Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Wrth i dîm pêl-droed Cymru anelu am Qatar yn ddiweddarach eleni, ac yn dilyn cyhoeddi strategaeth digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf, mae'n gwbl briodol ein bod yn ystyried arwyddocâd economaidd digwyddiadau mawr, gartref ac oddi cartref.
Wrth ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer digwyddiadau mawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cael amser a chyfle i ddysgu gwersi o'r strategaeth flaenorol a gosod cyfeiriad newydd ar gyfer sut yr ymdrinnir â digwyddiadau mawr er mwyn sicrhau ein bod yn cael y budd economaidd mwyaf posibl o'r digwyddiadau hyn. Ac er ein bod yn gwybod bod y sector digwyddiadau yng Nghymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n heconomi, efallai ein bod weithiau'n anghofio arwyddocâd diwylliannol ac ieithyddol y digwyddiadau hyn yn ein cymunedau. Er enghraifft, mae digwyddiadau fel Gŵyl y Gelli, Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a'r Sioe Frenhinol i gyd yn enghreifftiau o ddigwyddiadau sy'n rhan annatod o'n diwylliant a'n hiaith.
Felly, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfeddwl ei strategaeth digwyddiadau mawr a sicrhau bod llawer mwy ar arwyddocâd diwylliannol digwyddiadau mawr. Rydym hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi llawer mwy o ffocws ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru, fel y nodir yn ein cynnig.
Wrth gwrs, yn sail i strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru mae'r angen am gysoni ac integreiddio o fewn y sector digwyddiadau, yn enwedig mewn perthynas â gweithlu a chynllunio. Mae angen inni ddatblygu gweithlu cydweithredol, arloesol sy'n canolbwyntio ar amcanion a rennir, ac er mwyn gwneud hynny'n effeithiol, rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn tyfu sgiliau, gwybodaeth a gallu o fewn y diwydiant. Felly, wrth ymateb i'r ddadl, efallai y gall y Gweinidog fachu ar y cyfle i ddweud ychydig mwy wrthym am lefel y buddsoddiad sy'n cael ei wneud yn y sector a'r camau sy'n cael eu cymryd i'w ddatblygu hyd yn oed ymhellach.
Nawr, rwy'n falch o weld bod strategaeth Llywodraeth Cymru yn derbyn yr angen i wneud y gorau o wasgariad daearyddol a thymhorol digwyddiadau ledled Cymru. Mae'n hanfodol fod pob rhan o Gymru yn cael cyfle i elwa yn sgil digwyddiad mawr mewn un rhan o'r wlad, ac mae angen inni weld llawer mwy o fuddsoddi yn y seilwaith y tu allan i'r brifddinas er mwyn i hynny ddigwydd.