Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, gan ei bod yn rhoi cyfle imi dynnu sylw at bwysigrwydd digwyddiadau i Gymru, a'r ffordd yr ydym yn cefnogi ein gweledigaeth fel y’i hamlinellir yn y strategaeth digwyddiadau cenedlaethol newydd. Ein huchelgais yw bod Cymru’n cynnal digwyddiadau ardderchog sy’n cefnogi llesiant ein pobl, ein lle a’r blaned. Ni ddylai synnu unrhyw un na fyddaf yn cefnogi’r cynnig, na'r gwelliant yn wir.
Cyn manylu rhagor, credaf iddi fod yn gyfres ryfedd o areithiau gan y Ceidwadwyr, gan iddynt ddweud ar y naill law fod gennym yr holl ddigwyddiadau gwych hyn yn dod i Gymru, ac mae pob un o’r digwyddiadau a grybwyllwyd, bron â bod, wedi’u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, ac yna maent yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon. Ac ar yr un pryd, mae gennym her fawr realiti ein hadnoddau ariannol, sy'n golygu bod rhaid ichi ddewis. Rhaid ichi flaenoriaethu. Ni allwch wneud popeth. A'r hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau'r elw mwyaf posibl ar bob un o'r digwyddiadau a gefnogwn.
Ar Eurovision, dylwn egluro na fyddai unrhyw gyfleuster arall yng Nghymru, ar wahân i’r stadiwm yng Nghaerdydd, wedi bod yn ddigon mawr, ac wrth gwrs, mae ganddi hanes cryf iawn o gynnal digwyddiadau mawr. Ond oherwydd cymhlethdod llwyfannu’r digwyddiad, y gofynion yn sgil gwneud hynny, yn ogystal â'r ffaith bod nifer sylweddol o ddigwyddiadau wedi’u trefnu yn Stadiwm Principality, yr her oedd y byddai’n rhaid canslo’r digwyddiadau hynny, gan gynnwys pencampwriaethau rygbi cadair olwyn Ewrop, er enghraifft; artist rhyngwladol mawr a oedd wedi'u cytundebu i ymddangos; a digwyddiadau eraill. Ochr yn ochr â'r cyngor a'r stadiwm, fe wnaethom archwilio amrywiaeth o opsiynau, i weld a allem gynnwys y digwyddiad ochr yn ochr â'r amserlen bresennol, ond nid oedd yn bosibl. Felly, fe wnaethom bopeth y gallem ei wneud, yn ymarferol, i geisio denu cystadleuaeth Eurovision, a byddwn wedi bod yn falch iawn o fod wedi mynychu fy hun, fel cefnogwr Eurovision brwd, er bod hynny'n dân ar groen fy ngwraig.
Ond wrth gwrs mae gennym ddiwydiant digwyddiadau ffyniannus, fel y dangosodd nifer o areithiau'r Ceidwadwyr. Rydym bob amser yn agored i drafodaethau ynghylch dod â digwyddiadau mawr i Gymru, ac yn wir, cynnal portffolio cytbwys o ddigwyddiadau lleol. Gŵyr pob un ohonom fod ystod lawn o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon a busnes yn rhan hanfodol o’n heconomi ehangach. Mae Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yn cefnogi digwyddiadau ledled Cymru drwy Digwyddiadau Cymru sy’n helpu i ysgogi effaith economaidd gadarnhaol. Rydym hefyd yn arddangos lleoliadau o safon fyd-eang, yn rhoi sylw i’n dinasoedd, ein trefi, ein cymunedau, ac fel y dywedwyd, yn tynnu sylw at ein tirweddau bendigedig mewn gwahanol rannau o’r wlad.
Y ffaith ein bod yn cydnabod rôl hanfodol digwyddiadau yng Nghymru, i’r bobl ac i’r economi yw'r rheswm pam y gwyddom fod y sector wedi’i daro’n galed gan y pandemig. Dyna pam fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r sector gyda £24 miliwn i gefnogi mwy na 200 o ddigwyddiadau chwaraeon, diwylliannol a busnes a chyflenwyr technegol drwy'r gronfa adferiad diwylliannol. A byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r diwydiant gan ein bod yn dal i wynebu nifer o heriau yn ogystal â chyfleoedd. Mae’r heriau hynny’n cynnwys yr argyfwng costau byw, realiti newydd Brexit sy'n dal heb ei gwblhau, prinder staff a gwirfoddolwyr, ac mae’r rheini’n real ac yn parhau. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gynorthwyo’r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru i oroesi gan edrych hefyd tua'r dyfodol. Dyna pam ein bod yn datblygu digwyddiadau a chyflenwyr Cymreig. Dyna pam ein bod yn dal i ddenu digwyddiadau rhyngwladol, er mwyn gwella ein henw da fel cyrchfan digwyddiadau blaenllaw. Dyna pam y mae ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â'r sector yn parhau, drwy'r strategaeth newydd, a hyd yn oed yn fwy felly, drwy'r ffaith bod y strategaeth newydd wedi'i chreu mewn partneriaeth â'r sector. Bydd cadeirydd profiadol o'r diwydiant yn bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu'r strategaeth hefyd.
Mae’r strategaeth yn ailbwysleisio ein henw da yng Nghymru fel cenedl ddigwyddiadau ar lwyfan y byd. Mae gennym uchelgeisiau clir i sicrhau ein bod yn cyflawni dull Cymru gyfan, i wneud y gorau o’n hasedau amrywiol i gefnogi gwasgariad daearyddol a thymhorol—rwy’n falch fod hynny wedi cael sylw mewn nifer o areithiau—digwyddiadau cynhenid a rhyngwladol, o'r byd chwaraeon, busnes, diwylliant a ledled Cymru gyfan, sy’n helpu i ddathlu ein diwylliant Cymreig unigryw. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn yr ymyriad.