Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ddoe, pan ofynnwyd iddo gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ynglŷn â chyflwyno mesurau fel y rheini a roddwyd ar waith yr wythnos hon gan Lywodraeth yr SNP yn yr Alban i amddiffyn eu pobl rhag digartrefedd y gaeaf hwn, megis rhewi rhenti dros dro yn y sector preifat a gwaharddiad ar droi allan, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn credu y byddai rhoi'r mesurau hynny ar waith yma yng Nghymru yn gweithio. Felly, beth fydd yn gweithio, Weinidog? Mae Shelter yn yr Alban wedi croesawu’r mesurau, gan ddweud ei fod yn newyddion gwych i denantiaid, ac y bydd yn atal pobl rhag colli eu cartrefi. Ond yn gwbl briodol, maent am i'r amddiffyniadau fynd hyd yn oed ymhellach, fel bod y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fynd yn ddigartref yn cael eu hamddiffyn yn llawn rhag codiadau rhent a chael eu troi allan, ac fel y gellir dod â'r argyfwng tai i ben yn barhaol y tu hwnt i'r argyfwng costau byw hwn.
Mae meiri Llafur hefyd wedi galw am atebion brys i wrthsefyll yr argyfwng costau byw ac i drechu tlodi, megis rhewi rhenti preifat. Dywedodd Lisa Nandy, Ysgrifennydd yr wrthblaid dros ffyniant bro a thai, fod ganddi ddiddordeb ynddynt, gan ddweud nad yw gwneud dim yn opsiwn. Mae'n rhaid archwilio'r rhain, ac yn wir, eu rhoi ar waith ar unwaith. A wnewch chi ymrwymo heddiw felly i gomisiynu gwaith ymchwil brys a gwerthusiad o fewn yr wythnosau nesaf i ganfod y ffordd orau o atal bygythiad cynyddol digartrefedd, sy’n gysgod dros ormod lawer o deuluoedd yng Nghymru y gaeaf hwn oherwydd yr argyfwng costau byw? A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, nad yw gwneud dim yn opsiwn, a’i bod yn bosibl, ac mewn gwirionedd yn hanfodol gweithredu’n gyflym mewn argyfwng? Mae hon yn wers yr ydym wedi'i dysgu o'r pandemig. Dyna mae Llywodraeth yr Alban wedi’i wneud. Weinidog, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud?