredol Cymru gan Cymunedau'n Creu Cartrefi ddatgan bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill yn y DU mewn perthynas â hawliau perchnogaeth gymunedol, gan ychwanegu nad yw polisïau yng Nghymru'n grymuso cymunedau i'r un graddau â chymunedau yn Lloegr, neu yn yr Alban yn enwedig.
Canfu adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig, 'Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir' ym mis Chwefror mai cymunedau Cymru sydd wedi’u grymuso leiaf ym Mhrydain. Dywedodd grwpiau cymunedol yng Nghymru wrthynt am senario fympwyol, dorcalonnus, heb fawr ddim proses wirioneddol i gymunedau gael perchnogaeth dros asedau cyhoeddus neu breifat.
Mae ymchwil pellach gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru yn dangos eu bod yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u tanariannu gan lywodraeth leol a chenedlaethol. Sut, felly, yr ymatebwch i'w datganiadau eu bod yn credu bod cyfle da i Lywodraeth Cymru ddatblygu gwell cymorth ar gyfer dulliau gweithredu lleol, hirdymor, a arweinir gan y gymuned yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Cyn imi ateb y cwestiwn hwnnw, hoffwn ddweud, o ran y rhaglenni trechu tlodi plant, fod cyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd—fel rhan o’n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, gan weithio gyda llywodraeth leol—yn golygu bod yr ymrwymiad i bob disgybl ysgol gynradd gael pryd ysgol am ddim erbyn 2024 eisoes wedi golygu, ers dechrau’r tymor hwn, fod 45,000 o ddisgyblion ychwanegol yn dod yn gymwys ar unwaith i gael pryd am ddim, a hefyd i gael brecwast ysgol am ddim, sy’n rhywbeth na wnaethoch chi gytuno iddo. Rydym yn bwydo ein disgyblion o ganlyniad i'n mentrau yma yng Nghymru.
Ond rwyf am ateb eich trydydd pwynt, oherwydd mewn gwirionedd, cefais gyfarfod defnyddiol iawn yr wythnos diwethaf gyda Mabon ap Gwynfor a'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau. Gofynnodd am gyfarfod yn dilyn dadl ddefnyddiol iawn, y gwnaeth pob un ohonoch gyfrannu ati ar draws y Siambr, i drafod polisi cymunedol, i drafod cyrhaeddiad ein hasedau cymunedol. Gallwch gymryd rhan yn hynny gan eich bod yn cefnogi cydgynhyrchu, Mark Isherwood.
Llefarydd Plaid Cymru nawr. Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ddoe, pan ofynnwyd iddo gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ynglŷn â chyflwyno mesurau fel y rheini a roddwyd ar waith yr wythnos hon gan Lywodraeth yr SNP yn yr Alban i amddiffyn eu pobl rhag digartrefedd y gaeaf hwn, megis rhewi rhenti dros dro yn y sector preifat a gwaharddiad ar droi allan, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn credu y byddai rhoi'r mesurau hynny ar waith yma yng Nghymru yn gweithio. Felly, beth fydd yn gweithio, Weinidog? Mae Shelter yn yr Alban wedi croesawu’r mesurau, gan ddweud ei fod yn newyddion gwych i denantiaid, ac y bydd yn atal pobl rhag colli eu cartrefi. Ond yn gwbl briodol, maent am i'r amddiffyniadau fynd hyd yn oed ymhellach, fel bod y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fynd yn ddigartref yn cael eu hamddiffyn yn llawn rhag codiadau rhent a chael eu troi allan, ac fel y gellir dod â'r argyfwng tai i ben yn barhaol y tu hwnt i'r argyfwng costau byw hwn.
