Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ar 5 Gorffennaf, dywedodd y Prif Weinidog y byddai Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft ymarferol gyda Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Am y rheswm hwnnw y cafodd proses Cyfnod 1 ei hosgoi. Ddydd Llun, o flaen y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ei fod wedi ei gyflymu yn awr er mwyn inni ddal i fyny gyda Lloegr a'r Alban, ac nad oedd yn mynd i gael ei ddefnyddio fel enghraifft ymarferol gyda Deddf marchnad fewnol y DU. Pan ofynnais iddi pa bryd y newidiwyd y rhesymeg, awgrymodd fy mod yn gofyn i chi, ac yn awr, rwy'n cael cyfle i ofyn ichi, Gwnsler Cyffredinol. Felly, pwy sy'n gywir: y Prif Weinidog, yn ôl ym mis Gorffennaf, neu Weinidog yr amgylchedd ddydd Llun?