1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Hydref 2022.
8. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith gweithredoedd diweddar Llywodraeth y DU ar gyfrifoldebau datganoledig? OQ58533
Llywydd, mae Llywodraeth ddiweddaraf y DU wedi gwrthod diystyru toriadau i fudd-daliadau, wrth gadarnhau ei bwriad i dorri gwasanaethau cyhoeddus. Bydd blaenoriaethau gwrthnysig o'r fath yn effeithio'n andwyol ar ein gallu i gyflawni cyfrifoldebau datganoledig, ac yn cosbi'r tlodion er mwyn talu am fonysau bancwyr.
Prif Weinidog, rydym eisoes wedi clywed digon heddiw, rwy'n credu, i bwysleisio barn llawer yn y Senedd, gan grybwyll eu hetholwyr, bod pobl a sefydliadau'n wynebu heriau digynsail ar hyn o bryd gyda'r argyfwng costau byw, costau tanwydd ac ynni, a phopeth arall yn codi gymaint, gyda sefyllfa'r gyfradd llog wedi'i chreu gan Lywodraeth y DU, a gyda, rwy'n ofni, toriadau i wariant eto i ddod. Mae wir yn storm ofnadwy i bobl a sefydliadau geisio byw trwyddi. Yn amlwg, Prif Weinidog, bydd Llywodraeth Cymru, fel yr ydych chi wedi nodi, yn gwneud popeth o fewn ei gallu i fynd i'r afael â'r materion hyn ar gyfer pobl yma yng Nghymru, ond mae llawer o'r dulliau ysgogi angenrheidiol sydd i'w defnyddio i ymateb, yn nwylo Llywodraeth y DU. Dyna pam, rwy'n gobeithio, y bydd y comisiwn annibynnol hwnnw a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn gallu gwneud cynnydd, fel ein bod yn cael strwythurau a threfniadau ar waith ar gyfer sianel gyfathrebu briodol i ganiatáu'r gwaith o fynd i'r afael yn briodol â'r materion hyn ar sail cyfrifoldeb datganoledig.
Prif Weinidog, yn ogystal â hynny i gyd, mae awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol, a chymaint o rai eraill yng Nghymru, yn ysu am sianeli cyfathrebu da, sianeli cyfathrebu gwell hyd yn oed â Llywodraeth Cymru. A tybed beth allech chi ei ddweud heddiw o ran yr angen hwnnw a chyflawni'r angen hwnnw i gael cyswllt rheolaidd, sianeli cyfathrebu effeithiol, ar adeg mor anodd o bwysau mor ddigynsail.
Llywydd, diolch i John Griffiths am hynna, a gwnaf ddau bwynt os caf. Yn gyntaf oll, cymeradwyo'r hyn a ddywedodd am bwysigrwydd gwaith y comisiwn, wedi'i gadeirio gan yr Athro Laura McAllister a'r Archesgob Rowan Williams. Bydd yr aelodau yma'n gwybod, ar y cyd ag awdurdodau'r Senedd, bod Llywodraeth Cymru yn noddi cyfres o ddarlithoedd pryd y byddwn yn clywed lleisiau o'r tu allan i Gymru sydd â chyfraniad i'w wneud o ran meddwl am ein dyfodol cyfansoddiadol. Mae disgwyl i'r gyntaf o'r darlithoedd hynny gael ei threfnu yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf. Fe'i traddodir gan David Lidington, y cyn Ddirprwy Brif Weinidog yn Llywodraeth Theresa May. Rwyf wedi darllen rhai o'r cyfraniadau y mae wedi'u gwneud at y dadleuon hyn mewn mannau eraill; mae e'n werth ei glywed wir. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yma yn gallu dod i glywed beth sydd ganddo i'w ddweud ac i drafod y materion hynny gydag ef. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ychwanegu at y dadleuon sydd gennym yn fewnol, y lleisiau hynny o du allan i Gymru a all ein helpu i ehangu ein dealltwriaeth ac i ddyfeisio dyfodol i ni'n hunain yn y ffordd orau bosibl.
Fy ail ymateb i John Griffiths, Llywydd, yw i, unwaith eto, gytuno ag ef ar bwysigrwydd cyfathrebu. Dyna pam, ddoe, yng nghyfarfod wythnosol pwyllgor y Cabinet ar gostau byw, ymunodd ein partneriaid cymdeithasol â ni. Felly, ymunodd y sector gwirfoddol â ni. Bydd cymunedau ffydd yn ymuno â ni. Bydd cynrychiolwyr o ddiwydiant preifat yn ymuno â ni a hefyd Cyngres Undebau Llafur Cymru. Bydd llywodraeth leol yn y cyfarfod hwnnw hefyd, a byddan nhw'n dod bob pythefnos i bob cyfarfod arall o'r pwyllgor hwnnw, er mwyn gwneud yr union beth y mae John Griffiths wedi ei ddweud—gwneud yn siŵr fod cyfathrebu uniongyrchol rhyngddyn nhw a Llywodraeth Cymru ynghylch unrhyw safbwyntiau sydd ganddyn nhw; o ran unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw y dylem ni ei chael, byddan nhw'n gallu ei darparu. Ond hefyd, pryd gallwn ni esbonio rhai o'r camau yr ydym ni'n eu cymryd, byddan nhw wedyn yn gallu trosglwyddo hynny'n uniongyrchol i'w haelodau a'u sefydliadau, y gwyddom y bydd ganddyn nhw gymaint i'w wneud dros y gaeaf pan ddaw hi i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed rhag y profiadau anodd yr ydym ni'n gwybod bydd yn siŵr o ddod i'w rhan.
Diolch i'r Prif Weinidog.