Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch i Mark Isherwood am y cyflwyniad yna i'r cynnig. Wrth gwrs, chwarae teg iddo fe—yn ddyn gwybodus iawn; rydyn ni wedi clywed nifer fawr o ystadegau am bobl sydd yn dioddef o feigryn. Ond mae yna wyneb tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny. Mae yna fywydau yn cael eu heffeithio yn eistedd y tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny, ac mae gen i anwyliaid sydd yn byw efo meigryn, ac yn perthyn felly i'r ystadegau hynny.
Rŵan, mae'n siŵr ein bod ni i gyd, o dro i'w gilydd, wedi clywed am feigryn mewn modd ysgafn iawn—hwyrach, fod mwydro rhywun neu'i gilydd yn ddigon i ddod â meigryn ymlaen, fel mae rhai yn ei ddweud, neu pan fod rhywun yn dioddef o feigryn, hwyrach, mai'r cyngor ydy i eistedd yn y gornel a chymryd ambell i barasetamol. Ond dydy o ddim yn gur pen yn unig; mae meigryn yn fwy na hynny. Mae hynny yn gwneud annhegwch llwyr, felly, â'r cyflwr ac efo'r dioddefwyr, oherwydd fod o yn fwy na chur pen yn unig, ac felly mae'r cynnig yma heddiw ger ein bron yn nodi ei fod o'n cael effaith andwyol ar fywydau dyddiol pobl a phlant.
Ges i'r fraint o gynnal digwyddiad galw i mewn efo'r Migraine Trust yn ddiweddar—a diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd y diwrnod a'r digwyddiad hwnnw—ac roedd y cyfle yna i gael siarad gyda phobl a oedd yn deall y pwnc ac yn arbenigo yn y maes yn agoriad llygaid. O ddeall y gwahanol bethau yna sy'n medru arwain at feigryn, megis straen neu hyd yn oed anghysondeb patrwm bwyta, i’r ffaith, fel y soniodd Mark Isherwood, bod meigryn yn medru bod yn y bol, o bob man, efo'r cyswllt yna rhwng yr ymennydd a'r bol yn amlygu ei hun unwaith eto. Ond, yn anffodus, does yna ddim llawer o bobl yn gwybod pam eu bod nhw yn dioddef o'r meigryn neu beth sydd yn arwain at ymosodiad ohono fo. Mae'r dealltwriaeth o'r clefyd yn fas iawn yn y byd gwyddonol, heb sôn, felly, am ymhlith pobl leyg, ac os ydy’r dealltwriaeth yna mor fas yn y byd arbenigol, yna sut mae disgwyl i athrawon neu gydweithwyr i adnabod y symptomau a medru sicrhau bod camau mewn lle i gynorthwyo pobl sydd yn cael ymosodiad meigryn?
Mae'r cynnig yma, felly, yn un gwylaidd yn ei natur; dydy o ddim yn gofyn am lawer, ond mae'n gam cyntaf pwysig i'r cyfeiriad cywir a fyddai'n helpu i gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth. Yn olaf, felly, gaf i gymryd y cyfle hefyd i ddiolch i'r Migraine Trust am eu gwaith yn y maes yma a'u parodrwydd i gydweithio efo'r Llywodraeth, y byrddau iechyd ac awdurdodau eraill er mwyn cyflawni'r hyn maen nhw'n gofyn amdano? Diolch yn fawr iawn.