Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 5 Hydref 2022.
Mae cynnal digwyddiad mawr yn bwysig, nid yn unig oherwydd yr arian sy'n cael ei wario yn ystod y digwyddiad, ond hefyd am ei fod yn hoelio sylw'r byd ar Gymru ac yn rhoi cyfle inni farchnata Cymru gyfan i ymwelwyr. Ac felly mae angen defnyddio'r ffenest honno i hyrwyddo popeth sydd gan Gymru i'w gynnig, ac nid lleoliad y digwyddiad yn unig. Er enghraifft, roedd y digwyddiad WWE diweddar yng Nghaerdydd yn gyfle inni roi Cymru ar y map yn rhyngwladol, er mwyn annog ymwelwyr a ddaeth i Gaerdydd ar gyfer yr ymweliad i grwydro y tu allan i ganol y ddinas a gweld rhannau eraill o Gymru hefyd.
Wrth gwrs, rhaid i strategaeth gref ar gyfer digwyddiadau mawr ddod ag arbenigedd ynghyd, gan gynnwys partneriaid llywodraeth leol, y diwydiant trafnidiaeth a hyd yn oed y sector preifat. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn gywir i ddweud:
'Mae deall y rhan y mae rhanddeiliaid yn ei chwarae, waeth beth fo'u maint na'u haen, yn creu ymrwymiad ac arbedion gweithredol.'
Ac felly rwy'n falch o glywed y Llywodraeth yn derbyn mai'r sector preifat sydd ar flaen y gad o ran darparu digwyddiadau ac sy'n gallu gwireddu nodau cyflawni'r strategaeth hon yn fwyaf uniongyrchol. Yn wir, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog roi'r diweddaraf i ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei pherthynas â'r sector preifat yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn gwbl lwyddiannus.
Nawr, bydd olrhain yr adnoddau a ddyrennir iddi a sicrhau bod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio'n effeithiol yn allweddol i weithredu strategaeth Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus. Nawr, rwy'n ymwybodol wrth gwrs nad oes gan y Gweinidog goeden arian hud i gefnogi'r sector. Serch hynny, lle dyrennir cyllid, rhaid i drethdalwyr fod yn argyhoeddedig fod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio i sicrhau buddion economaidd gwirioneddol i'n gwlad. Mae angen tryloywder ynglŷn â buddsoddiadau Llywodraeth Cymru, ac mae angen i Weinidogion fod yn ddigon dewr i dderbyn pan nad yw pethau'n gweithio a newid cyfeiriad.
Mae fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, wedi bod yn gofyn cwestiynau ynglŷn â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn yr WWE cyn eu digwyddiad yng Nghaerdydd ym mis Medi, ac er ei fod wedi cael ymateb fod y pecyn cyllido yn destun monitro llym ar ôl y digwyddiad, ni cheir gwybodaeth ynglŷn â sut ffurf yn union a fydd ar y monitro ar ôl y digwyddiad. Nid yw'n afresymol i fod eisiau deall faint yn union o arian a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru yn y digwyddiad hwn a'r meini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu faint i'w fuddsoddi. Dylai'r trethdalwr wybod a yw'r meini prawf a osodwyd wedi'u cyrraedd, ac efallai y gall y Gweinidog ddefnyddio'r cyfle hwn hefyd i gadarnhau a yw'r monitro ar ôl y digwyddiad bellach wedi digwydd a pha ganlyniadau a gafwyd.
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddysgu o'i strategaethau blaenorol a hefyd gan wledydd eraill ar draws y DU a thu hwnt. Mae'r Alban wedi defnyddio dull portffolio o gynnal digwyddiadau a gwyliau, sy'n caniatáu ar gyfer nodi a chefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliant mawr a bach sefydlog, cyson neu un-tro, ac mae angen inni weld mwy o'r dull arloesol hwnnw o weithredu yma yng Nghymru. Mae angen dull portffolio tebyg arnom i helpu i wasgaru'r manteision ar draws y flwyddyn a'r wlad, yn ogystal ag annog a meithrin arloesedd ac entrepreneuriaeth.
Mae angen inni fynd ati'n rhagweithiol i ymchwilio a nodi digwyddiadau y gall Cymru eu datblygu, eu denu neu wneud cais amdanynt, a phan ddaw cyfleoedd i'n rhan, fel yn achos cynnal y gystadleuaeth Eurovision yn y DU, mae angen inni wneud popeth posibl i hyrwyddo cynnal digwyddiadau fel hyn yma yng Nghymru. Nawr, rwy'n deall bod problemau gyda chael Caerdydd i gynnal y digwyddiad, ond y realiti yw nad oes llawer o dystiolaeth fod Llywodraeth Cymru wedi edrych y tu allan i'r brifddinas i gynnal y digwyddiad hwnnw. Fe ellid ac fe ddylid bod wedi gwneud mwy, a dylid bod wedi archwilio pob lleoliad yng Nghymru i ddod â'r cyfle unwaith mewn oes hwn i Gymru, ac eto ychydig iawn o dystiolaeth a welwyd o ymdrech i ddod â'r digwyddiad mawr hwn i ran arall o Gymru. Yn wir, mae angen inni weld ymagwedd lawer mwy parod i gynnal digwyddiadau mawr.
Lywydd, rwyf am sôn yn fyr am Qatar 2022 a'r llwyfan y mae'n ei gynnig inni arddangos Cymru i'r byd. Rwy'n deall y bydd Prif Weinidog y DU, Prif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon i gyd yn mynychu pob un o gemau grŵp Cymru yn erbyn UDA, Iran a Lloegr, ac mae'n gwbl hanfodol fod trethdalwyr Cymru yn gweld gwerth am arian o'r teithiau hyn. Yn wir, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sicrwydd pendant y bydd canlyniadau amlwg yn sgil y teithiau hyn. Nawr, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru
'yn datblygu ymgyrch farchnata... [a fydd] yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed rhyngwladol craidd ar draws brand, busnes a thwristiaeth'.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Tom Giffard yn gywir, mae angen inni wybod sut olwg fydd ar lwyddiant yr ymgyrch hon. Gyda £2.5 miliwn yn mynd tuag at ymgyrch Lleisiau Cymru, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n dangos ei gwariant yn agored a beth y mae'r arian hwnnw'n ei gyflawni.
Yn olaf, efallai mai gwlad fach yw Cymru, Lywydd, ond mae'n un wych er hynny, a rhaid inni fanteisio ar bob cyfle a ddaw i gynnal digwyddiadau mawr a sicrhau canlyniadau yn sgil digwyddiadau gartref, neu oddi cartref yn achos cwpan pêl-droed y byd. Dyma faes lle credaf ein bod i gyd yn nhîm Cymru. Felly, wrth gloi, a gaf fi ddweud fy mod i'n edrych ymlaen at glywed cyfraniad yr Aelodau i'r ddadl hon ar sut y gallwn weithio i godi ein proffil yn rhyngwladol a gwneud y gorau o'r cyfleoedd y gall digwyddiadau mawr eu dwyn yma i Gymru? Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.