Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 5 Hydref 2022.
Rydym i gyd yn gwybod am y manteision y gall cynnal digwyddiadau mawr yma yng Nghymru eu cynnig. Mae digwyddiadau mawr yn creu cyfleoedd i unigolion, cymunedau, busnesau a sefydliadau, ledled Cymru, i rannu yn y manteision economaidd a gynhyrchir a rhoi cyfle i arddangos Cymru ar lwyfan rhyngwladol.
Mae gan Gymru leoliadau o safon fyd-eang eisoes, gan gynnwys Stadiwm y Principality, Gwesty'r Celtic Manor, Venue Cymru a'r Arena Abertawe newydd, ond yn anffodus mae hanes Llywodraeth Cymru o ddod â digwyddiadau mawr i Gymru yn dameidiog a dweud y lleiaf. Y rheswm am hyn yw bod dull Llywodraeth Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru wedi ei nodweddu, ysywaeth, gan ddiffyg uchelgais. Trwy fethu bachu potensial economaidd llawn cynnal digwyddiadau mawr, mae pobl Cymru wedi cael cam dro ar ôl tro. Fe wnaeth un o'r digwyddiadau mawr mwyaf llwyddiannus, Cwpan Ryder, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Celtic Manor yn 2010, chwistrellu dros £80 miliwn i economi de Cymru. Denwyd nifer fawr o wylwyr i'r lleoliad, ac fe wyliwyd y digwyddiad gan filiynau o bobl ar y teledu yma a thramor, gan godi proffil Cymru yn y pen draw. Yn 2014, gwnaeth yr un lleoliad gynnal uwchgynhadledd NATO, digwyddiad y dywedodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Carwyn Jones, fod gwerth y cyhoeddusrwydd a ddaeth yn ei sgil i Gymru yn llythrennol anfesuradwy.
Yn anffodus, eithriadau yw digwyddiadau mawr o'r fath a gynhelir yng Nghymru. Yn ei gyfraniad, cyfeiriodd fy nghyd-Aelod Paul Davies at fethiant i gynnig am, a chynnal y gystadleuaeth Eurovision yma yng Nghaerdydd. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi galw dro ar ôl tro ar i Gymru wneud cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026 neu hyd yn oed 2030. Y tro diwethaf i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal yng Nghymru oedd ym 1958. Bydd dod â Gemau'r Gymanwlad i Gymru unwaith eto yn gwella ein henw da am lwyfannu digwyddiadau rhyngwladol. Ym mis Gorffennaf 2016, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru astudiaeth ddichonoldeb i gynnal y gemau. Daeth i'r casgliad fod cais yn dechnegol bosibl pe bai modd goresgyn yr heriau logistaidd. Mae'r heriau hyn yn cynnwys y gemau a'r digwyddiadau'n cael eu cynnal dros ardal ddaearyddol ehangach. Ond byddai hyn yn fantais, oni fyddai, gan sicrhau budd economaidd ar draws Cymru ac nid i un rhanbarth bach yn unig.
Efallai y bydd strategaeth uchelgeisiol ar gyfer digwyddiadau mawr hyd yn oed yn rhoi cymhelliant i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddatrys problem trafnidiaeth gronig Cymru o'r diwedd. Mae cyngherddau diweddar yng Nghaerdydd gan Tom Jones, y Stereophonics ac Ed Sheeran yn amlwg wedi dangos diffygion ein systemau trafnidiaeth. Roeddem i gyd yn dystion i'r anhrefn lwyr pan lwyfannodd Ed Sheeran dri chyngerdd yn Stadiwm Principality. Roedd ciwiau 15 milltir o hyd ar yr M4, roedd modurwyr yn methu symud o'u meysydd parcio oherwydd y tagfeydd ynghanol y ddinas, a gadawyd llawer o bobl yn gaeth ar blatfformau trenau am oriau bwy'i gilydd am nad oedd ein rhwydwaith rheilffyrdd fregus yn gallu ymdopi â'r galw. Daeth Caerdydd a'r cyffiniau i stop. Mae'n sefyllfa drist iawn pan fo pobl yn cael eu hannog i beidio â mynd ar y trên am nad yw'r rhwydwaith rheilffyrdd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Nod y strategaeth flaenorol ar gyfer digwyddiadau mawr, a ddaeth i ben ddwy flynedd yn ôl, oedd
'datblygu portffolio cytbwys a chynaliadwy o ddigwyddiadau mawr a fydd yn gwella enw da rhyngwladol Cymru a lles ei phobl a'i chymunedau.'
Mae'r strategaeth honno wedi methu'n llwyr. Ond Weinidog, un digwyddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gefnogi yw gŵyl y Dyn Gwyrdd. Rhwng 2010 a 2019, cafodd Green Man a'i gwmnïau cysylltiedig gymorth ariannol gwerth £921,000 gan eich Llywodraeth. Daw hyn ar ben y £4.25 miliwn a wariwyd gennych ar brynu fferm Gilestone. Mewn cyferbyniad, er cymhariaeth i'r holl Aelodau yma heddiw a thu hwnt, dim ond £14,950 a dderbyniodd Glastonbury, gŵyl y mae pawb ohonom wedi clywed amdani, yn 2019 i 2020, a £14,500 yn y flwyddyn flaenorol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
I mi a phobl sy'n hoff o ddigwyddiadau, mae'n drist iawn fod rhai digwyddiadau'n cael ffafriaeth dros eraill gan Lywodraeth Cymru, a'r unig ffordd y gallwn ragori yw os ydym yn rhoi cyfle cyfartal i Gymru pan ddaw'n fater o gynnal digwyddiadau mawr. Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch weld yn awr mai ychydig iawn o hyder sydd gennym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, y bydd eich strategaeth newydd yn cyflawni ei nodau mewn gwirionedd. Y cyfan sy'n ddiffygiol yw uchelgais a'r ewyllys i lwyddo. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn cyngor William Shakespeare: dylai uchelgais gael ei wneud o ddeunydd cadarnach. Diolch.