Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 5 Hydref 2022.
A gaf fi ddweud cymaint o bleser yw siarad, unwaith eto, yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar ddigwyddiadau mawr, dadl a gyflwynwyd, unwaith eto, gan fy nghyd-Aelod, Darren Millar? Mae'r ddadl heddiw mor bwysig oherwydd, fel y gwyddom, mae digwyddiadau mawr, yn gyffredinol, yn gwneud cymaint i gefnogi ein heconomi yma yng Nghymru, a'n cymunedau lleol wrth gwrs. Dyna pam yr hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy amlinellu'n glir y manteision a geir o fuddsoddi mewn digwyddiadau mawr.
Yn gyntaf oll, maent yn rhoi hwb i economïau lleol yn sgil cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a mwy o wariant; maent yn ymestyn y tymor twristiaid ac ymwelwyr drwy ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau ym misoedd y gaeaf; gallant fod yn llwyfan i ddarparu cyhoeddusrwydd cadarnhaol i ardal ar gyfryngau lleol a chenedlaethol; cynyddu proffil yr ardal yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol drwy gael digwyddiadau mor arwyddocaol; gallant annog cyfleoedd twf economaidd drwy ddatblygu'r gadwyn gyflenwi leol; rhoi cyfleoedd i'r gymuned gymryd rhan drwy wirfoddoli i helpu i ddatblygu sgiliau a chyfleoedd gwaith; ac wrth gwrs, darparu adloniant lleol i'r gymuned a chyfleoedd hamdden ychwanegol i drigolion ar draws yr ardal.
Ar ben y manteision mesuradwy hyn, ceir y ffactor teimlad braf wrth gwrs. Mae cael ardal fywiog a deinamig yn creu manteision anfesuradwy i gymunedau a busnesau, ac i'n hiechyd a'n lles wrth gwrs. Aelodau, fel finnau, rwy'n siŵr eich bod wrth eich bodd yn darllen adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, 'Welcoming Communities: Developing tourism in Wales' a gyhoeddwyd ym mis Awst. Amlygodd yr adroddiad eto pa mor bwysig yw twristiaeth ac ymwelwyr i ni yma yng Nghymru, gan ddangos bod 17.6 y cant o'n cynnyrch domestig gros yn gysylltiedig â thwristiaeth, a chaiff dros 12 y cant o'n trigolion eu cyflogi yn y sector twristiaeth. Mae'r cysylltiad rhwng twristiaeth, ymwelwyr a digwyddiadau yn arwyddocaol i'n heconomi sy'n ffynnu.
Wrth edrych ar rai o'r digwyddiadau mawr blaenorol a gynhaliwyd yn fy rhanbarth i, yng ngogledd Cymru, mae'n amlwg pam eu bod wedi llwyddo cystal i hybu economi Cymru. Un enghraifft o hynny, wrth gwrs, oedd Rali Cymru GB, a gynhaliwyd yng ngogledd Cymru yn y gorffennol. Cyfrifwyd bod hwnnw wedi cael effaith flynyddol o tua £10 miliwn ar yr economi yng ngogledd Cymru—dyna £10 miliwn o arian newydd a swyddi newydd.
Ond wrth gwrs, mae angen llu o'r mathau hyn o ddigwyddiadau, ac mae angen pobl fedrus i drefnu a chydweithio. Digwyddiad a ddenwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd pencampwriaethau rali'r byd, a dros y blynyddoedd, mae'r cyngor hwnnw wedi meithrin arbenigedd ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi denu—ac fe restraf rai o'r pethau hyn—pencampwriaeth rhedeg mynydd a phellteroedd eithafol y Gymanwlad; pencampwriaeth y byd rhedeg llwybr; pencampwriaeth y byd pysgota'r glannau; pencampwriaeth y byd rhedeg mynydd, ras y meistri; cyflwyniad tîm Tour of Britain y byd beicio; a chyngherddau blynyddol gan fawrion fel Syr Tom Jones, Syr Elton John, Lionel Richie, Bryan Adams a band merched mwyaf y byd, yn ôl yr hyn rwy'n ei glywed, Little Mix. Cynhaliwyd Proms in the Park y BBC yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf hefyd. Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy helpu i ddenu her Red Bull Unleashed a her syrffio proffesiynol y DU yn Surf Snowdonia; cawsant y pentref ar gyfer pencampwriaethau rali'r byd a rownd gyn-derfynol pencampwriaethau rali'r byd. Hyn i gyd, yn ogystal â phethau fel Strafagansa Llandudno, y mae'r Aelod dros Aberconwy bob amser yn awyddus iawn i'w gefnogi, a gŵyl fwyd Conwy, y mae pob un o'r Aelodau bob amser yn awyddus i'w chefnogi.
Ond mae llawer o'r digwyddiadau hyn, digwyddiadau mawr sy'n digwydd yn ystod yr hyn sy'n draddodiadol yn dymor tawel i ymwelwyr â'r rhanbarth, wedi cynnal gwestai, wedi cynnal bwytai, wedi cynnal tafarndai a siopau lleol, gan gynyddu eu masnach ar adegau o'r flwyddyn sydd fel arfer yn dawelach, a chynhyrchu degau o filiynau o bunnoedd i'r economi. Yn fy mhrofiad i, ni fyddai'r digwyddiadau hyn wedi digwydd heb weledigaeth uchelgeisiol a bwriadol gan awdurdod lleol; ond hefyd, i fod yn deg, heb waith partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, a'r ddau bartner, boed yn sector preifat neu sector cyhoeddus, yn barod i fuddsoddi i ddenu'r digwyddiadau yma i'r rhanbarth. Unwaith eto, Weinidog, i fod yn deg, dangoswyd bod yr uchelgais hwn gan Lywodraeth Cymru yn llwyddiant ar brydiau mewn blynyddoedd a fu, ac ni ddylid ei ddiystyru na chefnu arno.
Dyna pam rwy'n awyddus i gefnogi'r cynnig heddiw, i weld ein bod yn dysgu o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda yn y gorffennol, yn arbennig y gwaith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a'r sector preifat, i wneud yn siŵr nad ydym yn colli golwg ar weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer yr hyn sy'n gweithio'n dda yma yng Nghymru, ac fel nad ydym hefyd yn colli'r sgiliau pwysig, y profiad a'r angerdd sy'n bodoli eisoes, ac y gellir adeiladu arnynt yn ein cymunedau, i wneud y gorau o ddigwyddiadau mawr yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.