Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch yn fawr iawn i Sam Rowlands am gyflwyno'r ddadl fer y prynhawn yma? Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau a'u cyfraniadau meddylgar. Fel y mae Sam eisoes wedi dweud, mae gennym draddodiadau chwaraeon gwych yng Nghymru. Rydym yn rhagori mewn llawer o chwaraeon, ac edrychwn ymlaen at Gwpan Rygbi'r Byd y menywod yn Seland Newydd sy'n dechrau yr wythnos nesaf, a gobeithio y bydd pêl-droed y menywod yn mynd â ni gam yn nes at gyrraedd cwpan y byd yn Awstralia a Seland Newydd y flwyddyn nesaf.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod gogledd Cymru—. Rydym wedi siarad am Gymru gyfan, ond mae gan ogledd Cymru yn enwedig draddodiad a threftadaeth chwaraeon i ymfalchïo ynddynt. Mae wedi cynhyrchu llawer o fabolgampwyr gorau a mwyaf llwyddiannus ein gwlad, megis Gary Speed, Tom Price, Sabrina Fortune, Ian Rush, a Jade Jones. Rwy'n siŵr fod llawer mwy; gallai'r rhestr barhau. Ond mae hefyd yn gartref i gyfleusterau o'r radd flaenaf a lleoliadau eiconig, sy'n bwysig iawn i'n gwlad. Rydych chi eisoes wedi sôn am y Cae Ras yn Wrecsam, lleoliad ein gêm bêl-droed ryngwladol gartref gyntaf, ac wrth i'r cyffro adeiladu ynglŷn â chwpan y byd y dynion fis nesaf—mae wedi cyrraedd yn eithaf cyflym, onid yw; mae'n llai na 50 diwrnod bellach—rwy'n siŵr y bydd Wrecsam a gogledd Cymru i gyd yn chwarae rhan fawr yn darparu ffocws i gefnogwyr a helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno—cwpan y byd a'i waddol a sut y bydd yn ysbrydoli'r hyn y byddwn yn ei wneud i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn pêl-droed.
Ond bydd yr Aelodau'n gwybod bod buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, chwaraeon elît a llawr gwlad, yn elfen sylweddol eisoes yn ein rhaglen lywodraethu, gan amlygu'r cysylltiad pwysig rhwng cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan ac iechyd a lles ein cenedl. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod cyfleusterau ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch i bawb os ydym yn mynd i ryddhau manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru, boed hynny ar lawr gwlad, neu'r holl ffordd drwodd i chwaraewyr elît. Mae cyfleusterau modern, hygyrch a chynaliadwy yn hanfodol i annog pobl i ddychwelyd at chwaraeon, neu i ddod at chwaraeon yn y lle cyntaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at dderbyn gohebiaeth gan Ken Skates ynghylch y mater penodol yr oedd am gael trafodaeth bellach gyda mi yn ei gylch. Ond dyna pam ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi £24 miliwn o gyllid cyfalaf dros y tair blynedd nesaf i Chwaraeon Cymru ddatblygu cyfleusterau newydd a chyfleusterau sy'n bodoli eisoes ledled Cymru.
Drwy Chwaraeon Cymru, rydym wedi darparu symiau sylweddol o gyllid, sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r nifer o bobl yng Nghymru sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon, beth bynnag fo'u hoedran, eu gallu a'u cefndir. Ac er enghraifft, ar draws y gogledd, mae llawer o brosiectau sy'n gysylltiedig â gwahanol chwaraeon eisoes wedi elwa o'n buddsoddiad. Rydym bob amser yn gwybod y gallem wario mwy. Pe bai gennym bwll diwaelod o arian, gallem wario mwy o arian. Ond mae'n werth cydnabod bod nifer o sefydliadau wedi elwa. Er enghraifft, mae clwb pêl-droed Llanelwy wedi llwyddo i ffurfio timau newydd o ferched dan 16 oed a bechgyn dan 16, diolch i gyllid ar gyfer offer a hyfforddiant. Mae Clwb Hwylio'r Bala wedi gallu prynu offer i wella'r dull o symud cychod i ac o'r dŵr, a fydd yn helpu pobl hŷn neu anabl yn enwedig sy'n cymryd rhan. Mae Clwb Bowlio Porthaethwy wedi cael cyllid i brynu gwahanol eitemau o offer, gan gynnwys ffurelau ffyn cerdded a chymhorthion codi bowliau i helpu pobl hŷn ac anabl sy'n cymryd rhan. Mae cyngor sir Ynys Môn wedi cael cyllid i ddatblygu cyfleuster 3G newydd yn Amlwch. Bydd y ddau gae llifoleuadau i dimau bach yn ddelfrydol at ddibenion hyfforddi adrannau mini ac iau eu tîm pêl-droed lleol. Ac rwy'n gwybod bod datblygiadau cyffrous ar y gweill hefyd ar gyfer felodrom awyr agored yn ardal Rhuthun, sef yr unig un yn y gogledd. A'r gobaith yw y bydd y prosiect cyffrous hwn, dan arweiniad Beicio Cymru a Denbighshire Leisure Ltd, yn arwain at ddatblygu clwb cynaliadwy newydd yn y cyfleuster, a sefydlu canolfan feicio gyffredinol, gyda phwyslais ar feicio i fenywod ac ieuenctid. Ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn edrych ymlaen at weld y prosiect hwnnw'n datblygu dros y misoedd nesaf. Ac roeddwn hefyd yn falch o glywed y bydd canolfan sglefrio Glannau Dyfrdwy, a grybwyllwyd gan Ken Skates hefyd, ac a gâi ei defnyddio fel canolfan frechu dorfol yn ystod y pandemig, yn ailagor yn fuan fel arena iâ Glannau Dyfrdwy.
