Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 11 Hydref 2022.
Wel, a gaf i ddweud i gychwyn fy mod i o'r farn gref fod cyfraniad yr Aelod wedi dechrau yn well nag y gorffennodd? Rydw i'n ei llongyfarch hi ar ei defnydd o'r Gymraeg yn y Siambr, ac rwy'n annog llawer mwy o hynny.
Felly, fe wnaeth hi nifer o bwyntiau eang, rhai ohonyn nhw'n berthnasol i'r datganiad, a rhai ohonyn nhw yn berthnasol i feysydd eraill. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dangos o'r dechrau nad oes unrhyw wrthdaro rhwng croesawu pobl i'n cymunedau ni a ffyniant y Gymraeg. Rydym ni'n gweld pobl bob dydd o bob rhan o'r byd sydd wedi dewis dod i fyw yma yng Nghymru ac rydym ni wrth ein boddau iddyn nhw ddysgu Cymraeg. Rwy'n credu bod hynny i'w ddathlu wir. Mae hynny'n rhywbeth cwbl anhygoel i'w weld. Rydym ni wedi gweld plant o Wcráin yn dysgu Cymraeg. Rydym ni'n gweld hynny gyda phobl sy'n dod o rannau eraill o'r DU ac ymhellach i ffwrdd.
Mae swyddogaeth y llysgenhadon diwylliannol yn bwysig iawn yn hyn o beth, wrth gynnwys pobl yn y gymuned, gan esbonio'r cyd-destun diwylliannol yn y lle maen nhw wedi dewis byw ynddo. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o greu'r amgylchedd croesawgar hwnnw. Rwy'n canfod arwyddion yng nghwestiwn yr Aelod o'i bod hi wedi darllen yr araith a roddais i yn yr Eisteddfod, felly rwyf yn diolch iddi hi am y ganmoliaeth ymhlyg yn hynny, ond mae hi'n iawn i ddweud nad yw'r prif rifau yn ddigonol os nad yw pobl yn defnyddio'r iaith bob dydd. Dyna pam rydyn ni'n lwyr awyddus i weld economïau lleol sy'n ffynnu. Rwy'n clywed y pwynt y mae hi'n ei wneud yn gyson ynglŷn â'r trothwy ar gyfer llety hunan-arlwyo. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod eiddo yn y rhan honno o'r sector yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n gynhyrchiol i'r economi. Nid ydym ni'n dymuno gweld y tai hynny'n wag am gyfnod maith a thynnu oddi wrth allu'r gymuned i ffynnu yn economaidd, yn gymdeithasol ac o safbwynt ieithyddol.
Mae hi'n gwneud llawer o'r pwyntiau o ran cyfleoedd gwaith mewn rhannau o Gymru yr oeddwn innau'n eu gwneud yn y Senedd ddiwethaf pan oeddwn i'n Weinidog Brexit. Rwy'n falch o weld ei bod hi o'r diwedd wedi sylweddoli canlyniad rhai o'r penderfyniadau yr oedd hi'n hapus i'w cefnogi nhw yn nyddiau olaf y Senedd ddiwethaf. Rwy'n credu y dylid croesawu'r dröedigaeth fel honno ar y ffordd i Ddamascus yn fawr, yr oedd cyfraniad heddiw yn tystiolaethu ohoni. Rwyf i'n wir yn croesawu'r gefnogaeth hefyd y mae hi'n ei rhoi ar gyfer dull uchelgeisiol o ymdrin ag enwau lleoedd. Rwy'n cydnabod bod tyndra yn hynny o beth, mae'n debyg, gyda'i hymrwymiad arall hi i farchnad rydd, felly rwy'n credu mai rhywbeth arbennig o arwyddocaol yw ei bod hi'n gweld hynny'n rhan o'r datrysiad.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, er hynny, mewn difrif, wrth gloi fy ymateb i'w phwyntiau hi, yw bod gennym ni nodau uchelgeisiol o ran adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu, ond mae hi'n gwybod mai canlyniadau chwalfa economaidd y 10 diwrnod diwethaf fu gwthio cyfraddau llog yn uwch yn sylweddol iawn, ac fe fydd hynny'n rhoi pwysau anhygoel ar nodau adeiladu tai ein Llywodraeth ni a nodau pob Llywodraeth arall yn y DU yn y maes hwnnw hefyd. Dyna pam mae hi mor bwysig bod polisi economaidd Llywodraeth y DU yn cael ei phennu gyda'r amcanion cymdeithasol ehangach hyn mewn golwg. Rwy'n rhannu'r uchelgais o sicrhau ein bod ni'n adeiladu digon o gartrefi yng Nghymru i bobl allu byw ynddyn nhw'n fforddiadwy, ond mae camau ei chydweithwyr hi yn San Steffan yn gwneud hynny'n fwy anodd yn hytrach nag yn haws, mewn gwirionedd.