Mae meiri Llafur hefyd wedi galw am atebion brys i wrthsefyll yr argyfwng costau byw ac i drechu tlodi, megis rhewi rhenti preifat. Dywedodd Lisa Nandy, Ysgrifennydd yr wrthblaid dros ffyniant bro a thai, fod ganddi ddiddordeb ynddynt, gan ddweud nad yw gwneud dim yn opsiwn. Mae'n rhaid archwilio'r rhain, ac yn wir, eu rhoi ar waith ar unwaith. A wnewch chi ymrwymo heddiw felly i gomisiynu gwaith ymchwil brys a gwerthusiad o fewn yr wythnosau nesaf i ganfod y ffordd orau o atal bygythiad cynyddol digartrefedd, sy’n gysgod dros ormod lawer o deuluoedd yng Nghymru y gaeaf hwn oherwydd yr argyfwng costau byw? A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, nad yw gwneud dim yn opsiwn, a’i bod yn bosibl, ac mewn gwirionedd yn hanfodol gweithredu’n gyflym mewn argyfwng? Mae hon yn wers yr ydym wedi'i dysgu o'r pandemig. Dyna mae Llywodraeth yr Alban wedi’i wneud. Weinidog, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud?
Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Wrth gwrs, atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn hwn gan eich arweinydd ddoe, a gwnaeth sylwadau ar Fil Costau Byw (Amddiffyn Tenantiaid) (Yr Alban) Llywodraeth yr Alban, sydd gerbron Senedd yr Alban. A hefyd, roedd yn cydnabod, yn ei ymateb i hynny, yn enwedig mewn perthynas ag amddiffyn tenantiaid cymdeithasol yng Nghymru, er enghraifft, dros y gaeaf rhag codiadau rhent, fod rhenti cymdeithasol yn cael eu gosod yn flynyddol, gyda'r newid nesaf mewn rhenti cymdeithasol ddim tan fis Ebrill 2023. Credaf mai’r peth allweddol yw y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd wrth gwrs, yn gyfrifol am dai, yn ystyried tystiolaeth ac opsiynau ar gyfer rhenti cymdeithasol yn y dyfodol dros yr wythnosau nesaf i'n cyfeirio mewn perthynas â phenderfyniadau yn y dyfodol.
Bûm mewn digwyddiad costau byw y bore yma a drefnwyd gan Hafod yn fy etholaeth. Roeddent yn cynnig cymorth a chyngor ariannol i bob un o’u tenantiaid sy’n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd yng Nghymru gyda’r argyfwng costau byw. Yr hyn a wnaent oedd sicrhau eu bod yn gwybod am gynllun cymorth tanwydd y gaeaf, y £200 y gall pobl ei gael yn eu cyfrifon banc i'w cefnogi yn awr, sicrhau eu bod yn gwybod am gyhoeddiadau a wnaethom fel Llywodraeth Cymru nid yn unig ynghylch cynyddu incwm ond y canolfannau cynnes, a hefyd fy nghyhoeddiad ddoe. Credaf y byddwch wedi gweld fy natganiad ysgrifenedig ar fwy o gyllid ar gyfer trechu tlodi bwyd a sicrhau bod plant a rhieni'n gwybod am y talebau Cychwyn Iach. Felly, mae yna lawer o gymorth, ac mae ar gael i bob cenhedlaeth i sicrhau hefyd fod pobl hŷn yn ymwybodol o gredyd pensiwn a’u hawliau.
A gaf fi ddweud ein bod wedi ymrwymo i gefnogi tenantiaid ar yr adeg anodd hon, a'u cynorthwyo i aros yn eu cartrefi? Rydym wedi buddsoddi £6 miliwn yn ychwanegol drwy ein grant atal digartrefedd, ond rydym yn adolygu dull gweithredu Llywodraeth yr Alban gyda diddordeb. Ond yn amlwg, hefyd, fel rydym yn ei drafod yn aml gyda’n swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, ceir gwahanol ffyrdd o gyflawni’r un amcan.