Nawr, Sam, fe wnaethoch chi ein herio i fabwysiadu ymagwedd draws-adrannol, ac mae'n rhaid imi ddweud bod hynny eisoes yn digwydd mewn sawl maes. Rydym yn darparu symiau sylweddol o arian i gynyddu defnydd cymunedol o ysgolion a'u cyfleusterau, i gynorthwyo ysgolion i weithredu a datblygu fel ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Bydd ein cefnogaeth yn galluogi ysgolion i estyn allan ac ymgysylltu â theuluoedd, a gweithio gyda'r gymuned ehangach, i gefnogi pob disgybl, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi. Mae fy nghyd-Aelod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cyllid o £24.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi'r gwaith, sy'n cynnwys £20 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn caniatáu i ysgolion ddatblygu ymhellach fel asedau cymunedol.
Mae angen inni sicrhau hefyd fod cyfleoedd i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn ar gael i bawb, ac rwy'n falch iawn fod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wedi edrych ar y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig. Mae gennym ymrwymiad clir iawn eisoes yn ein rhaglen lywodraethu ar gymryd rhan mewn chwaraeon, ymrwymiad sydd wedi ei nodi yn y llythyr cylch gwaith at Chwaraeon Cymru, ac mae wedi'i ymgorffori yn strategaeth Chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, mae adroddiad y pwyllgor, 'Sicrhau chwarae teg', wedi gwneud argymhellion sy'n procio'r meddwl, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor, ac Aelodau eraill wrth gwrs, ar eu cyflawni lle gallwn wneud hynny.
Er hynny, rhan o'r darlun yn unig yw'r arian. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol er mwyn darparu cyfleusterau newydd a chynyddu cyfleoedd yn llwyddiannus. Er mwyn ymdrin yn benodol â ble'r ydym arni gyda'n strategaeth a sut y gweithiwn gyda phartneriaid i wella cyfleusterau a'r niferoedd sy'n cymryd rhan, fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, Sam, fod Chwaraeon Cymru yn arwain newid i'r system drwy ddatblygu'r partneriaethau chwaraeon, ac mae partneriaeth chwaraeon yn dod â chydweithrediad rhanddeiliaid allweddol ynghyd mewn rhanbarth diffiniedig, rhanddeiliaid sy'n deall y pwysigrwydd ac sy'n canolbwyntio ar gyflawni manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Wedi'u harwain gan eu dealltwriaeth, nod y partneriaethau hyn yw bod yn gatalydd i fynd i'r afael â dau fater hirsefydlog.
Yn gyntaf, sicrhau bod y gefnogaeth a'r cyfleoedd cywir ar gael i'r rhai nad ydynt yn gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd, a chan ganolbwyntio'n glir ar ddileu rhwystrau i'r rhai sydd angen y cymorth mwyaf. Yn ail, bydd dull partneriaeth yn gweithredu i ateb galw talent uchel gan y rhai sy'n cymryd rhan ond sydd eisiau gwneud llawer mwy. A bydd sefydlu Chwaraeon Gogledd Cymru yn ddiweddar, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn ei gwneud hi'n bosibl darparu chwaraeon a gweithgarwch cymunedol fel y nodwyd gan Chwaraeon Cymru, a fydd yn cydweithio'n lleol i greu dull cyfannol, gan gynhyrchu trawsdoriad ehangach o effeithiau cymdeithasol.
Ym mis Mehefin 2022, fe gynhaliodd Chwaraeon Gogledd Cymru eu cynhadledd gyntaf i randdeiliaid. Cyfle oedd hwn i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, i ddechrau archwilio gweledigaeth a diben sy'n datblygu ar gyfer eu partneriaeth. Mae gwaith yn parhau ar ymgysylltu ac ymgynghori ar draws y rhanbarth drwy gydol yr hydref, ac mae disgwyl i'r bartneriaeth gael ei lansio'n swyddogol ddechrau'r gwanwyn 2023.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n meddwl ei bod yn adeg gyffrous ar chwaraeon yng ngogledd Cymru, ac rwy'n credu y gall y rhanbarth edrych ymlaen gyda chryn dipyn o optimistiaeth. Mae ymgysylltu cadarnhaol eisoes yn digwydd, gyda phartneriaid cenedlaethol a lleol, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru, y cyfeirioch chi atynt, ynglŷn â chyflawni'r amcanion a rannwn, ac rwy'n gwybod y bydd yr ysbryd cydweithredol hwn yn parhau wrth inni wneud cynnydd ar ryddhau talent chwaraeon a chyflawni ar gyfer holl bobl Cymru. Diolch yn fawr.