Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:17, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Ni allwn wahanu heddiw oddi wrth hanes. Mae'n rhaid inni gydnabod rhywfaint o'r camweinyddiadau cyfiawnder ofnadwy y mae cymunedau sydd mor agos i'r Senedd hon wedi eu hwynebu. Yr wythnos o'r blaen, wrth sôn am farwolaeth drist Tony Paris, nodais fod ei ferch eisiau enwi stryd ar ei ôl yn ei annwyl Butetown. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi ymgyrch i gofio am y camweinyddiadau cyfiawnder y mae'r cymunedau hynny wedi eu hwynebu dan law'r system gyfiawnder yma yng Nghymru—Tony Paris, Pump Caerdydd, y tri a gafodd eu cyhuddo ar gam o lofruddio gwerthwr papurau newydd yng Nghaerdydd, Mahmood Mattan, ymhlith eraill? Mae angen inni ddysgu o'r gorffennol os ydym am ei osgoi eto yn y dyfodol. Diolch.