Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch yn fawr, Llywydd. Edrychaf ymlaen at glywed hynny. Dwi'n synnu dim eich bod chi wedi bod yn trafod yn barod. Mae hi mor braf onid yw hi? Dwi wrth fy modd yn gweld plant o ganolfan yr Urdd, nifer ohonyn nhw'n ffoaduriaid, yn chwarae criced a gemau eraill yn erbyn wal y Senedd. Mae hi mor hyfryd, wrth gwrs, gweld yr holl ysgolion sy'n ymweld â'r Senedd. Mae hi mor braf bod gyda ni Senedd-dy yng Nghymru sydd mor agored i'r cyhoedd. Dwi yn gobeithio y bydd cwpan y byd yn rhoi cymaint o blatfform i Gymru a'i fod e'n rhoi cymaint o blatfform i'r Senedd hefyd i ddangos i bobl Cymru, unwaith eto, ein bod ni'n agored iddyn nhw. Diolch yn fawr.