Yr Hawl i Brotestio

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 3:02, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb, Gwnsler Cyffredinol. Yn dilyn cyhoeddi esgyniad y Brenin Siarl III i'r orsedd, cafodd nifer o brotestwyr heddychlon eu harestio. Bygythiwyd bargyfreithiwr hyd yn oed y byddai'n cael ei arestio am gario dalen wag o bapur. Mae'r digwyddiadau hyn yn arwyddocaol oherwydd eu bod yn dangos y terfynau didostur y mae Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022 bellach yn eu rhoi ar ein rhyddid yn y DU. Gwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n cytuno â mi fod yr hawl i brotestio'n heddychlon yn rhan hanfodol o'n democratiaeth? Pa sylwadau a wnaethoch i Lywodraeth y DU ers yr arestiadau hyn? Diolch.