Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 5 Hydref 2022.
Mae'n ddrwg gennyf am dorri ar eich traws. Hoffwn ddweud, Weinidog, onid ydych yn credu bod angen inni fanteisio cymaint ag y gallwn, yn enwedig ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr, drwy fuddsoddi hefyd mewn cyfleusterau chwaraeon llawr gwlad? Oherwydd os ydym yn ysgogi'r holl ddiddordeb hwn mewn chwaraeon—er enghraifft, pêl-droed, neu beth bynnag—mae'n drueni mawr nad yw rhai pobl ledled Cymru yn gallu cymryd rhan yn y gamp honno yn eu hardaloedd lleol gan fod y cyfleusterau mor wael.