Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:18, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae'n rhaid imi ddweud bod yna lawer sy'n cael ei wneud, nid yn unig yn fy mhortffolio i, ond yn sicr ym mhortffolio Dawn Bowden hefyd yng nghyd-destun treftadaeth, diwylliant, celf a chwaraeon. Nid wyf yn gwybod a lwyddoch chi i ymweld ag arddangosfa Ailfframio Picton yn yr amgueddfa genedlaethol, a ddydd Sadwrn, agorais ddigwyddiad lansio Hanes Pobl Dduon 365. Roedd yn bwysig ei fod yn cael ei gynnal mewn amgueddfa, yn ogystal â'r arddangosfa Windrush a oedd yn cael ei chynnal. Mae angen inni anrhydeddu'r rhai sydd â threftadaeth ddu, Asiaidd, lleiafrifol ethnig a'u cyfraniad, a chydnabod y materion hyn yng ngoleuni camweinyddu cyfiawnder hefyd.