Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid bwrdd cyfiawnder troseddol Cymru i ddatblygu'r cynllun gwrth-hiliaeth cyfiawnder troseddol i Gymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi. Mae'r ddogfen hon yn nodi saith ymrwymiad i wireddu system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol, sy'n ategu ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'.