Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 5 Hydref 2022.
Gan fod ail gartrefi'n effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru, gwnaethom benderfynu mai ar hyn y byddai ein hymchwiliad cyntaf fel pwyllgor yn canolbwyntio. Un o brif amcanion ein gwaith oedd archwilio’r argymhellion a wnaed gan Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, 'Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’, ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r cynigion hynny. Gwnaethom 15 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rydym yn falch fod 14 wedi’u derbyn yn llawn ac un wedi’i dderbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru.
Gwyddom fod mynd i’r afael â mater ail gartrefi'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bod llawer o waith eisoes yn mynd rhagddo. Yn ystod ein hymchwiliad, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai cynllun peilot graddol yn cael ei gynnal yn Nwyfor, Gwynedd, er mwyn profi nifer o ymyriadau. Rydym yn croesawu’r cynllun peilot hwnnw, ac yn credu y bydd gwerthusiad cywir o’r mesurau sy’n cael eu treialu yno yn allweddol er mwyn deall a ddylid cyflwyno’r mesurau hyn mewn rhannau eraill o’n gwlad. Rydym yn falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd bob chwe mis ar y cynllun peilot a’i effeithiolrwydd. Rydym hefyd yn croesawu cadarnhad y Gweinidog y bydd y cynllun peilot yn destun gwerthusiad annibynnol cadarn.
Credwn ei bod yn bwysig gallu gwahaniaethu rhwng llety gwyliau ac ail gartrefi at ddefnydd personol. Rydym felly’n croesawu diffiniadau dosbarthiadau defnydd newydd Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn credu bod y rhain yn rhoi cyfle am fwy o gysondeb. Ynghyd â chynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer llety gwyliau, gall hyn sicrhau bod gwahaniaeth clir rhwng mathau gwahanol o eiddo.
Clywsom lawer o dystiolaeth am fanteision economaidd twristiaeth i Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol lle mae llawer o bobl yn dibynnu ar y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch am eu bywoliaeth. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw’r buddion economaidd yn cael eu gorbwyso gan effeithiau negyddol ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Mae’r economi ymwelwyr yn hanfodol i Gymru. Mae'n bwysig felly fod ymyriadau sydd â'r nod o ddiogelu cymunedau'n cael eu targedu'n gywir i atal canlyniadau anfwriadol.
Argymhellwyd y dylai'r gwerthusiad o'r ymyriadau yn Nwyfor gynnwys asesu'r effaith ar dwristiaeth. Mewn ymateb, mae’r Gweinidog wedi dweud, lle bo’n ymarferol, y bydd y gwerthusiad annibynnol yn cynnwys yr effaith honno, ac y bydd rhagor o waith archwiliol yn cael ei wneud i bennu sut y gwneir hyn. Hoffwn ailbwysleisio pwysigrwydd asesu’r effaith ar yr economi ymwelwyr i sicrhau bod y nifer o swyddi sy’n ddibynnol arni yn cael eu diogelu.
Roedd llawer o’r dystiolaeth a gawsom yn ystyried ail gartrefi o fewn trafodaeth ehangach am argaeledd tai fforddiadwy. Mae honno’n broblem ledled Cymru, ond mae gan ardaloedd arfordirol a gwledig broblem ychwanegol ail gartrefi i ymgodymu â hi. Mae’n amlwg fod diffyg tai fforddiadwy yn broblem sy’n gwneud i rai pobl, yn enwedig pobl ifanc, symud o’r cymunedau lle cawsant eu magu, a byw ymhellach oddi wrth eu teuluoedd a’u rhwydweithiau cymorth. Gyda llai o bobl o oedran gweithio'n byw yn yr ardaloedd hyn, rydym yn pryderu bod gweithlu sy’n lleihau yn effeithio ar allu cyflogwyr ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i lenwi rolau hanfodol. Mae angen pobl ar gymunedau i oroesi. Os bydd niferoedd uchel o gartrefi mewn trefi a phentrefi yn wag am gyfnodau hir o'r flwyddyn, mae'n anochel y bydd diffyg cwsmeriaid yn gorfodi busnesau i gau yn ystod y cyfnodau tawelach gan adael gweddill y trigolion heb yr amwynderau hynny.
Credwn fod cynyddu argaeledd tai fforddiadwy yn allweddol i atal diflaniad cymunedau cynaliadwy, byw. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu ledled Cymru, ond nid adeiladu cartrefi newydd yw’r unig ateb. Ceir dros 22,000 eiddo gwag ar draws ein gwlad. Bydd dod â’r rheini'n ôl i ddefnydd yn gwneud cyfraniad sylweddol, felly hoffem weld mwy o gynnydd. Cyflwynodd y pwyllgor a’n rhagflaenodd adroddiad ar y mater penodol hwn ym mis Hydref 2019, ac mae’r Gweinidog wedi ymrwymo i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion hynny erbyn mis Rhagfyr eleni.
Roedd effaith ail gartrefi ar y Gymraeg yn un o ystyriaethau allweddol eraill ein gwaith. Rydym yn bryderus ynghylch y dystiolaeth fod niferoedd uchel o ail gartrefi, yn enwedig yng nghadarnleoedd y Gymraeg, yn cael effaith andwyol ar nifer y siaradwyr Cymraeg a hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol yn yr ardaloedd hynny. O'r herwydd, rydym yn croesawu sefydlu’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru, a’i nod o wneud argymhellion i gryfhau polisi mewn perthynas â chynaliadwyedd ieithyddol cymunedau. Rydym yn falch y bydd y comisiwn yn dadansoddi canlyniadau cyfrifiad 2021 a data arall, ac y bydd y gwaith yn cynnwys dadansoddi'r gydberthynas rhwng nifer ail gartrefi mewn cymunedau a nifer y siaradwyr Cymraeg.
Lywydd, mae hwn yn fater pwysig iawn i ni, ac yn enwedig i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig ac arfordirol. Byddwn yn dychwelyd at y mater pwysig hwn yn ystod tymor y chweched Senedd hon i weld sut y mae ymyriadau wedi datblygu. Diolch yn fawr.