Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 5 Hydref 2022.
Wrth gwrs, roeddem eisoes wedi cyflwyno ystod o fesurau, gan gynnwys newidiadau i'r terfyn uchaf ar gyfer premiymau treth gyngor dewisol, ac ail gartrefi a thai sy'n wag yn hirdymor. Bydd y newidiadau yn dod i rym o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen ac mae modd i awdurdodau lleol ymgynghori yn awr a gweithredu ar eu penderfyniadau—gwn fod Gwynedd eisoes yn gwneud hyn—er mwyn gwneud dewisiadau cytbwys am bremiwm priodol i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Rydym hefyd wedi gwneud newidiadau i'r meini prawf gosod er mwyn i lety hunanddarpar gael ei ddosbarthu fel llety annomestig ac yn agored i ardrethi annomestig, yn hytrach na llety domestig ac yn agored i'r dreth gyngor. Mae'r mesurau hyn, sy'n cyd-fynd â'r newidiadau a wneir i'r fframwaith cynllunio, yn ein harfogi ni ac awdurdodau lleol i allu rheoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn fwy effeithiol yn y dyfodol.
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y cyfraniad y mae twristiaeth deg yn ei wneud, ond ni allwn barhau i weld cymunedau'n cael eu gwagio. Mae'r pecyn cytbwys a chadarn hwn o ymyriadau yn un sydd heb ei debyg yng nghyd-destun y DU ac mae'n dangos ein bod wedi bod, ac yn ystyried y sefyllfa'n ddifrifol iawn. Yn ehangach, rydym yn gweithio ar nifer o gamau ategol, gan weithio gydag awdurdodau lleol ar opsiynau a hyblygrwydd lleol posibl ar gyfer treth trafodiadau tir i ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Byddai hyn yn ein helpu i ymateb ymhellach i ddosbarthiad anwastad ail gartrefi ar draws Cymru ac ardaloedd o fewn awdurdodau hefyd yn wir.
Rydym yn parhau i archwilio opsiynau i ddod â rhagor o dai gwag yn ôl i ddefnydd amser llawn. Rydym hefyd wedi darparu hyfforddiant i awdurdodau lleol mewn perthynas â'u defnydd o'u pwerau prynu gorfodol ac mae gennym nifer o gynlluniau i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd buddiol, gan gynnwys system o grantiau a'r cynllun lesio, ac yn y blaen, a hoffwn gyfeirio llawer o'r Aelodau sydd wedi codi hynny heddiw at fy natganiadau blaenorol ar y pwnc, lle rydym wedi amlinellu nifer fawr o ymyriadau sydd gennym ar waith.
Hefyd, cadarnhaodd y Prif Weinidog ac Adam Price eu hymrwymiad fel rhan o'r cytundeb cydweithio i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, a byddwn yn cyflwyno ymgynghoriad ar ein cynigion yn y misoedd nesaf. Bydd y cynllun yn ei gwneud hi'n ofynnol i gael trwydded i weithredu llety i ymwelwyr, gan gynnwys llety gwyliau tymor byr, a bydd yn helpu i godi safonau ar draws y diwydiant twristiaeth a gwella data i gefnogi penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol. Ac os caf roi sylw uniongyrchol i gyfraniad Janet ac yn fwy helaeth gan Sam, yn amlwg, rydym eisiau i bobl ddod ar wyliau i Gymru. Yn amlwg, rydym eisiau iddynt gael ail gartrefi a manteisio ar lety gwyliau yma, ond yr hyn yr ydym ei eisiau yw cymuned gynaliadwy. Os siaradwch chi â phobl sy'n dod yma sydd ag ail gartref neu lety gwyliau, nid ydynt eisiau dod i fan lle nad oes neb yn byw a lle nad oes unrhyw siopau a thafarndai; maent eisiau dod i gymuned sy'n ffynnu a phrofi hynny. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'u gyrru allan; mae'n ymwneud â'u gwasgaru a gwneud yn siŵr fod gennym gymunedau cynaliadwy ym mhob ardal. Felly, rwyf eisiau gwneud hynny'n hollol glir. Nid yw'n ymwneud â pheidio â bod yn groesawgar; mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr fod y profiad y mae pobl yn ei gael pan fyddant yn dod i Gymru yn un da a hynny oherwydd bod gennym gymuned gynaliadwy, ffyniannus sy'n defnyddio'r Gymraeg a'r holl fanteision diwylliannol sy'n dod yn sgil hynny. Felly, nid yw'r agenda hon yn erbyn neb; mae'n agenda sydd o blaid ein cymunedau effeithiol ac o blaid ein diwylliannau.
