6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effaith meigryn ar blant a phobl ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:12, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae meigryn yn gyflwr cyffredin, poenus a gwanychol sy'n effeithio ar oddeutu un o bob 10 plentyn neu unigolyn ifanc. Yn ôl Brain Research UK, enw gweithredol Ymddiriedolaeth Ymchwil yr Ymennydd, mae meigryn yn un o'r cyflyrau niwrolegol mwyaf cyffredin. Er bod meigryn yn cael effaith sylweddol ar fywydau oedolion sy'n byw gydag ef, gall ei effaith gynnar ar blant a phobl ifanc fod hyd yn oed yn fwy difrifol. 

Mae'n gyflwr cymhleth, gydag amrywiaeth eang o symptomau. I lawer o bobl, y brif nodwedd yw cur pen poenus. Mae symptomau eraill yn cynnwys nam ar y golwg; sensitifrwydd i olau, synau, ac arogleuon; teimlo cyfog; a chyfogi. Bydd y symptomau'n amrywio o berson i berson, ac fe allai unigolion gael symptomau gwahanol yn ystod gwahanol byliau. Gall pyliau amrywio o ran hyd ac amlder hefyd. Mae pyliau meigryn fel arfer yn para rhwng pedair a 72 awr. Gall meigryn effeithio'n helaeth ar waith, teulu a bywyd cymdeithasol.

Ni wyddys beth sy'n achosi meigryn, ond credir ei fod yn gyfuniad o ffactorau genetig, amgylcheddol a ffordd o fyw. Yn ôl ymchwil yn yr Unol Daleithiau, os oes gan blentyn un rhiant sy'n cael pyliau meigryn, mae'r perygl y byddant hwy'n dioddef 50 y cant yn uwch. Mae hyn yn neidio i 75 y cant os yw'r ddau riant yn cael pyliau meigryn. Mae cysylltiad hefyd rhwng hanes teuluol o meigryn a chael pyliau meigryn yn gynharach.

Meigryn yw'r trydydd clefyd mwyaf cyffredin yn y byd, y tu ôl i bydredd deintyddol a chur pen tensiwn, gydag amcangyfrif o achosion byd-eang o 14.7 y cant—tua un o bob saith o bobl. Yn ôl GIG Lloegr, mae tua 10 miliwn o bobl yn y DU yn byw gyda meigryn. Mae meigryn yn effeithio ar dair gwaith cymaint o fenywod â dynion, gyda'r gyfradd uwch yn fwyaf tebygol o fod yn deillio o achosion hormonaidd. Mae ymchwil yn awgrymu bod 3,000 o byliau meigryn yn digwydd bob dydd ym mhob miliwn o'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae hyn yn gyfystyr â dros 190,000 o byliau meigryn bob dydd yn y DU. 

Mae gwahanol driniaethau ar gael i blant sy'n cael meigryn, a bydd y driniaeth fwyaf addas yn dibynnu ar eu hanes meddygol, eu hoedran a'u symptomau. At hynny, caiff meigryn warchodaeth y gyfraith. O'r herwydd, os yw plentyn yn cael pyliau meigryn dros gyfnod o flwyddyn gan effeithio'n negyddol ar eu gallu i gyflawni eu gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, gellir eu hystyried yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan roi rhwymedigaeth ar ysgolion i wneud addasiadau rhesymol i blentyn anabl er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu rhoi dan anfantais fawr. Ac os nad oes gan blentyn neu berson ifanc sydd wedi eu heffeithio gynllun gofal iechyd unigol, gallai fod angen trafod datblygu cynllun sy'n nodi eu hanghenion a gwneud addasiadau priodol wedi'u teilwra ar eu cyfer.