Diolch. Edrychaf ymlaen at weld canlyniad y gwerthusiad hwnnw. Clywsom hefyd y Prif Weinidog, yn gwbl briodol, yn condemnio dymuniad Prif Weinidog y DU i beidio â chynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, budd-daliadau pobl nad oes ganddynt y nesaf peth i ddim i fyw arno yn barod. Maent yn wynebu gaeaf brawychus. Ac fel y gwyddoch, Weinidog, mae’r Alban yn gallu amddiffyn eu dinasyddion mwyaf agored i niwed yn well rhag agwedd ddideimlad a chywilyddus Llywodraeth San Steffan, gan fod ganddynt fwy o bwerau dros weinyddu budd-daliadau lles. Mae’r cyllid pellach yr ydych newydd gyfeirio ato ac a gyhoeddwyd gennych yr wythnos hon i helpu sefydliadau fel banciau bwyd i’w groesawu wrth gwrs, er ei bod yn warthus fod pobl yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn ei chael hi'n anodd fforddio bwyd.
Rydych wedi cyhoeddi cynlluniau eraill y cyfeirioch chi atynt yn awr, megis y cynllun cymorth tanwydd, i geisio lleihau effaith y lefelau digynsail hyn o angen ymhlith teuluoedd Cymru. Ond rydym wedi clywed droeon gan ymgyrchwyr gwrthdlodi a sefydliadau cymorth fod angen un system symlach ac awtomatig i sicrhau bod y cymorth hwn yn cyrraedd y rhai sydd ei angen. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi gwybod i ni, os gwelwch yn dda, a oes gwaith yn mynd rhagddo ar hyn, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni hefyd am yr ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatganoli gweinyddu lles?
Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Mae’r rhain yn faterion hollbwysig o ran rhoi'r arian ym mhocedi pobl ac yn eu cyfrifon. Fe wyddoch ein bod yn datblygu ac yn gweithio gyda sefydliadau fel Sefydliad Bevan ar siarter fudd-daliadau i Gymru, a hefyd yn gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod budd-daliadau'n cael eu pasbortio—fod budd-daliadau'n cael eu symleiddio.
Yfory, byddaf yn cyfarfod â holl arweinwyr llywodraeth leol. Mae gennym eitem ar gostau byw ar yr agenda. Maent yn rhannu, nid yn unig gyda mi, ond gyda'i gilydd, y ffyrdd y maent yn darparu'r arian. Wrth siarad ag arweinydd Rhondda Cynon Taf yr wythnos diwethaf, dywedodd wrthyf am y miloedd o bunnoedd sydd eisoes wedi'i ddarparu o ganlyniad i'r ffaith eu bod yn ymwybodol iawn o bwy sydd angen yr arian a sut y gallant eu cyrraedd. Felly, mae’r holl waith hwnnw’n hollbwysig ar gyfer y sefyllfa sydd ohoni.
Ond rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o edrych ar ddatganoli gweinyddu budd-daliadau. Cyfarfûm â Gweinidog Llywodraeth yr Alban i ddysgu gan Social Security Scotland ynglŷn â'r ffyrdd, gobeithio, y gallwn rannu. Hefyd, mae ganddynt gryn ddiddordeb yn yr hyn a wnawn gyda'n cronfa gynghori sengl. Felly, roedd yn drafodaeth ddwy ffordd. Ond hefyd, dysgu oddi wrthynt ynghylch cymryd y camau nesaf, oherwydd yn amlwg, rydym yn datblygu ystod gyfan o fudd-daliadau a chyflog cymdeithasol a gwasanaethau cymorth—gwasanaethau sylfaenol—i bobl, sy'n rhan o'n hymateb nawdd cymdeithasol a lles. Ond gadewch inni gydnabod, fel y dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos hon, os yw hyn yn digwydd—os nad ydym yn cael cynnydd sy'n unol â chwyddiant, os yw'n unol ag enillion—dyma fyddai'r toriad mwyaf erioed mewn termau real i fudd-daliadau.