Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 11 Hydref 2022.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Diolch hefyd am gael golwg arno cyn y cyhoeddiad yma heddiw. Mae’r Gweinidog, wrth gwrs, yn llygad ei le wrth ddweud fod ail dai wedi achosi trafferthion mawr i’n cymunedau gwledig ac arfordirol, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfhaf, a hynny ers degawdau. Mae’r niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr wedi arwain at y Gymraeg yn colli tir, pobl yn gadael eu cymunedau, a’r colledion cymdeithasol a chymunedol a ddaw yn sgil hynny. Dyna, wrth gwrs, y cefndir trist, ond dwi'n falch, trwy gydweithio efo Plaid Cymru a thrwy wrando ar lais ymgyrchwyr sydd wedi bod mor huawdl yn cyflwyno'r broblem a chynnig atebion ers degawdau, fod yna olau ar ben draw y twnnel.
Dwi’n cytuno efo datganiad y Gweinidog wrth iddo ddweud ein bod ni’n torri tir newydd yma yng Nghymru. Fe hoffwn gymryd y cyfle i groesawu’r pecyn o fesurau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi, y 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' newydd yma, a bod yna gyllid sydd am gynorthwyo er mwyn cyrraedd y nod. Mae yna gwestiwn, wrth gwrs, a ydy'r cyllid yma am fod yn ddigonol, oherwydd mae’r argyfwng tai yn anferthol. Felly, dwi'n chwilio am sicrwydd ynghylch hirhoedledd y cyllid tuag at yr amcanion yma. Hoffwn i ofyn i’r Gweinidog sut yn union y mae o’n rhagweld y bydd y cynllun yma yn helpu i wireddu amcanion y pecyn o fesurau ehangach ar gyfer delio efo'r argyfwng ail gartrefi yr ydym wedi sôn amdano'n barod.
Hoffwn i bwysleisio, er gwaethaf fod yna rai ardaloedd efo nifer uchel o siaradwyr Cymraeg a rhai ardaloedd efo nifer isel o siaradwyr Cymraeg, fod yr iaith yn perthyn i Gymru gyfan ac i bawb yng Nghymru, o Fôn i Fynwy. Dwi’n nodi eich bod yn sôn am ardal Arfor, sydd yn mynd o Fôn i sir Gâr, ond mi fyddwch chi’n gwybod fod yna ardaloedd eraill, megis ardal eich magwraeth chi yng nghwm Tawe, sydd efo nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, hefyd yr hen fro ym Maesteg, neu ddyffrynnoedd Clwyd a Cheiriog. Felly, sut mae’r Gweinidog yn rhagweld y bydd y cynllun yn amddiffyn yr iaith a'r diwylliant ar draws Cymru, nid yn unig yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg?
Wrth i ni aros am ganlyniadau’r cyfrifiad i gael eu dadansoddi, mae’n amlwg y bydd gan y data ar yr iaith oblygiadau i unrhyw gynllun gan y Llywodraeth er mwyn amddiffyn y Gymraeg. Hynny ydy, mi fydd y cyfrifiad yn rhoi darlun mwy clir o statws y Gymraeg, ac mi fydd angen i ni ystyried y data wrth i ni symud ymlaen gydag unrhyw bolisïau newydd. Felly, ydy’r Gweinidog yn hyderus y bydd y cynllun yma yn addas i’r diben, ac yn medru cymryd i ystyriaeth canlyniadau’r cyfrifiad?
Soniodd y Gweinidog am y mater o dai yn cael eu gwerthu cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad, neu’n cael eu gwerthu’n sydyn i brynwyr oedd â’r gallu ariannol i’w prynu'n ddi-droi. Fe soniodd am sefydlu cynllun cyfle teg, fel soniodd Janet Finch-Saunders yn ei gylch. Doedd hi ddim am weld hyn yn dod yn statudol, ond dwi'n awyddus i weld a oes gennych chi syniadau i ddatblygu'r cynllun gwirfoddol yma i fod yn gynllun statudol a fydd yn parhau ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac yn ei ymestyn ar gyfer ardaloedd eraill hefyd, er mwyn sicrhau bod gan bawb gyfle i fyw yn eu cymunedau.
Agwedd arall hoffwn i gyffwrdd arni ydy’r mater o enwau lleoedd, fel ddaru chi sôn amdano ar ddiwedd eich cyfraniad diwethaf. Dwi’n croesawu’r ffaith bod y cynllun yma am helpu i amddiffyn enwau lleoedd, rhywbeth mae'r blaid hon wedi sôn amdano sawl tro. Rydyn ni'n cofio, wrth gwrs, cynnig Dr Dai Lloyd i amddiffyn enwau lleoedd yng Nghymru. I ailadrodd y pwynt a wnaed ynghynt, mae’r iaith a'r diwylliant Cymreig yn berchen i bob un ohonom ni, ac yn rhan o'n hanes a'n hetifeddiaeth cyffredin yma. Felly, sut mae’r Gweinidog yn rhagweld y bydd y cynllun yn mynd ati i amddiffyn yr iaith trwy enwau lleoedd ar lefel statudol?
Yn olaf, mae'r 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' yn sôn am fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Ond, o ystyried cyndynrwydd y Llywodrareth i ddatblygu fframwaith statudol i alluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth ar asedau cymunedol, pa ran mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ei chwarae yn hyn? Ac a wnewch chi gydweithio efo hi er mwyn cryfhau'r fframwaith statudol er mwyn galluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth ar asedau cymunedol er mwyn cyrraedd eich dibenion? Diolch yn fawr iawn.