Felly, os caf roi sylw uniongyrchol i'r ymgynghoriad ar y cynllun tai cymunedau Cymraeg drafft, fel y dywedodd Mabon, mae hwn yn llwyr ym mhortffolio fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, ond yn amlwg, rydym yn cydweithio'n agos iawn ar hyn gan eu bod yn gorgyffwrdd yn sylweddol. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, aeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ati i amlinellu ffocws ei gynllun tai cymunedau Cymraeg. Rydym ar fin rhyddhau manylion y cynllun hwnnw. Yn gyffredinol, er hynny, nod y cynllun yw cefnogi cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi, gan ddwyn ynghyd agweddau sy'n ymwneud â thai, datblygu cymunedol, yr economi a chynlluniau iaith. Yn yr Eisteddfod hefyd, lansiodd y Gweinidog gomisiwn ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith. Byddant yn gwneud astudiaeth fanwl o gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg, gan gynnwys effeithiau'r dwysedd uchel o ail gartrefi, ac yn darparu adroddiad ymhen dwy flynedd. A Mabon, bydd hynny wrth gwrs yn cynnwys y sector rhentu preifat ac unrhyw fath arall o ddeiliadaeth; y syniad yw cael cymuned gwbl gymysg a chwbl gynaliadwy sy'n gallu parhau i ddefnyddio'r Gymraeg fel y mynnant.
Byddwn yn darparu diweddariadau pellach, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor ar y datblygiadau yn ardal y cynllun peilot. Rydym eisoes wedi gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda Chyngor Gwynedd a Grŵp Cynefin i ddiwygio'r meini prawf a'r canllawiau ar gyfer ein cynllun cymorth prynu, er enghraifft. Rwyf wedi cefnogi hyn drwy sicrhau bod £8.5 miliwn ar gael dros dair blynedd i helpu pobl i gael troed ar yr ysgol dai. Mae hyn eisoes yn dwyn ffrwyth, ac edrychaf ymlaen at weld nifer o dai ychwanegol yn cael eu cwblhau'n fuan. Rydym hefyd wedi sefydlu grwpiau gweithredol a strategol ar gyfer y cynllun peilot ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i weld sut y gall morgeisi awdurdodau lleol, er enghraifft, fod o fudd yn y cyfnod anodd hwn. Mae hwn, unwaith eto, yn ymrwymiad sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio. Mae'r cynllun peilot yn gyfle da i arbrofi ar gyfer hyn ac ymyriadau eraill a'r defnydd o bwerau newydd a phwerau sy'n bodoli eisoes.
Felly, Lywydd, rydym yn rhoi camau beiddgar a chyflym ar waith ar unwaith ar draws ystod o feysydd i fynd i'r afael â'r materion cymhleth hyn mewn ffordd bendant, fel y dywedasom y byddem yn ei wneud. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad. Mae'r gwaith yn adeiladu ar ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth ac mae i'w groesawu'n fawr iawn, felly, diolch yn fawr. Roeddwn i a chyd-Aelodau'n falch iawn o dderbyn argymhellion y pwyllgor, sy'n rhai ymestynnol, a hynny'n briodol, a byddant yn helpu i ychwanegu ymhellach at ein dealltwriaeth a'n hymrwymiad i fynd i'r afael â rhai o'r problemau mewn ardaloedd lle mae gennym wasgariad anghytbwys o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Wrth gwrs, edrychwn ymlaen at roi diweddariad i'r Senedd, wrth inni barhau i wneud cynnydd ar yr agenda hon ac wrth inni gyflawni ein hymrwymiad i ymateb yn ymarferol i'r argymhellion.
Yn gryno iawn, Lywydd, ar y cyflenwad tai, nad oes gennyf amser i'w drafod yma, byddaf yn gwneud datganiad i'r Senedd ar dai a gwblhawyd yn nes ymlaen yn ystod tymor yr hydref, pan fydd gennym y data ar gyfer hynny. Wrth gwrs, mae gwaith i'w wneud o hyd, ond rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod gennym ni ac awdurdodau lleol yng Nghymru arfau cywir i reoli'r defnydd cymysg o eiddo yn ein cymunedau yn well a bod gennym gymunedau cynaliadwy Cymraeg eu hiaith sy'n ffynnu ledled Cymru. Diolch yn fawr.