Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ail gartrefi, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad.
Fel y gŵyr pob un ohonom, mae’r materion hyn yn ddadleuol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Er nad yw pob ardal o’r wlad yn cael ei heffeithio, mae gan lawer o’n hardaloedd arfordirol a gwledig niferoedd uchel o ail gartrefi. Ynghyd â'r ffaith bod eiddo a arferai fod yn eiddo preswyl yn newid i fod yn llety gwyliau tymor byr a phrinder cartrefi fforddiadwy yn gyffredinol, mae llawer o gymunedau’n teimlo bod eu cynaliadwyedd dan fygythiad.
Nid yw ail gartrefi, wrth gwrs, yn ffenomen newydd yng Nghymru, ond wrth i brisiau tai a chostau byw gynyddu, ynghyd â bod mwy o bobl wedi dod ar wyliau i Gymru yn ystod y pandemig, mae pobl sydd wedi eu magu neu wedi byw mewn cymunedau yr effeithir arnynt yn aml yn methu prynu neu rentu cartrefi yn yr ardaloedd hynny. Mae rhai ardaloedd wedi gweld cymaint o ostyngiad yn nifer y trigolion parhaol fel nad yw gwasanaethau cyhoeddus bellach yn hyfyw, gan gynnwys cau ysgolion. Mae natur dymhorol yr economi ymwelwyr hefyd wedi troi rhai cymunedau'n drefi marw dros y gaeaf, gyda llawer o amwynderau'n cau yn ystod y misoedd tawelach hynny. Wrth gwrs, mae rhannau eraill o’r DU wedi cael problemau tebyg oherwydd niferoedd uchel o ail gartrefi, yn enwedig Cernyw ac ardal y Llynnoedd. Yng Nghymru, rhaid inni hefyd ystyried yr effaith ar y Gymraeg, yn enwedig gan fod llawer o’r cymunedau yr effeithir arnynt wedi’u lleoli yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg.