Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 5 Hydref 2022.
Dwi innau’n datgan buddiant, yr hyn sydd ar y record gyhoeddus, hefyd.
Gyfeillion, dwi’n falch iawn o gael cyfrannu at y drafodaeth yma. Roedd hi’n bleser cael bod yn rhan o’r ymgynghoriad, a diolch i’r Cadeirydd am ei arweinyddiaeth yn ystod yr ymgynghoriad yma.
Mae o’n un amserol iawn, ac mae o’n dangos consensws trawsbleidiol. Mae yna gydnabyddiaeth yma fod ein cymunedau gwledig ac arfordirol yn byw yng nghanol argyfwng tai, a bod ail dai yn cyfrannu yn sylweddol at hynny. Mae yna gydnabyddiaeth hefyd yma o’r angen i gymryd camau i fynd i’r afael â hyn, ac o ba gamau y dylid eu cymryd.
A dwi’n gweld yr argyfwng hynny yn ddyddiol yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd, o Aberdyfi i Abersoch i Feddgelert ac yna i Landderfel. Mae pobl da wedi bod yn ymgyrchu a thynnu sylw at y mater yma ers hanner canrif, a rŵan, o’r diwedd, mae’r mater yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol ac mae’r Llywodraeth, drwy gydweithio efo ni ym Mhlaid Cymru, yn cyflwyno datrysiadau.
Y gwir trist, wrth gwrs, ydy bod nifer o’n cymunedau wedi colli rhan fawr o’u cymeriad, ac yn gymunedau dienaid a gwag, efo gwasanaethau cyhoeddus yn crebachu a phobl yn ymadael. Ond, mae yna obaith: edrychwch ar bentref bach Rhyd ger Llanfrothen, a oedd unwaith yn bentref a oedd yn llawn tai haf ond sydd bellach wedi adfywio. Rhaid i ni beidio, felly, â rhoi'r gorau i obaith.
Dwi’n meddwl bod profiad y pwyllgor yn hyn o beth yn eithaf unigryw i'r Senedd yma, oherwydd mi ddaru ni gychwyn ar y gwaith cyn i’r Llywodraeth gyhoeddi'r gwahanol ymgynghoriadau ac yna'r newidiadau a oedd yn yr arfaeth. Mae’r gweithredu yma gan y Llywodraeth fel rhan o’r cytundeb cydweithredu efo ni ym Mhlaid Cymru i’w groesawu'n fawr. Roedd o'n ddiddorol dilyn trywydd y cynigion yna gan y Llywodraeth wrth i ni wneud yr ymgynghoriad.
Ystyriwch y camau sydd bellach ar waith: cynyddu treth trafodion tir; addasu cynllunio er mwyn cyflwyno newid defnydd ar gyfer y tai yma, a fydd yn golygu y gall awdurdodau lleol reoli faint o ail dai sydd yn ein cymunedau; system drwyddedu ar gyfer lletyau gwyliau tymor byr—hyn oll a mwy yn bethau yr ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn galw amdanynt ac yn eu hyrwyddo ers blynyddoedd. Bellach maen nhw'n cael eu gweithredu. Diolch byth am hynny.
Mae’r adroddiad yma gan y pwyllgor yn sôn am y gwaith sydd yn mynd ymlaen yn Nwyfor ac yn ardal Gwynedd. Ond, hoffwn wybod gan y Gweinidog pa gynlluniau sydd ar gael i sicrhau bod y cynlluniau yma yn parhau i’r hirdymor yn wyneb yr heriau economaidd sydd yn wynebu awdurdodau lleol, a pha gamau sydd yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod ardaloedd eraill, megis Ceredigion, Penfro, Môn ac Abertawe, yn medru gweithredu'r camau yma.
Mae’r drafodaeth hon heddiw yn amserol yng nghyd-destun adroddiad Sefydliad Bevan a gafodd ei ryddhau'r wythnos diwethaf yn edrych ar effaith Airbnb ar ein cymunedau. Fe wyddoch chi fy mod i wedi bod yn codi’r mater yma ers tro ac yn dadlau mai dyma sydd yn tanseilio'r sector tai hunanddarpar. Mae’r dystiolaeth gan Sefydliad Bevan yn dyst i hynny, ac yn frawychus. Ar ddiwedd y gwanwyn eleni, roedd 22,000 o dai yng Nghymru wedi eu cofrestru ar y platfform hwnnw, efo bron i 60 y cant o'r tai a oedd ar blatfform Airbnb yn addas i bobl fyw ynddyn nhw.
Fel canran o’r stoc dai preifat, maen nhw’n llawer iawn fwy, efo tai Airbnb yn gyfwerth i draean o stoc dai preifat Gwynedd, a phumed o stoc dai preifat Ynys Môn a Cheredigion. Mae hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar y sector rhentu yn yr ardaloedd yma, efo gwerth rhent yn cael ei wthio i fyny, a llai o dai i'w rhentu ar y farchnad. Yn wir, mae’r adroddiad yn nodi y byddai’n cymryd chwe wythnos yn unig i berchennog wneud yr un faint o bres ar dŷ pedair llofft trwy Airbnb ag y gallai wneud trwy osod y tŷ allan i’w rhentu yn lleol ar raddfa lwfans tai lleol. Mae’r system wedi ei osod i fyny, felly, i sicrhau bod y gwerth ariannol mwyaf yn cael ei echdynnu ar draul rhoi to parhaol uwch ben pobl.
Mae hyn hefyd yn ein hatgoffa ni o'r hyn mae fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth wedi'i godi yma sawl gwaith, sef achos stad Bodorgan, sydd yn mynd drwy'r broses o droi pobl allan o'u tai efo'r bwriad o droi'r tai hynny'n dai gwyliau, gan ychwanegu at yr argyfwng digartrefedd. Ac mae Rhun, wrth gwrs, fel rydyn ni'n gwybod, wedi gwneud pob dim o fewn ei allu i helpu'r bobl hynny, ond mae'n dangos fod yna angen am weithredu.
Mae argymhelliad 11 a 12, felly, o’r adroddiad, yn bwysig, sef effaith hyn ar gymunedau Cymraeg eu hiaith. Felly, er mai'r Gweinidog amgylchedd sydd yn ymateb, gan fod cymunedau Cymraeg eu hiaith yn dod o dan gylch gorchwyl y Gweinidog addysg, tybed a fedrai'r Gweinidog amgylchedd gadarnhau os bydd y comisiwn ar gymunedau Cymraeg eu hiaith yn edrych ar yr heriau sydd yn wynebu rhentwyr tai yn ogystal â phrynwyr tai yn y cymunedau hynny. Diolch yn fawr iawn.